wythnos2002wythnos
[wyth+nos]
eb. ll. wythnosau.
Cyfnod o saith diwrnod olynol, yn enw. y cyfnod rhwng hanner nos nos Sadwrn a’r un amser y Sadwrn dilynol, hefyd yn ffig.:
week, also fig.
12g. GMB 111, Difyeu ym penn teir wythnos / (Tru a nos!) yd ith later.
13g. LlI 6, o hanner Chweuravr hyt yn dywed e gesseuyn vythnos o Uavrth.
1346 LlA 136, py ham ymae yanach vnprydya du gener. no diarnnat arall or ythnos.
c. 1400 R 126434-5, Wythnos ym annos om annun gyffro aeth etto yth eittun.
c. 1400 YCM² 45, wrth uot yn diogel idaw o’m plegyt i hyt ympenn yr wythnos.
15g. GLGC 237, Bychan bob wythnos o Fwrdios fil / o longau â gwin, neu leng gynnil.
c. 1475 B xiv. 9, Ac y gossodes seith diwarnawt, y rei yssyd yn kyflenwi yr wythnos.
1547 WS, Wythnos A weke.
a. 1561 B vi. 47, dayddec wythnos a daigain y sydd yn y vlwyddyn, ac o hyny wyth wythnos yn Sylay a gwylay, a ffedair a daigain y lafyrio.
1567 TN 48a, a’r dydd centaf o’r wythnos yn dechrae gwawrio.
1588 Jer v. 24, ein Duw … a geidw i ni ddefodol wythnosau cynhaiaf.
1630 YDd 223, y mae saith ddiwrnod yn gwneuthur wythnos.
1632 D, Wythnos, Hebdomas, septimana.
1672 J. Langford: HDdD [v], Dyddiau, ac Wythnosau, a Misoedd, a Blynyddoedd.
1762 ML ii. 520, Bellach am y tywydd. Gwych ydoedd drwy’r wythnos hyd heddyw.
[1783] W d.g. Se’n-night.
1803 P.
Ar lafar, ‘wsnos i heiddiw’, WVBD 542; ‘wthnos ginta’r mish’, GTN 839; hefyd yn y ff. wsnoth (Cered., sir Benf., a’r De).
Cfn.:
wythnos gadw: first week in a job, when pay was held over until the following week, week in hand.
1820.
Ar lafar, ‘wthnos gatw’, GTN 839, Geir Glo 146 (Morg.).
Cf. 1909 LlGC 1134 18, wythnos gadwad … the week’s money which is held in hand by the Colliery Officials from a workman. When a workman leaves after serving his notice, this money as well as all other monies due to him are handed over.
Wythnos y Catgoriau, gw. Wythnos y Cytgoriau.
Wythnos y Grog: Holy Week, Passion Week.
1722 T. Evans: PS 92, Y mae gan y Pasc … nid yn unig yr holl Rawys yn Barottoad; eithr Wythnos gyfan a elwir Wythnos y Grôg.
1725 SR d.g. Passion Week.
1778 W d.g. Passion … Passion-week.
Wythnos y Cytgoriau, Wythnos y Catgoriau: Ember week.
1707 AB 215d, Cydgoriay, Wythnos y kydgoriay, Ember-week.
1710 LlGG (Gos) 8, Jejunia quatuor temporum, a elwir yn gyffredin Wythnose ’r Cyd-coriau, pwyntiedig yn ’r hên amser i Ymprydio a Gweddio.
1767 G. Howel: Alm 8, Wythnosau y Cydgoriau, neu’r Dyddiau dirwest.
1780 W, Wythnos y cŷd-goriau (y gorymdeithiau) d.g. Procession-week.
Wythnos y Dioddefaint, &c.: Holy Week, Passion Week.
14g. Bren Saes 174, Ac y doeth y brenhin yn wythnos y diodeifein hyt yn Penvro.
1547 WS, Wythnos y dioddefaint The passyon weke.
1630 YDd xxvi[i].
1725 SR d.g. Passion Week.
(yr) wythnos, &c. , d(d)iw(a)ethaf, &c.: last week; final week.
1630 YDd 118, pe bai ddŷn o fuchedd ddrwg, yn tybied fod y flwyddyn hon, yn flwyddyn ddiweddaf iddo, y mis hwn, yn fis diwaethaf, yr wythnos hon, yn wythnos ddiwaethaf.
1752 ML i. 201, gallu ohonynt yr wythnos diwaethaf ddyfod yma.
1753 id. 250, Bu yma riolti mawr, yr wythnos ddiwaetha pan oedd Brenin y Gwyddelod yn ein plith.
Ar lafar, ‘’r wsnos dwytha’’, WVBD 562; ‘’Ôn’ nw ’ma’r wthnos diwetha’’, GTN 327.
wythnos, &c., gwas newydd: period of diligence by a new worker, &c., (cf. ‘a new broom sweeps clean’), the honeymoon period (e.g. of a government).
1883.
Ar lafar, ‘wsnos gwas newydd, a phrase alluding to the diligence of a new servant or to the popularity of a new man’, WVBD 174.
Wythnos y Gweddïau: Rogation Week.
1547 WS.
1604-7 TW (Pen 228) d.g. Robigalia.
1803 P d.g. Wythnos.
Yr Wythnos Fawr: Holy Week, Passion Week.
Wythnos y Pasg, yr Wythnos Basg: Holy Week, Passion Week.
1794 E. Jones: CP 15, Sidesmen … dewisir y rhai hyn … yn yr wythnos basg [sic].
wythnos rag: rag week.