tynnaf12002

tynnaf1: tynnu 

[Crn. C. tenna, tenne, Crn. Diw. tedna, H. Lyd. tinsit, gl. sparsit, Llyd. C. tennaff, Llyd. Diw, tennañ, H. Wydd. tendaid ‘fe wasga, fe dynha’: ?o’r gwr. IE. *ten- ‘estyn’, cf. Sans. tanóti, Gr. τάνυται, Llad. tendō, Goth. uf-þanjan ‘ymestyn’] 

bg.a.

1.  a  Rhoddi grym ar (beth neu berson) i’w symud yn nes at ffynhonnell y grym hwnnw neu i beri iddo ddilyn ffynhonnell y grym hwnnw, peri i (beth neu berson) symud i gyfeiriad penodol drwy ddefnyddio’r fath rym, llusgo, halio, plycio; tynhau; dymchwel, dinistrio:

to pull, draw, drag, haul, tug, pluck; stretch (taut); pull down, dismantle, destroy.

13g. BD 173, A dodi a wnaeth Boso … y lav dros y wunvgvl [Petreius], a’e dynnu ganthav y’r llavr.

14g. BT (RB) 106, vn … a dynawd yn y vwa (RB ii. 306, adynnad y vwa) ac a ellyghawd saeth.

c. 1400 R 127622-3, Or gyd oed veu. tynnu tyrreu ac eu torri.

15g. GLGC 434, brawd yw’n medru tynnu’r tant / i gywirdeb â’i g’weirdant.

15-16g. GIF 82, Nid onest ym dynnu stôl / dan arall—nid yw’n wrol.

16g. Pen 192 146, yn anrygaroc ith dy/nwyd ar hyd ac ar lled y groes.

1588 Tob vi. 3, a’r llangc a ddaliodd y pyscodyn, ac ai tynnodd i’r tir.

1595 H. Lewys: PA 34, yna y daw y tad, ac ai tynn erbyn gwallt i benn.

1604-7 TW (Pen 228) d.g. Tendo.

1632 D, Tynnu, Trahere.

1681 S. Hughes: AC 23, [d]arfod i ryw beth ei dynnu ef, o’r tu cefn iddo, wrth gwrre ei shercyn.

1703 E. Wynne: BC 42, Tyrd trwodd weithian, eb yr Angel, ac a’m tynnodd i mewn.

1772 W d.g. To draw, or hale along, To pluck, or give a pluck to, To pull.

1803 P.

Ar lafar, WVBD 559, GTN 792; hefyd ymhlith pysgotwyr glannau sir Gaern., ‘cwch sy’n tynnu troedfedd o ddŵr’ ‘cwch y mae arno eisiau troedfedd o ddŵr i nofio’, B xxv. 58; ac ymhlith pysgotwyr Llŷn yn yr ystyr ‘defnyddio rhwyd dynnu’, B xxv. 57.

b  Tynnu neu gymryd (i mewn), atynnu, hefyd yn ffig.; cymryd (anadl), anadlu (i mewn); symbylu, cymell, cyffroi, ysgogi, ennyn; dod â (chosb, &c.) (ar):

to draw or take (in), attract, also fig.; take (a breath), breathe (in); incite, urge, stir, motivate, kindle; bring (punishment, &c.) (upon).

12-13g. GMB 538, Ket ath vo-di golut … / Na’th tynnit edlit yr y ada.

13g. GDB 428, Wedi tynnu Lloegr i’w llawn orchwydd.

13g. BD 36, A guedy tynnu pavb yn un uedwl ac ef.

14g. BT 173, athynnu attunt llawer or kyt aruollwyr.

14g. T 2911, ki ytynnu. March yrynya.

c. 1400 R 122914-16, Buan y tynn [y bedd]. y breisclu gynn. nyt bryscle gyt.

c. 1400 DB 63, ac a gemero er awyr hwnnu ae en tynnv y anadyl ae enteu en buyta neu yn yuet.

16g. B v. 30-1, dyscyblon … na thynnont gynhenion na phraeion.

1567 TN 154b, A’ mi o’m derchefit or ddaiar, a dynnaf bavvp oll atafinef.

1615 R. Smyth: GB 163, e/raill yn nychu … ag yn brin gallu tynu i anadel [sic] attynt.

1632 J. Davies: LlR 270, Duw yn tynnu o’r naill du, a’r byd, a’r cnawd a’r cythraul yn dal or tu arall.

1725 D. Lewis: GB 304-5, Y mae’n sicr wrth Brofiad, fod rhai Cyrph yn gwthio ac yn gwrthod eu gilydd, ac eraill yn sugno ac yn tynnu eu gilydd.

1751 GIA xv, yn tynny barnedigaethau Duw arnom ni.

1799 TY 11, yn tynnu marwolaeth arno.

Ar lafar, ‘tynnu serch rhywun’, ‘tynnu dyn i gwffio’, WVBD 559; ‘Mi esh i allan i dynnu hogia’ (Arfon); ‘’Wê hwnnw’n awyddus iawn i dynnu sharad â’r hen bregethwr’, Wês wês 60; ‘’Dyw’r tæn ddim yn tinnu’n ddæ’, GTN 792.

c  Tynnu neu gymryd (allan neu i ffwrdd), echdynnu, symud (peth) ymaith; dadwisgo, diosg; dadwreiddio, codi (tatws, &c.), hel (ffrwythau, &c.), didol, dethol; sugno, codi (dŵr), peri i (waed) lifo; Math. didynnu; diddwytho, casglu; tarddu:

to pull, draw, or take (out or away), extract, remove; take off (clothes, &c.), strip; uproot, lift (potatoes, &c.), pick (fruit, &c.), select, choose; suck, suckle, draw (water, blood); subtract (in math.); deduce, infer; derive.

13g. LlI 20, e porthavr … adele tennu krven er anyueyllyeyt a ladher en e kegyn.

13g. C 975-6, Boed emendiceid ir guit. Attinvis y ligad. in y wit.

13g. BD 87, minheu … a baraf dy dynnu o’r abit hvnnv … a’th wneuthur yn urenhin.

14g. T 924, At[yn] tymp. pan dyn lloe llaeth.

1346 LlA 43, yny tynner yr haearn allan.

14g. Cylchg LlGC vi. 174, yn mab ni … yn tynnv guaet abel y vraut.

14g. WM 1465-6, Athynnu cledyf a wnaeth peredur athara y lle.

14g. YBH 11a, ac erchi idi mynet y dynnu arueu bon y ymdana.

c. 1400 R 12764-5, Tynnv r aualeu torri r kangenneu.

1547 WS, Tynny wynebyon llaeth ne gwrwf Flete.

1567 LlGG (Sall) xivb, Na thynn fi (1988 Salm xxviii. 3, Paid â’m cipio ymaith) y gyd a’r andewiolion.

1588 Ecs xii. 21, tynnwch (1988 Ecs xii. 21, Dewiswch) a chymmerwch i chwi oen drwy eich teuluoedd.

1588 Io iv. 7, Daeth gwraig o Samaria i dynnu (TN 136a, gody) dwfr.

1615 R. Smyth: GB 5-6, nad arbedais vn avvdyr na sacraidd, na llygaidd … o’r hain ni thynais beth i berpheithio y gvvaith yma.

1632 D, Tynnu … haurire.

1768 J. Roberts: R 23, yna af ymlaen a thynnaf 2 allan o 5, a chaf yn weddill 3.

1772 W, Casgliad … a dynnir oddi-wrth yr hyn a ddywetpwyd d.g. Deduction.

1790 T. Jones: TOS 220, Rhai dynion a dynnant eu gwrês oddiwrth lyfreu ’n unig.

1790 M. Williams: BM [27], hauwch radishes a thynnwch eich potatto.

1799 TY 56, er i’r sugn-bibau fod yn tynnu i fynu ddwy dunnell o ddwfr.

Ar lafar, WVBD 560, GDD 299, GTN 792.

Digwydd yn yr ymad. ‘Anodd tynnu dyn oddi ar ei dylwyth’, WVBD 14, GTN 792.

d  Mynd neu ddod (yn nes), dynesu, cyrchu, ymestyn (tua); mynd (i ffwrdd), ymadael, cilio, ymneilltuo:

to go or come (closer), draw near(er), make for, stretch out (towards); go away, depart, retreat, withdraw.

12-13g. GLlLl 203, Ny phell tynn riein rac a garwy.

13g. GDB 427, Mi ni rydynnaf dan ei aflwydd.

13g. DB 45, Yr Affric a dechreu yn dwyrein Indus auon, a thrwy y deheu a tynn (tendit) hyt parth a’r gorllewin.

14g. BT (RB) 224, A dyw Merchyr racwynep y tynnawd y Caer Vyrdin.

14g. GDG³ 31, Lle y dêl, yr hollfyd a dynn, / Llaw hael, at enw Llywelyn.

c. 1400 R 123435-6, athynnyn [sic] ued yn ri.

16g. GILlV 4, Tynnais yn brudd ddihuddwawr / Ir gwlltoedd mynyddoedd mawr.

1567 LlGG 46b, ef a dynnawdd y wrthynt, yn-cylch ergit carrec.

1630 YDd 121, a’r rhwystrau … a fydd yn fwy rhwystr i ti fel y tynnych at henaint.

1672 R. Prichard: Gw 5, Tynn i Loeger, tynn i Lundain, / Tynn dros fôr tu hwnt i Rufain, / Tynn i eitha ’r byd ar dreigyl, / Nes y caffech gwrdd a’r ’fengyl.

1699 T. Jones: TP 6, Gŵr a’i enw Efangylwr a’m cyfarwŷddodd i, i dynnu tua phorth bychan sŷdd o’n blaen.

1704 E. Samuel: BA 121, gan fod y llongwŷr yn chwennych tynnu ymmlaen i Phœnice.

1774 T. Jones: DG 138, efe a dynnodd i weddio yn ddirgel.

Ar lafar, ‘Mae o’n tynnu am ’i hannar cant’ (Arfon); ‘’Odd y fuwch newydd yn tynnu lawr i’r cwm ar ôl y rai erill’ (dwyrain Morg.).

2.  a  Gwneud, llunio, ffurfio, drafftio, paratoi, trefnu, gosod; gwneud (llun, hefyd â chamera), darlunio, portreadu, peintio; hefyd yn ffig.:

to make, fashion, form, draft, prepare, arrange, set; draw (picture), take (photograph), depict, portray, paint; also fig.

13g. (LlDW) ZCP xx. 81-2, puebenac a teno annel ar tyr arall.

13g. BD 118, ry syrthvs ef yn y magyl ry dynnassei (parauerat) ynteu y rei guirion.

16g. Huw Arwystl: Gw 389, Dyhûddiant doe a heddiw / a dynnai lvn dyn ai liw.

1604-7 TW (Pen 228), Tynnu Furu ne Lun peth d.g. delineo.

1684 H. Owen: DC [v], tynnu a scrifennu eu Gweithredoedd.

18g. Beirdd y Berwyn 44, I dynnu pictiwr y fwyn fenyw.

1738 ML i. 6, Cael gwynt teg … a minnau yn tynny lluniau’r bryniau a’r trwynau, etc.

1744 D. Rowland: RY 153, [D]elw Shaddai … iddi gael ei thynnu yn Decach nag erioed o’r blaen.

1753 G. Owen: L 51, er nas adwaenent hwy monof fi, ac nas tynnais gydnabyddiaeth yn y byd arnynt.

1770 W d.g. To blazon arms.

1790 T. Jones: TOS 245, dichon yr hwn sy ’n eistedd gartre’ dynnu mapieu cywir o wledydd na welodd erioed.

Ar lafar, ‘tynnu llun’ ‘to draw’ ‘to photograph’ ‘to have one’s photograph taken’, WVBD 560.

b  Cyfieithu, trosi (e.e. i gynghanedd):

to translate, convert (e.g. into ‘cynghanedd’).

14g. RC xxxiii. 208, hyt pan wnelych dy tynnv y llyuyr hnn yn Lladin.

c. 1400 GM 1, Llyma wassaneth wedy dynnu o’r Lladin.

c. 1514 B xviii. 132, hyd y medrodd syr huw pennant i thynnv or llading ynghymraec.

1567 LlGG [xii], Y mae Act arall, can pa un yr ordiniwyt ac yr enactwyt bot y Bibl a’ llyvr y weddi Gyffredin wedi ei tynnu ir iaith Camberaec.

1567 TN xl, [y]r Scrythur ’lan wedy ei thynnu yn y hiaith y hunain.

1696 CDD [4], Cymerais lawer o boen iw hail yscrifennu, ac iw tynnu i gynghanedd.

Amr.:

tynnyd.

1853.

Cfn. (detholiad yn unig):

tynnu am ei (dy, &c.) ben, gw. tynnu yn ei ben.

tynnu ar:

(i) to tease.

20g.

Ar lafar.

(ii) to importune; pump (for information).

1604 R. Holland: BD 2.

(iii) to draw upon (knowledge, &c.), use.

20g.

tynnu ar ei (dy, &c.) oed(ran): to be getting on (in years).

1931.

Ar lafar, GDD 300.

tynnu ar ôl: to take after (in appearance or temperament).

Ar lafar, GTN 792.

tynnu ar (wrth, yn) r(h)affau’r addewidion: to claim God’s promises.

1931.

Ar lafar, yn enw. wrth weddïo o’r frest.

tynnu ato (ati): to shrink, shorten, contract.

1771 PDPh 63, fe bair hynny i’r gewyn dynnu atto yn fwy.

1798 WR, tynu atto d.g. Shrink.

Ar lafar, B iv. 304 (canolbarth Cered.); ‘Ma’r dydd yn tini ato’, GDD 299.

tynnwch atoch: help yourself (to food, &c.).

1890.

Ar lafar, Geir Geg 116 (Cered. a sir Gaerf.).

tynnu bicre: to bicker.

1632 D d.g. Velitor.

17g. Huw Morus: EC ii. 99.

1780 W d.g. To pickeer.

tynnu blewyn cwta: to draw lots.

1888.

Ar lafar.

tynnu blewyn o drwyn: to needle, goad, bait.

1932.

Ar lafar, WVBD 560.

tynnu byrraf ei docyn (gwtyn) = tynnu blewyn cwta.

1892.

Ar lafar ym Môn ac Eifionydd.

tynnu bys allan ((i) maes): to pull one’s finger out, fig.

Ar lafar.

tynnu cap (i): to take off one’s cap (to), also fig.

1910.

Cf. —tynnu het .

tynnu coes: to pull one’s leg, fig.

1933.

Ar lafar yn gyff.

tynnu ei gorn (gyrn) ato (ei chorn (chyrn) ati, &c.), tynnu ei gorn (ei chorn, eu cyrn, &c.) i mewn: to draw in one’s horns.

16g. (LlEG) Mos 158 618a-b, Yr hyn awn/aeth Jr amerodyr ac Jr Kardnal dynnv J kyrn J mewn Adal J Tauode.

1780 W, Tynnu ei gyrn atto d.g. To pull [draw] in one’s horns, To queck [shrink for fear or pain].

tynnu cwtws (cytysau): to draw lots.

16g. TRP 178, nyni dynwn gytysav.

1551 W. Salesbury: KLl xxivb, tynnasont cwtysse.

1793 P, Tynu cytysau d.g. Cwtws.

Ar lafar, ‘tynnu cwtws’, WVBD 310.

tynnu cwys: to plough a furrow, also fig.

15g. GHC 10, Tynned gŵys tros Bowys barth, / Y trawst dwbl tros Deheubarth.

18-19g. Llr C 2 293.

Ar lafar, ‘tynnu cwys’ ‘to make a furrow’, WVBD 310. Cf. hefyd R. E. Jones: LlIC 127, Tynnu cwys … ‘byw bywyd’.

tynnu’r cyrtens, &c.: to draw the curtains.

1732 AABI 132, a’r cwrtains wedi eu tynnu.

Ar lafar.

tynnu dŵr o ddannedd: to make (one’s) mouth water.

1930.

Ar lafar, WVBD 559.

tynnu dydd (dyddiau): to delay, procrastinate, postpone; make a truce or peace.

15g. GHC 6, Dy genedl ydyw gwinwydd / Holl Gymru wrth dynnu dydd.

15-16g. GIF 15, Tyn Went atat yn undydd—/ nid dannod yt dynnu dydd.

1604-7 TW (Pen 228), tynnu dydhiæ d.g. Induciæ … Inducias facere, Traho.

17g. DCR 236, Tra foch di yn tyny dyddie / fo gymer gwen i naid.

17g. LlGC 10249 135, Tynn ddydd digerydd, düw gwarant, breiniol / Rhwng brenin a ffarlamant (Wmffre Dafydd ab Ifan).

tynnu dylâu: to tease, worry, nag.

1882.

Ar lafar, ‘Rhyw greadur cas ydi o—yn tynnu dylâu ar rywun o hyd’ (Môn).

tynnu dyled: to run up a debt, also fig.

1797 D. Davies: SEG 315, Y mae pechod hefyd yn cael ei alw yn ddyled; oblegid pan y darfu i ni ddyfod yn fyr o dalu dyled o ufudd-dod, ni dynasom ddyled newydd i gyfiawnder Duw.

tynnu’r ewinedd o’r blew: to set about a task, &c., set to.

1760 ML ii. 152.

Ar lafar, WVBD 127.

tynnu gwep: to pull a face.

1920.

Ar lafar.

tynnu gwifrau: to pull strings, fig.

1903.

tynnu’r gwynt o hwyliau: to take the wind out of (person’s, &c.) sails, deflate; impede, frustrate, put at a disadvantage.

20g.

Ar lafar, ‘Nest ti dynnu’r gwynt o’i hwylia fo pan ddudest di hynny’ (gogledd Cymru); ‘Mae profiade bywyd yn gallu newid lwc dynion a thynnu’r gwynt o’u hwylie’ (gogledd Cered.).

tynnu het (i): to take off one’s hat (to), also fig.

1721 Llst 111 sig. O4, Deiliad da, yr hwn yn unig a’i galwai ef yn frenin ac ai ar ei lin iddo, neu a dynnai ei Het iddo.

1778 W d.g. Off with thy hat, To put off one’s hat.

Cf. —tynnu cap .

tynnu lot(s) (lotiau): to draw lots.

1763 Cylchg LlGC xvi. 160, Ar y 18 dudd or mis hwn y darfu tynu Lots y traen bans yn Nimbech, 5 oedd i fund allan o blwy Llanufudd.

tynnu llaeth: to separate milk.

Ar lafar, Geir Geg 117 (Cered. a sir Gaerf.).

tynnu llaw (ar) hyd, tynnu llaw dros: to stroke, also fig.

1604-7 TW (Pen 228), tynu lhaw rhyt penn d.g. Mulceo.

1759 J. Evans: PF 70, tynnwch eich Llaw yn ddwys ar hyddi [sic].

Ar lafar, ‘câl rwbath gynno fo mor hawdd â tynnu llaw hyd ’i wynab’, WVBD 192; ‘tynnu llaw dros ben rhywun’ ‘rhoi gweniaith i rywun er mwyn cael cydweithrediad’, R. E. Jones: LlIC 215.

tynnu’r llenni = tynnu’r cyrtens.

20g.

Ar lafar.

tynnu(’r) llwch: to dust.

1872.

Ar lafar, WVBD 560, GTN 792.

tynnu pen ar: to conclude.

1718 M. Williams: P 10.

1740 T. Evans: DPO 176.

tynnu(’r) penderfyniad: to draw a (the) conclusion.

1789 H. Jones: EN 32.

1796 T. Jones: CCA 240.

tynnu perfedd: to gut, also fig.

1894.

Ar lafar, ‘Mân’ nw wedi câl tynnu’u perfeddion ac wedi mynd i’r gongol’ ‘they have been hopelessly beaten’, WVBD 426; ‘Fe dynniff ’i berfeddion e mas’ ‘cael pob newydd allan ohono’ (Morg.).

tynnu pig ar: to make a fool of, dupe.

1934.

Ar lafar.

tynnu plet: to take a short cut.

1924.

Ar lafar yng Nghered., Cymru xxxiv. [121].

tynnu ei (dy, &c.) bwysau: to pull one’s weight.

20g.

Ar lafar.

tynnu pwythyn: to (make a) stitch.

18g. E. T. Rhys: DA vii.

tynnu (yn y) rhaff: tug of war, also fig.

20g.

tynnu sgwrs: to start up a conversation, chat.

20g.

tynnu sylw: to attract or draw attention.

1888.

tynnu tafod: to poke one’s tongue out.

20g.

tynnu to: to prepare straw for thatching.

1931 H. Evans: CE 101, nid gwaith y medr pawb ei wneuthur yw tynnu to. Rhaid gafael yn nau ben y tusw o wellt a’i dynnu, ei osod yn ôl gyda’i gilydd, a’i dynnu dro ar ôl tro, ac yn y diwedd gafael yn un pen iddo a gwneuthur crib gyda bysedd y llaw arall a’u tynnu trwyddo, a gofalu na byddai’r un gwelltyn wedi ei blygu i gario y dŵr i’r to yn lle i’r gwelltyn nesaf; fel y gallai hwnnw ei gario drachefn tua’r bargod, yn lle ei gario i mewn i’r to.

Ar lafar, B iv. 304 (canolbarth Cered.).

tynnu torch, tynnu’r dorch, tynnu yn (am) y dorch: to compete (in a tug of war), strive, also fig.

17g. TBM 775, Dyn yw Dic a dynnai dorch, / Ymaelai erioed mal yr iwrch [Siôn Gruffudd i Risiart Bwcle].

1695 W. Camden: B 659, and ’tis at this day a common saying in several parts of Wales, when any one tells his adversary, he’l strive hard, rather than yield to him; mi a dynna’r dorch a chwi; i.e. I’ll pluck the torques with you.

Ar lafar, ‘tynnu torch’ ‘Ymryson tynnu’, B xv. 29 (Meir.).

tynnu ei draed (ato (eu traed atynt, &c.)): to pass away, die; draw to a close.

1700 TDP 116, gan dynu ei Draed, efe a hunodd mewn tang-nefedd.

Ar lafar, ‘Ma’r flwyddyn yn tinnu ’i dræd ato’, GTN 792.

tynnu ei draed (ei thraed) i’r gwely (a marw): to go to bed (and die), expire.

1867.

tynnu tros y ffordd: to seduce, rape.

1870-2.

Ar lafar, GDD 300, GTN 320.

tynnu trwy: to get on with (someone); manage, get through (something).

Ar lafar, ‘Pam na driwch chi dynnu trwy’r hen wraig?’ (Arfon); ‘tynnu trwyddi’ ‘gallu ymdopi’ (dwyrain Morg.).

tynnu trwy’r dŵr: to rinse (clothes, &c.).

Ar lafar, ‘’Dwi isio tynnu’n jympyr drw dŵr’ (gogledd Cymru); B iv. 304 (canolbarth Cered.).

tynnu wrth raffau’r addewidion, gw. tynnu ar r(h)affau’r addewidion.

tynnu wyneb(au):

(i) to pull a face (faces).

1853.

Ar lafar, WVBD 192.

(ii) to act hypocritically.

Ar lafar, WVBD 559.

tynnu ymlaen:

(i) to be getting on (of time, age, &c.).

1893.

Ar lafar, GTN 792.

(ii) to get on (with people).

Ar lafar, ‘Ma’r staff i gyd yn hawdd i dynnu ’mlân ’da nhw’ (sir Gaerf.).

tynnu’n gareiau: to pull to pieces, also fig.

1736 (1812) YRW 43.

Ar lafar, WVBD 240.

tynnu’n groes: to be awkward or contrary; oppose, thwart.

1752 GGYC 12, neb na dim yn osio tynnu’n groes i’w Ewyllys bendigedig.

1773 D. Morys: CPC [3].

Ar lafar, ‘Mae o’n tynnu’n groes efo rwun yn dragwyddol’.

tynnu yn ôl: to pull or take back, retract, draw back, withdraw, retreat, backslide, lapse; cancel.

1604-7 TW (Pen 228) d.g. Reprehendo (hefyd D).

1620 Heb x. 39, yn tynnu yn ol (1588 Heb x. 39, ar encil; 1988 Heb x. 39, cilio’n ôl) i golledigaeth.

1759 T. Thomas: WWDd 357, Dynion yn tynnu yn ôl … heb bara’n ffyddlon hyd y diwedd.

1799 (1827) R. Davies: DB 238, Nid gwres nac oerfel, croes nac arfau, / Tan y nef a’i tyn [angau] yn ol.

Ar lafar, ‘’Dw i ddim ’di cael cyfle i baratoi, so bydd rhaid i fi dynnu’n ôl’ (Cered.); ‘’Wi wedi gofyn iddo dinnu’i ’ira’n ôl’, ‘Ma’r cwrdd wedi cæl ’i dinnu’n ôl’, GTN 792.

tynnu yn (am) ei (dy, &c.) ben: to quarrel with (someone), make an enemy of (someone); pull (building) down about one’s ears, also fig. bring (trouble, &c.) on oneself.

c. 1754 W Ballads 161 7, Ag i ddial llid a Sen, / Yn tyny yr babell yn ei ben [am Samson].

1796 T. Jones: CCA 331-2.

Ar lafar, ‘Paid â’i dynnu o ’n dy ben’ ‘don’t quarrel with him’ ‘don’t make an enemy of him’, WVBD 419; ‘’Dwi’n mynd ffwr’ ’fory—’dw i ddim isio tynnu gwaith yn ’y mhen’ (Arfon); ‘Di dinnid y tylwth yna am dy ben os gwetid di air cros am un o nw’, GTN 792.

tynnu yn y rhaff, gw. tynnu rhaff.

tynnu yn rhaffau’r addewidion, gw. tynnu ar r(h)affau’r addewidion.

tynnu yn y dorch, gw. tynnu torch.

tynnu ystumiau: to pull faces.

1923.

Ar lafar, ‘’Ddudodd o’m byd ond ’ôn i’n weld o’n tynnu ’stumia’ (gogledd Cymru).