arian2007

arian, ariant 

[e. prs. H. Grn. Argan(bri), Arʒant(moet), H. Grn. (gueidƿur) argans, gl. argentarius, Crn. C. ar(g)hans, H. Lyd. (solt) argant, gl. soldum, Llyd. C. archant, argant, H. Wydd. argat, e. lle Gal. Arganto(magus), Celtibereg arkato(beđom) ‘cloddfa arian’: < Clt. *arganto- < IE. *ər̥ĝn̥to-, o’r gwr. *arĝ- (< *ə(e)rĝ-) ‘gwyn’, cf. Llad. argentum; petrus yw dosbarthiad rhai o’r enghrau. isod] 

eg. ll. ariannau, ariannoedd, hefyd fel e.ll. (adran 2.), ac fel a.

1.  a   Cem. Elfen fetelaidd lwydwen ddisglair hydrin werthfawr (symbol Ag; rhif atomig 47), lliw neu ymddangosiad llwydwyn a disglair tebyg i arian; wedi ei wneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf o arian, o liw arian, llwydwyn; hefyd yn ffig., e.e. persain (am lais):

silver (n.); silver, silvery; also fig., e.g. of voice.

12g. GLlF 228, Dywalla-dy, venestyr, o lestyr aryant.

12-13g. GLlLl 123, Mar deyrn kedyrn kydgyurannu—eur / Ac aryant ym pob tu.

13g. C 734-5, Blaur blaen eu raun in ariant.

13g. A 284-5, vyg werth y a wnaethant. o eur pur a dur ac aryant.

14g. WM 4326, Llathen aryant.

14g. GDG³ 27-8, Cywoethog ac enwog wyf, / O eiriau teg, o ariant, / O aur coeth, fal y gŵyr cant, / O ddillad, nid bwriad bai.

14g. GIG 69, Mawr o wth, marw o Ithael / Ap Robert, fab pert, fab hael / A roddes i ni ruddaur / Llydan, ac arian ac aur.

c. 1400 YCM² 88-9, Am y benn y gwisgassant helym Briant Vrenhin, ac nyt oed hayarn na dur na phren nac aryant namyn o benn sarff.

15g. Med H 16, y metel … sydd yn perthynu mewn rryw naturiaeth i un o’r saith blanet, nid amgen … Ysten i Wener … ac Arian i’r Lleuad.

15g. GLGC 204, Aur a wisg ar wyn, / ac ariant gorwyn.

id. 337, Bedo’n llafurio fy llaw / y sydd, bid einioes iddaw; / arna’i y rhoes o’r un rhan / dri o erydr o arian.

id. 355, Erynaig wyd i’r annoeth, / Ieuan dafod arian doeth.

1547 WS, Arean Syluer.

1588 2 Cr ii. 7, [g]ŵr cywraint i weithio mewn aur, ac mewn arian, mewn prês, ac mewn haiarn.

1595 H. Lewys: PA 104, Dryll o hayarn, ne arian.

1632 D, Arian, & Ariant … argentum.

1714 D. Lewys: CN 19, Gweithiwn y rhai’n [boglynnau], yn deg eu drych, / Mewn Arian gwych cerfiedig.

[1783] W d.g. Silver … [of, or made of, silver], Silver … [looking like, or of the colour of, silver], Silver … [apply’d to sound, &c.].

1790 T. Jones: TOS 343, rheffynneu arian dy gariad yn tynnu.

1793 P d.g. Arian, Ariant.

Ar lafar yn gyff. yn y ff. ‘arian’, WVBD 21; ‘tepot arian’, ‘llestri arian’ ‘llwya arian’, ‘Ma ’wn yn arian solit trwyddo’, ‘papar lliw arian’, GTN 32.

b  Llestr arian:

silver vessel.

12g. GLlF 37, Eryuant anant o eur, o aryant.

13g. A 1621, aryant amyued eur dylyi.

[1724] G. Wynn: YGD 169, Bwyta mewn Arian.

2.  a  Cyfrwng cyfnewid ar ffurf darn(au) o fetel â stamp swyddogol, addaweb(au), &c., pres, arian bath, arian treigl, cyfoeth, hefyd yn ffig.:

money, coin(s), coinage, currency, wealth, also fig.

9g. (Ox 1) YHI 112, amser. is cihun argant agit eterin illúd.

12g. GCBM ii. 48, Metgwyn meith a’n maeth o’e aryant.

13g. BD 54, Sef oed meint y teyrnget, teir mil o punhoed o aryan Lloegyr.

14g. WM 1623-5, Ac erchi awnaeth peredur aryant yn echyn yr melinyd.

15g. GTP 34, Hon oedd, ŵyr Einion, ariannau—haelferch, / Hil Rhydderch, uchel raddau [am Fallt ferch Hywel Selau].

15g. GGl² 173, Guto, gwenieithio a wna, / O chwant cael ariant clera.

1567 TN 119a, Pa am … na roddyt’ vy arian i’r vord [:- yn y banc, at yr arianwyr]?

1632 D, Arian, & Ariant, Pecunia.

1632 J. Davies: LlR 137, y mae ’r cybydd … yn pentyrru arian ar arian beunydd.

id. 207, ystyried … a oes gennyti cymmaint [sic] o arian ysprydol, ac a fo ddigon i adeiladu ’r twr hwn, ac i fyned i’r rhyfel hon, ai nad oes.

1688 TJ, Ariànt. Money.

1751 GIA viii, lleidr, yr hwn sy’n eistedd mewn tafarn i yfed yr arian a ledrattodd ef.

18g. I. Brydydd Hir: Gw 109, Gwell ryw awr golli’r arian, / Na chau’r god, a nychu’r gwan.

1776 W d.g. Money.

1793 P d.g. Arian, Ariant.

Ar lafar yn gyff., ‘Os bydd gin’ ti arian, paid â’u sincio nw’n dy bocad’, ‘Mae hi’n byw ar ’i harian’, WVBD 21; ‘’Elswn i ddim odd ’ma am arian yn y byd’, GTN 32; hefyd yn yr ystyr ‘morgais’, ‘Ma gynno fo arian ar y tir’, WVBD 21.

b  Darn(au) o arian gleision, ceiniog(au) (arian) (yn y cyfreithiau Cymreig):

silver coin(s), piece(s) of silver, (silver) penny or pennies (in the Welsh laws).

13g. LlI 6, E sarhaet [distain] yv nav muv a nav ugeynt aryant.

id. 8, E sarhaet [pen-hebogydd] yv chue buv a chue ugeynt o aryant gan y ardyrchauael.

14g. BT 53, ar brenhin arodes ydaw deuswllt o aryan beunyd yn dreul ydaw.

14g. CL 368, y guerthaud yr Argluyd yr dec ar hugeint aryant, a phob vn ohonunt a talhei dec keinnavc o’r aryant aruer.

14g. GDG³ 24, Menig gwynion tewion teg, / A mwnai ym mhob maneg. / Aur yn y llaill, dyaill dau, / Arwydd yw, i’r llaw ddeau, / Ac ariant, moliant miloedd, / O fewn y llall, f’ennill oedd.

1551 W. Salesbury: KLl xxiva, Ac wynt a gymersont y dec ar vge/int ariant.

16g. WLl 191, Ariannoedd ne aur enyd / A wna r gau yn wir i gyd [i’r byd].

1567 TN 43a, [d]ec arugain o ariant [:- popvn oedd yn cylch pedair a’ dimae o’n cyfri ni].

c  (enghrau. fel rhan o enwau taliadau i arglwyddi, &c.:

exx. as part of the names of payments to lords, &c.).

13g. LlI 7, E dysteyn a dely tygu tros e brenhyn ac a dele rannu aryant e kvynnos. Val hyn e rennyr aryant e kvynnos: (sef yv aryant e kvynnos, pedeyr ar ugeynt o pob guled e bo med arney …).

13g. LlI 7, Ny dele [pen-hebogydd] talu aryant guastrodyon canys e brenhyn a’e guassanaetha en try lle.

13g. LTWL 282, E egnat lis a deli ran or arian dairret.

1352 Rec C 15, Arion [sic] Greorion iijd.

1507 Cal Patent Rolls (1916), 534-5, [The exactions abrogated … the pastus of pigs called] ‘arian mooch’ … [repair of manors called] ‘gwayth llis arian gwayth et arian pentai’.

1574 Arch Camb (1964), 177-8, arian woodward, arian fforestur, arian llydow … frith maen tervyn, met’ et bond’ de dynmell als Arian tervyn dynmel, herbag’, pannag’ als vocat’ Arian porua vel Arian marowdir.

c. 1600 BK 44-5, Arian eredig, or plowe monye, Is to be founde here in Eglosserow onely, and it is iiijd. which every gale tenaunte that houldeth a house and lande within the said manor was used to paye in owlde tyme for plowinge, which rent was yet contynued and payed by that man.

id. 45, Pecuniæ vie, alias arian y vidir, Is also within Eglosserow onely; and it is certen money whiche diverse howses weare in auncient tyme wont to pay for haveinge a way throwe the lordes lande; and nowe this howse that payth for the same waye, hath enclosed the same, and useth it for pasture or otherwise at their pleasure; which auncient rent is contynued as yet, and aunswered by that name.

1604-7 TW (Pen 228), Arian pentai, vn or Amreiniæ gynt ynghymru d.g. Sarta tecta.

1635-41 Pen 267 70, Arian pedoli: yw treth a ossodwyd er ys talm o vlynyddoed [sic] ar ddeiliaid yr arglwydd am bedoli meirch yr arglwydd: ag y Mrecheinog y telir.

1793 P, Ariant … Ariant cwynos, or ariant y gwestvâau, supper money, or lodging money; which was paid by the gentry and freeholders to the maintenance of the officers of the court. Ariant gwastrodion, money of the equeries, which was paid by the king’s tenants in villainage once a year, to furnish provender for his horses. … Ariant cywlad, naturalization fine. … Ariant gwaith, work money; arian moç, swine money; arian pentai, house, or shed money; these terms occur in the charter of North Wales.

Gw. hefyd y Cfn.

3.   Her. Lliw arian neu wyn mewn arfbeisiau:

argent.

?14g. DWH i. 75, Dau lew pasant ariant oll.

14g. GIG 85-6, Sinobr ac arian glân gloyw / Im yw’r ysgwyd amrosgoyw.

15g. GLGC 58, Cyw’r gigfran, mewn arian oedd, / yw’r cyw aruthr o’r caeroedd.

id. 257, Mae trillew arian yn ei faner, / tri rampiawnt ar lawnt wrth ryol R.

16g. Mos 113 55, arian tri penn Baedd o Sabl arvoc o gowls.

18-19g. Iolo MSS 34, Gruffudd ab Cadwgan Ddu … a ddug maes Du, Tri Eryr daupennog ariant … Llywelyn ap Hywel fawr … a ddug arian, chwech pen saeth o’r mwrai … Caradawg ab Arthen … a ddug maes du, Cwpl aur, Triphen Llew o’r arian.

Cfn.:

arian anfathedig: bullion.

1819.

arian ar law: cash in hand.

1771 W, Prynu … ag arian ar law d.g. To buy with ready money.

arian arddel(w), &c.: payment by tenants in avowry; imprest (money), advance (payment), deposit.

1505 Cal Patent Rolls (1916), 434, [the avowry pennies, alias] ‘arian arthell,’ [to wit, 4d. paid yearly to the farmer of the avowries, be abolished].

1604-7 TW (Pen 228), Arian ardhel ar vynet yr ryuel d.g. Auctoramentum.

1722 Llst 190, Arian arddelw neu ernes. Earnest money.

1773 W d.g. Earnest, earnest-money, Imprest-money.

1793 P, Ariant … Ariant arzelw, claim money.

ariant arfer: currency.

14g. CL 370, guerthaud yr Argluyd yr dec ar hugeint aryant, a phob vn ohonunt a talhei dec keinnavc o’r aryant aruer.

arian bath, &c.: coinage, currency.

c. 1400 R 129613-14, Yr dec arhugeint eur dat. o aryan bath [diwyg.] aeron byt.

15g. LHDd 1, Tri pheth ny at kyureith eu damtg. blat a genyn. ac aryant bath.

1606 E. James: Hom ii. 88, nid ydym ni … mor gyndyn ac y cashaom … luniau tywysogion gwedy eu printio … ar eu harian bath, yr hyn pan welodd Christ yn arian-fath Rhufein, nid ydym yn darllen iddo feio arni.

1632 D, Arian … Arian bath, Moneta.

1722 Llst 190, Arian bath … Coin, current money.

1776 W, Arian bâth d.g. Money.

1793 P, Arian … arian bath, current money, or coin.

Gw. hefyd arianfath.

arian bathol: coinage, currency.

1588 Eseia vii. 23, mîl o arian bathol.

1604-7 TW (Pen 228), perthynol y arian bathol d.g. Monetalis.

Gw. hefyd arian mathol.

arian benthyg: borrowed money, financial loan.

1768 W. Williams: HTS 10, Yr anifeiliaid ag oedd ef yn eu gwerthu i’r gyrrwyr, a werthe fe ar bris dau ddyblyg; ond er mwyn cael elw tri dyblyg oddiwrthynt, y rhoi ef arian benthyg hefyd iddynt tros y tymmor hwnnw, ar eu dyblyg log … felly ei arian benthyg ef, a’u llog dwbl toreithiog ynghyd a gwerth ei anifeiliaid mawr-bris … oedd yn gwneud cod y gyrrwr hwnnw yn wag i’r gwaelod.

arian blaen: deposit.

Ar lafar.

arian blaen llaw: deposit, advance (payment), fine (on tenancy).

1722 Llst 190, Arian blaen-llaw. Advance money, fine money.

1770 W d.g. Advance-money, Fine [a sum of money pay’d … at the taking of a lease].

1798 WR, tansgrif-dâl, arian blaen llaw, rhagdaliad d.g. Subscription.

arian breiniol: genuine money; currency.

1723 J. Jones: LlA 241, megis ag y mae llawer yn cymmeryd Arian drwg yn lle Arian breiniol (take counterfeit money for current coyn).

ariant breinol: privileged silver (in the Welsh Laws).

14g. WML 4, Vn sarhaet ac vn alanas uyd yr etling ar brenhin eithyr eur ac aryant brein hal ar garthec a ossodir o argoel hyt yn llys dinefr.

id. 6, trayan sarhaet ybrenhin heb eur a heb aryant breinhal.

arian byrion: clipped coins.

18g. BL Add 14974 iia, Ynghylch y fl. 1696 y Galwyd yr Arian byrrion iw hail Gweinio.

1753 J. Prys: Alm [3-4], [y] Blynyddoedd aeth heibio … Er pan Alwyd am’r arian byrrion yw [sic] hail Gweinio 57.

arian byw: quicksilver, mercury, also fig. of lively person.

1346 LlA 93, mandagreu karueidserch megys … man dafynnev oaryan by.

15g. OBWV 117, Arianwisg o’r ia ennyd, / Arian byw oera’n y byd.

15g. Med H 16, y metel … sydd yn perthynu mewn rryw naturiaeth i un o’r saith blanet, nid amgen … Ysten i Wener, Arian Byw i Vercher, ac Arian i’r Lleuad.

?15g. IGE² 105, Bob un fal arian byw bydd, / Bob ddau boglynnau glennydd [i Ffynnon Gwenfrewi].

1632 D, Arian … Arian byw, Argentum vivum.

1688 TJ, Arian bŷw. Quicksilver.

1776 W d.g. Mercury, or quick-silver.

1793 P, Arian … Arian byw, quicksilver.

Ar lafar, WVBD 21; ‘Dyma blentyn yw ’wn! Ma fa fel arian byw!’, GTN 32.

arian Cablyd: Maundy money.

1968.

arian cadw: deposit, reserve.

1801.

arian caled, arian caledion: hard cash.

1882.

arian can, ariancan: shining silver (money).

12g. GCBM i. 4, Tew am lew trylew, treul aryancan.

12-13g. GLlLl 216, O’e alaf a’e eur a’e aryan cann.

arian carchar: garnish-money.

16g. (LlEG) Mos 158 480a, Ac ynnol i gorchmynnodd y kardnal v/dduntt twy gordio a cheidwad y karchardy am i bwyd ai diod ai h/ariann karchar.

arian clipiedig: clipped coins.

c. 1400 R 133830, lleidyr aryan clippiedic.

arian clipio: clipped coins.

1770 J. Prys: Alm 3-4, Er Pan … Alwyd am yr arian clipio yw haul [sic] Gweinio 72.

arian clud: fare, freight, carriage, porterage.

1632 D d.g. Vectura.

1722 Llst 190, Arian clud … The fraight or wages of a ship or boat.

1771 W d.g. Carriage [the price pay’d for conveying of goods …], Fare [money pay’d for being carried …], Portage, Waggonage.

arian coch(ion): copper coins, coppers.

1760 ML ii. 242, Toccins yw arian cochion yn Sir Faesyfed a Sir Frycheiniog.

1779 W Ballads 313 d.d., Dwy o Gerddi Newddion … Yn gosod allan yr helynt drafferthus sydd o achos yr arian Cochion hyd Gymru.

1779 W Ballads 317 d.d., Dwy o Gerddi Newyddion … O gwynfan i’r Cymry o golled am yr Arian Cochion.

1783 W Ballads 344 5, Taw Sion lol wirion mae’r holl arian cochion, / I’th brynu ’n rhy fryntion yr awron gryn res.

Ar lafar, ‘arian coch’, WVBD 21 (‘seldom used’); ‘arian cochion’ ‘copper coin’, B iv. 289 (canolbarth Cered.).

arian con: minimum wage paid to collier.

Ar lafar, ‘arian con’ ‘isafswm a delid gan y cwmni yn gyflog i löwr a weithiai mewn man a oedd mor ddrwg fel na fedrai dorri digon o lo i ennill mwy na’r isafswm hwn’, Geir Glo 134 (sir Gaerf. a Morg.).

arian (y) cor: fairy-money.

1693 E. Lhuyd: LL 195, By Arian y Cor is most commonly understood not Roman coyn but old English coyns.

c. 1700 E. Lhuyd: Par i. 51, By ye Castle in an acre of Land belonging to ye vicarage arian y Corr was formerly found.

id. iii. 41, find some strange sort of moneys calling the Arian Corr.

1806 Y Greal [241], cenedl y Coraniaid … a’u bath wynt oedd arian còr.

arian corau: pew-rent.

Ar lafar yng Nghered.

arian cwrw: beer money.

Ar lafar, ‘arian cwrw’ ‘arian i wario ar ddiod, yn enw. arian o’r fath a enillir drwy ymgymryd â gwaith rhan-amser, &c.’ (dwyrain sir Gaerf.).

arian cwtaon: clipped coins.

15g. AL ii. 442, [p]a beth a dylir dros yr eidia neu dros yr arged ae arian kyfreithol ae arian kttaon.

ariant (y) cwynos, &c., gw. cwynos (hefyd GPC3).

arian cyfred: currency.

1970.

arian cyfredol: currency.

1988.

arian cyfreithiol, &c. [1970 yw dyddiad yr engh. nesaf]: legal tender.

15g. AL ii. 442, [p]a beth a dylir dros yr eidia neu dros yr arged ae arian kyfreithol ae arian kttaon.

arian cyfrif: counters.

1604-7 TW (Pen 228) d.g. Abaculi.

1722 Llst 190, Arian cyfrif. Counters.

1772 W d.g. Counter [for computing with].

arian cyffredin: single currency.

1995.

arian cymeradwy: currency, current money, legal tender.

1588 Gen xxiii. 16, pedwar-cant sicl o arian cymmeradwy ym mhlith marchnad-wyr.

1722 Llst 190, Arian cymmeradwy. Currant or passable money.

arian cymorth: subsidy, grant.

1916.

arian cymwys: exact money, correct money.

Ar lafar, ‘Tæl yr arian cwmws, waith ’ôs dim gin’ i o newid iti’, GTN 32.

arian cywir: exact money, correct money.

1995.

arian daear: buried treasure.

1862.

arian daered, arian daeredau, &c., gw. daered1 (hefyd GPC3).

arian darmerth: procuration (payment), proxy (eccl.).

1780 W d.g. Procuration [money pay’d at a visitation to an ecclesiastical superintendant …], Proxies.

arian degol: decimal money, decimal coinage.

1983.

arian digwydd: windfall.

Ar lafar yng Nghered.

arian dôl: dole money, unemployment benefit.

2000.

arian drwg: base money, counterfeit money.

Diw. 16g. LlGC 5265 34a, i mi rhoen draw Arian drwg.

1604-7 TW (Pen 228) d.g. Moneta Adulterina.

1693 HC 76, fel y gwna Eurych arian drwg i debygu ir arian cyfreithlon.

1723 J. Jones: LlA 241, megis ag y mae llawer yn cymmeryd Arian drwg (counterfeit money) yn lle Arian breiniol.

1794 E. Jones: CP 67, Talu i’r tylodion mewn arian drwg.

Ar lafar (godre Cered.).

arian dŵr, &c.: payment for working in water.

Ar lafar, cf. Geir Glo 134, arian dŵr … mewn rhai gweithfeydd telid swllt neu ddau yr wythnos yn ychwanegol i lowyr a weithiai’n gyson mewn dŵr (D[wyrain] Morg[annwg]) … arian un dŵr … y taliad safonol am weithio mewn dŵr (Pontardd[ulais]) … arian dŵr dwbwl … taliad dwbl am weithio mewn man lle ceid tua dwywaith gymaint o ddŵr ag a oedd yn arferol (Pontardd[ulais]).

ariant dyodwf, &c., gw. dyodwf (hefyd GPC3).

arian echwyn, &c.: loan money.

14g. BT (RB) 160, ef [Henri Ieuaf] aeth y dinas Twrs y geissaw aryant echwyn y gann vwrdeisseit y dinas.

14g. WM 16316-21, A chymeint ac a vyryad. a anuones y gyr yn anrec yr amherodres. ar meirch ar arueu yn anrec y wreic y melinyd yr ymaros am y haryant echyn.

1798 WR, arian echwyn ar long d.g. Bottomry.

arian ernes: imprest (money), advance (payment), deposit.

1604-7 TW (Pen 228) d.g. Arrha.

1737 SR d.g. Money … Earnest money.

1775 W d.g. Imprest-money.

arian ffas: tip given to haulier by trammer.

Ar lafar, ‘arian ffas’ ‘math o gilbwt, tua swllt yr wythnos, a roddai’r dramwyr i’r halier am ddod â dramiau ar eu cyfer o’r partin i’r hedin’, Geir Glo 101 (dwyrain sir Gaerf.); ‘arian ffas’ ‘cilbwt a gâi’r halier gan ddramwr, wrth weithio system y topolion am ddod â dramiau o’r partin i enau’r hedin y gweithiai’r dramwr ohoni’, Geir Glo 134 (sir Gaerf. a gorllewin Morg.).

arian ffidler: small coins.

Ar lafar, ‘arian ffidlar’ (Arfon).

arian gleision: silver (money), (silver) coins.

1565 IICRC iii. 250, Och am weled rhyw ddyn glan a gymre arian gleision.

16-17g. RAGR 386, Niwrdduw im geissio bydd im ran / nac aur nac arian gleission / er yspario a gado yn fyw / yr un oth syw gybyddion.

1764 W. Williams: Th 15, O rŵd yr arian gleision a gesglais I i gid, / Yn dyrrau ar y tlodion sy nawr yn berwi ‘nghyd.

Ar lafar, ‘arian gl(e)ision’ ‘silver coinage’, LGW 225 (dwyrain y Canolbarth, a’r De); hefyd yn y ff. ‘arian gleison’, B iv. 289 (canolbarth Cered.); ac yn yr ystyr ‘arian metal o bob math’, ‘Ma tocyns yn arian glision, ’eblaw syllta a wechinoca a pisiys tira a ’annar corana a arian siẁd’ny’, GTN 32; ac yn yr ystyr ‘arian mân’, ‘Dim ond arian glision odd yn y clasgiad’, ‘’Allwch chi newid y swllt ’ma am arian glision?’, GTN 32.

arian gloywon: silver (money), silver coins.

1756 ML i. 442, chwi a gewch arian gloywon am danynt.

Ar lafar, R. E. Jones: ALIC 24.

arian gwastad: exact money, correct money.

Ar lafar yn Llŷn ac Arfon.

arian (y) gwestfâu, &c.: money paid as food-render by freemen to the king; procuration (payment), proxy (eccl.).

14g. LlB 12, Ef [distain] a rann aryant y gwestuaeu … Ef a geiff rann deuwr o aryant y gwestuaeu.

14g. WML 24, Ran gr ageiff [drysor] o aryant ygestuaeu.

1604-7 TW (Pen 228), Arian gwestfa d.g. Intributio.

1632 D, Gwestfa … Swydd y distain yw rhannu arian y gwestfaau.

1780 W, arian gwestfa d.g. Procuration … [money pay’d at a visitation to an ecclesiastical superintendant …].

1793 P, Ariant … ariant y gwestväau, supper money, or lodging money; which was paid by the gentry and freeholders to the maintenance of the officers of the court.

arian gwlad: revenue.

1724 E. Wells: CC 50, pob cam-dreulio Arian Glwad [sic] (gwedi eu hamcanu i gyweirio prif Ffyrdd neu’r cyffelyb).

arian gwynion, &c.: silver (money), silver coins.

16-17g. CRC 191, rhai/n/ llogi arian gwynion / rhai/n/ rhedec mewn dyledion.

1742 ML (Add) 863, Lle mae mynyddoedd o arian Gwynion, a Brynniau o Bres a Phonciau o Aur melynion.

1789 Twm o’r Nant: TChB 19, Mi wnawn ryfeddod yn fy rhan, / O Giuneas [sic] ag arian. [sic] gwynnion.

Ar lafar, ‘arian gwnion’, WVBD 21; ‘arian gwyn(ion)’, LGW 225 (y Gogledd a gorllewin y Canolbarth).

arian hur: fixed daily pay.

Ar lafar, Geir Glo 134 (sir Gaerf. a Morg.).

arian lledr: leather money.

c. 1700 E. Lhuyd: Par i. 92, Fe gaed gynt yn y wydhgryg Beili … Lhond Lhestr o hoelion heyrn a 2 sheet ne dair o blwm (ag arian Lhedr medh rhai).

id. ii. 22, [c]orn eidion ai gryn lond o arrian lheder.

arian llog: interest (money).

17g. LlGC 10249 173, Bŷd kaeth, meddwl kywaethog / bŷd ar drai, llai arian llôg.

c. 1730 Thos. Lloyd D (LlGC) 164a, arian llôg. interest mony.

1775 W d.g. Interest-money.

arian llogell: pocket money.

1837.

arian llongau: ship-money.

1776 DALl 6, i godi Arian ar bobl y wlad yma; yn lle Arian llongau.

arian mân: small change, small coin(s); petty cash; ?silver coins.

15g. GLGC 406, Efa wraig gwrda fal Cain—ferch Frychan / a ran arian mân ac aur a main.

c. 1644 CM 25 147, Och am arian man fal mes—o’i gwario / gwirion yw fy hanes / grôd a ffott a cherdottes / mewn amser a wna lawer o les.

1887 SE, Arian … Arian mân, small coin, small change.

Ar lafar, ‘newid yn arian mân’, WVBD 21.

arian marw:

(i) silver (opp. ‘quicksilver’).

16g. Mos 113 24, Arian byw i Vercher, ac Arian marw ir Lleüad.

(ii) ‘dead money’, money making no profit for its owner.

1772 W, Arian marw d.g. Dormant money.

arian mathol: coins, coinage, currency.

16-17g. CRC 48, Arian mathol mwy na rhi / a wnaeth imi golli fortun.

Gw. hefyd arian bathol.

arian medi: reap-silver.

1301 Cheshire PR 198, De eisdem Bedellis pro quodam redditu quem villani eiusdem Comoti solvunt annuatim in termino sancti Michaelis quiquidem redditus vocatur Wallice Aryenmedy Anglice Repsylver.

arian melyn, arian melynion: gold coins.

1879.

Ar lafar, ‘Arian melynion’ ‘gold coins’, R. E. Jones: ALIC 24; ‘arian melyn’ ‘gold coin’, WVBD 21.

arian mewn llaw: cash in hand.

1863.

arian y nenbren: rent.

Ar lafar yn y Gogledd.

arian papur: paper money, banknotes, also fig.

1770 TG iv. 53, rhoddi coel-ysgrifen wladol am arian-papur a fenthyccer.

1798 WR d.g. Currency.

[1939] D. Gwenallt Jones: YA 100, Mor wag dy lowyr yn eu dillad gwaith / … / Arian papur y gyfnewidfa faith.

arian parod, &c.: ready money, cash.

14g. WM 7830-2, mi a rodaf it pedeirpunt arugeint o aryant parat.

1604-7 TW (Pen 228) d.g. Repræsentatio, Res.

1672 R. Prichard: Gw 222, Hi fydd gwell yn nydd dy ddrallod [sic], / Nag Aur coeth ac Arian parod.

1766 CD 106, Ni chawn i bott o ddiod / Oni byddai arian parod.

1771 W, Prynu ag arian parod d.g. To buy with ready money.

Ar lafar, B iv. 289 (canolbarth Cered.); GTN 32.

arian Pasg: Easter-dues, Easter-offering.

1690 Ymofynion 7, Oes nêb yn naccau neu yn attal talu ei ddegwm ei arian Pâsc, ai Offrwm cyfreithlawn.

arian pen:

(i) poll-money, poll tax; capitation (grant).

1567 TN 28a, y gan bwy y cymer Brenhinedd y ddaiar deyrnget, nei dreth [:- arian pen]?

1604-7 TW (Pen 228) d.g. Capitatio.

(ii) exact money, correct money.

1958.

Ar lafar yn sir Gaerf.

arian perygl: danger money.

Ar lafar, ‘A faint o arian perig rywch chi ifi?’, GTN 32.

arian pitw: petty cash.

1972.

arian y plwyf: parish relief.

1749 ML i. 143, My father had brought the young fellow up … and took him apprentice (arian y plwyf).

arian poced: pocket money.

1958.

Ar lafar yn gyff.; hefyd yn y diwydiant glo, ‘arian poced’ ‘byddai’r dynion gorau bob amser yn rhoi rhyw chwe cheiniog yn ychwanegol i’r cyflog yn arian poced i’r bechgyn ifainc a weithiai iddynt’, Geir Glo 134.

arian porth:

(i) financial support, loan.

1632 D d.g. Stipendium.

1773 W, Arian porth i’r tlawd, neu i ysgolhaig d.g. Exhibition.

(ii) fare, freight, carriage, porterage.

1604-7 TW (Pen 228) d.g. Exercitio, Naulum, Vectura.

1722 Llst 190, Arian clud, Arian porth … The fraight or wages of a ship or boat.

1771 W d.g. Carriage [the price pay’d for conveying of goods …], Fare [money pay’d for being carried …], Ferriage, Freight, Portage, or porterage.

(iii) customs, duty.

1772 W d.g. Clearance of a ship [at the Custom-house], Custom [the king’s duties on imports and exports, tribute, &c.].

(iv) admittance charge.

1604-7 TW (Pen 228), Arian porth a rodher y gael dyvot y mewn y welet chwareû d.g. Extar.

arian pres: copper coins.

Ar lafar, WVBD 21.

arian rhan: dole or share money.

1604-7 TW (Pen 228) d.g. Congiarium.

1722 Llst 190, Arian rhann. A dole of money.

arian (y) rhaw: money given to sexton at graveside.

1858 Traeth xiv. 370, Bydd offrwm hefyd i’r clochydd wrth y bedd (arian y rhaw ei gelwir mewn rhai manau, gan y bydd y clochydd yn eu derbyn drwy ddal y rhaw uwchben y bedd).

arian rhif: counters; currency.

1547 WS, Arean rif Counters.

1632 D, Arian … Arian rhif … Moneta.

1688 TJ, Arian rhîf, arian bâth. Coin.

1722 Llst 190, Arian bath, Arian rhif. Coin, current money.

1753 TR, Arian … Arian rhîf … money or coin.

1793 P, Arian … Arian rhiv … current money, or coin.

arian rhodd: gift-money.

15g. GGM 93, A doeth draw, nid aeth drwodd, / Er yn rhaib, ei arian rhodd [Gweful Mechain i Lywelyn ap Gutun].

Gw. hefyd arianrodd.

arian seti: pew-rent.

1894.

arian sych(ion), &c.: hard cash, ready money.

1741 ML i. 55, dau swllt yn arian sychion.

Ar lafar, ‘arian sychion’, WVBD 21; ‘Rodd gydag e bumpunt o arian sychion’, B iv. 289 (canolbarth Cered.); ‘arian sych’ (dwyrain Morg.); ‘Fe adawws gampunt mwn arian sychon’, GTN 32.

arian tâl, &c.: money payment.

13g. Cott. Calig. A. iii 195b, Pob perchennavc yt pyev kadw y yt. a phob perchennavc escrybyl pyev kadw y escrybyl. Ac vrth henny emae yavn y pavb daly ar y yt. Ac esef e mae yavn daly ar e gayavar aryant tal amdanaw hyt wylsanfreyt. ac o henny allan dywyn llvgyr. E gwayanhwynar o henny hyt kalan mey aryan tal.

14g. WML 83, Or pan dotter yr yt yny … dayar hyt pan el yny yscub. aryant tal a da drosta.

Gw. hefyd ariantal.

arian taw: hush money.

1774 W d.g. Hush-money.

Ar lafar, R. E. Jones: ALIC 24.

arian tawdd: molten silver; pure, refined, or bright silver, also fig.

15g. GLGC 355, Gŵr wyd a dyfodd yn gall / yn dderwen neu’n wŷdd arall; / arian tawdd yw’r aeron tau, / ac aur oedd ar y gwreiddiau.

15-16g. GRB 68, Dirwyn tid o arian tawdd, / da i’th lanw—Duw a’th luniawdd.

16g. GSC [52], Arian tawdd yw’r un tyddyn, / Newyddfwyd iach, noddfa dyn.

arian teyrnged, arian y deyrnged: tribute-money.

1567 TN 28a, yr ei oedd yn derbyn arian y deyrnget a ddaethant at Petr.

1583 LlGC 716 65a, A rhai o’r philistims [sic] … a ddygasont i Iehoshaphat, rhoddie, ac arrian-teyrnget.

1704 E. Samuel: BA 19, y Cyllidwyr (oedd yn derbyn arian y deyrnged).

1740 T. Evans: DPO 67, Am ba ham ni cheisiodd Custenyn fawr ddim Arian Teyrnged o Frydain, ond rhyw Gydnabyddiaeth yn unig mai efe oedd Ben.

arian traul: pocket money, (money carried for) expenses.

c. 1585 TMC 92, E gais ef arian trayl (expences) genym?

1688 S. Hughes: TSP 247, y Lladron a’i hyspeiliasant ef o’i holl arian traul gan mwyaf.

1780 W d.g. Pocket-money.

arian treigl: currency.

1823.

arian y Tylwyth Teg: fairy-money.

1935.

arian un dŵr, gw. arian dŵr.

arian wai: payment for taking trams further than 120 yards along the heading.

Ar lafar yn y diwydiant glo, Geir Glo 134 (Morg.).

arian wrth gefn: monetary reserves.

1972.

Bot.:

arian byw:

(i) totter-grass, quaking-grass, Briza media.

1934.

(ii) honesty, Lunaria annua.

Ar lafar, G. Awbery: BM 20 (sir Drefn.).

arian (y) cor: yellow rattle, Rhinanthus minor.

1793 P, Arian … in botany … arian y còr.

1813 WB 155, Arian Cor … Rhinanthus Crista galli; Yellow Rattle.

arian cybydd: honesty, Lunaria annua.

1995.

Ar lafar, ISF 14.

arian enid [?Enid]: lily of the valley, Convallaria majalis; white bachelor’s buttons, Ranunculus aconitifolius; honesty, Lunaria annua.

18-19g. IAW (LlGC) 97 190, Arian enid [:- Lili of the valey white Batchelour’s Buttons] a’r wen eneth / hyd y wlad yn dyfîad difeth.

18-19g. IAW (LlGC) 101 15, Arian enid, honesty, a kind of flower Dr Wms.

arian y ffordd: silverweed, Potentilla anserina.

Ar lafar, G. Awbery: BM 52 (sir Drefn.).

arian y gwair: yellow rattle, Rhinanthus minor.

1887 SE, Arian y gwair = Arian gweirwyr.—Cyfeiliog.

Ar lafar, G. Awbery: BM 61 (Morg.).

arian (y) gweirwyr, &c.: yellow rattle, Rhinanthus minor.

[1783] W, Arian y gweirwŷr d.g. Rattle [in Botany].

1793 P, Arian … in botany … arian y gweirwyr, rattle, or fluxwort.

18-19g. Llr C 7 32, Arian y gweirwr … different sorts of grass or hay in Glam.

1813 WB 155, Arian Cor Arian Gweirwyr … Rhinanthus Crista galli; Yellow Rattle.

Ar lafar, ‘arian y gweirwr’(sir Gaerf., Morg.), ‘arian y gweirwyrs’ (sir Drefn.), G. Awbery: BM 61.

arian Gwion: yellow rattle, Rhinanthus minor; bastard rhubarb, Thalictrum flavum; ?silverweed, Potentilla anserina.

1604-7 TW (Pen 228) d.g. Alectorolophos, Crista Galli.

id., Crista Galli, yw Arian Gwion y lhyseun a vydh yn sïo yn y gwair, pan vo’n dhigon sych d.g. Crista herba.

1632 D (Bot), Arian Gwion, yr arian-llys, Crista galli.

1688 TJ, Arian Gwion, Arian-llŷs: Flux-wort, or Lask-wort, Bastard Rhubarb.

1722 Llst 190, Arian Gwion, Arianllys. Argentine (herb).

1725 SR, Rhapentick, or Rubarb, Arian gwion.

1773 W d.g. Flux-wort, or lask-wort [in Botany].

1793 P, Arian … in botany … arian gwiawn … rhubarb.

1801 MMf 284, Cristagalli, arian gwion.

1813 WB 155, Arian Cor … Arian gwion; Rhinanthus Crista galli; Yellow Rattle.

arian gwynion: honesty, Lunaria annua.

1811.

Ar lafar, G. Awbery: BM 20 (Môn).

arian Llundain: honesty, Lunaria annua.

Ar lafar, G. Awbery: BM 20 (sir Gaerf.).

arian (y) meirch: yellow rattle, Rhinanthus minor.

1947.

arian parod: honesty, Lunaria annua.

1945.

Ar lafar, G. Awbery: BM 20 (sir Gaern., Meir., sir Ddinb., a sir Drefn.); GTN 32.

arian pentai: marsh pennywort, Hydrocotyle vulgaris.

1793 P, Amrain … Pennywort. Arian pentai, llysau’r geiniawg.

arian pladurwr: yellow rattle, Rhinanthus minor.

1947.

Ar lafar, G. Awbery: BM 61 (Môn).

Gw. hefyd ariannach.