Newyddion

English

03 Chwefror 2017

Eira

Mae siarad am y tywydd yn ail natur i ni, ac yn fodd i gynnal sgwrs pan nad oes llawer arall i’w ddweud. A phetai’n bwrw eira, mae hynny’n destun siarad gan bawb!

Ond faint o eiriau sydd i ddisgrifio eira yn benodol? Mae yna ystôr ohonynt yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru, a rhai ohonynt yn hen iawn.
Er enghraifft sonnir am friwod, sef eira mân a yrrir gan y gwynt, a chynneiry, sef eira cyntaf, tua’r flwyddyn 1400 yn Llyfr Coch Hergest.
Mae’r bardd Iolo Goch yn cyfeirio at liw nyf, sef lliw eira, yn y 14eg. ganrif, a Dafydd ap Gwilym yn sôn am ôd (eira), gair sydd ar lafar o hyd mewn rhai ardaloedd yn y ferf odi (bwrw eira) .

Ar ddiwrnod eiriog (llawn o eira), efallai mai ffluwch (haen denau), ffrechen (cawod ysgafn), neu sgimpen (haen denau) a gwymp, neu daw eirwynt a lluwch neu luchfa o fanod (mân ôd, eira mân) i’n cadw i ffwrdd o’r lonydd ac o’r gwaith. Ac wrth gwrs mewn ychydig o ddiwrnodau, bydd y gwynneiry (eira gwyn) neu’r hiffiant (eira wedi ei yrru gan y gwynt) wedi troi yn isgell neu botes eira (eira tawdd) hyll a budr.

A wyddoch chi am unrhyw hen eiriau lleol neu anghyffredin i ddisgrifio’r eira (neu unrhyw dywydd arall)?
Chwiliwch amdanynt (ac am ddim) yn GPC ar lein. Ac os nad ydynt yno, byddwch mor garedig â chysylltu â ni ar gpc@geiriadur.ac.uk neu Geiriadur Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth SY23 3HH.
Rydym yn edrych ymlaen at glywed oddi wrthoch!


Caiff eitemau hŷn eu harchifo a gellir eu gweld dan y botwm Newyddion yn y panel ar y dde.
Yn ôl i’r brig