ystafell2002ystafell, stafell
[bnth. Llad. *stabellum (ff. fach. ar stabulum, cf. Gwydd. C. saball, Llyd. C. staul), H. Grn. steuel (ff. l.), gl. tricinium]
eb. (bach. ystafellan, (geir.) (y)stafellig) ll. ystafelloedd, ystafellau, (y)stefyll, estefyll, (prin) ystafelli, ystafellon.
a Rhan o adeilad a amgaeir gan waliau neu barwydydd, llawr, a nenfwd, yn enw. un a neilltuir ar gyfer person(au) neu bwrpas(au) penodol, rŵm; adeilad, neuadd, ?stabl; tŷ neu siambr (senedd); hefyd yn ffig.; ogof; Biol. ceudod mewn corff, fentrigl:
room; building, hall, ?stable; house or chamber (of parliament); also fig.; cave; chamber (cavity in body), ventricle.
9-10g. Juv 282, adstebíll, gl. ad limina.
13g. LlI 8, er egnat llys … E lety yv estauell e brenhyn.
13g. C 1072-3, Diaspad mererid. Am kymhell heno y urth uyistauell.
14g. LlB 49, ebediw … y arglwyd y tir y bo yr ystauell arnaw y telir.
14g. YBH 46b, ef ar deugein marchac y gyt ac ef a aethant yr ystauell lle yd oed march bon.
id. 55a, Y barneit ar meibon adeuthant racdunt oc eu stauelloedd.
14g. GDG³ 321, Gwell yw ystafell os tyf [i’r deildy].
c. 1400 R 104444, Stauell gyndylan ys tywyll heno.
c. 1400 (SG) HMSS i. 367, Merch yr arglwyd a doeth o un or ystauelleu allan.
15g. GGl² 110, Lleuad y Rhiw, lle da’i rhoed / Lloergan ystefyll irgoed.
1488-9 BSM 9, gwnevthur ystavell iddo o brennav gwniedic a elwid kell Varthin.
1567 LlGG (Sall) 57b, Yr hwn [Duw] a osot tuylathae ei ystafell yn y dyfredd.
id. 58a, Ef yddufrá [sic] y mynyddedd o’i estevyll [:- ucheloedd, siambre].
1588 Math vi. 6, Tithe pan weddiech dos i’th stafell (TN 8b, cubicl).
1604-7 TW (Pen 228), stavelhic d.g. Aedicula, Cœnatiuncula, procœtium.
1632 D, Ystafell d.g. Camera.
id., Pigleidr yn chwilio ystafellon i ladratta d.g. Diætarius.
1653 MLl i. 232, [m]ynd i mewn i’r stafell ddirgel. a’r stafell honno yw Duw ei hunan o’r tu fewn.
1658 R. Vaughan: PS 116, Yr Stafellan (noddfa beunyddol ir gwr da n gyfannedd. ac mewn erlid yn fynych ei vnig Eclwys).
c. 1700 E. Lhuyd: Par 79, Mae’r tîr yn apt i vod yn dylhey, ystavelhi etc. ynghylch Penbed.
1725 D. Lewis: GB 64, y Galon … Y mae ynthi ddwy Stafell, sef yr un Ddeheu a’r un Asswy.
1803 P d.g. Ystavell.
Ar lafar, ‘’Dwi am neud stafell yn yr atic flwyddyn nesa’’.
Digwydd fel elf. mewn e. lleoedd, e.e. Ystafell-fach, Llanwrtyd, Brych., Ystafell Lewsyn am ogof yng Nghraig Nantstalwyn, Llanddewi Abergwesyn, Brych.
b Rhoddion i bâr a oedd yn priodi, yn enw. y dodrefn, y llestri, yr offer, &c., a gaent gan eu rhieni; (derbyniad a roddid gan y briodferch) y diwrnod cyn y briodas pryd y cyflwynwyd y rhain iddynt:
gifts given to a couple on their marriage, esp. the furniture, utensils, &c., given by their parents; (reception given by the bride) the day before the wedding when these were presented to them.
1791 Gentleman’s Magazine lxi. 1103, Friday is allotted to bring home the Ystafell, or chamber, of the woman, if she is to reside at the man’s house; or of the man, if he is to reside at the house where the woman lives [Lewis Morris am briodasau yng Ngheredigion].
Diw. 19g. SE MS 625b, [Ystavell,] a reception given by the bride generally the day next before the marriage at which her friends make her presents and her portion of the household furniture belonging to her is brought to her new residence (Cered).
1899 D. E. Jones: HLlP 370, Stafell y gwr ifangc yn y plwyfi hyn ydyw, gwely pren neu haiarn, seld, ford [sic], a ’stolau cadeiriau, a stafell y wraig ydyw, gwely pluf, dillad gwely, coffor deri, a llestri.
Ar lafar, ‘stafell’ ‘The furniture, clothes, etc., forming a bride’s dowry’, TGG (1904) 64 (gogledd sir Benf.).
Cfn. (detholiad yn unig):
ystefyll bychain: privies, lavatories, toilets.
14g. BT 42, hitheu ay duc ef yr ysteuyll bychein.
1346 LlA 24.
c. 1400 YCM² 175, nyt aryneigyassant [Sarasiniaid] gwneuthur y hysteuyll bychein ar yr allawr.
stafell Crist: room kept in some houses for the use of people on a journey.
Ar lafar, ‘Rŵm odd stafall Crist ar gyfar teithwyr fasa’n galw ’ipo’, GTN 713.
ystafell gyfarch: drawing-room.
(y)stafell ddirgel: private room, secret chamber, also fig.
1606 E. James: Hom i. 148, yn ei stafell ddirgel wrtho ei hûn.
1632 J. Davies: LlR 61, o fewn eu stafelloedd dirgel yn eu llysoedd.
1653 MLl i. 232, [m]ynd i mewn i’r stafell ddirgel. a’r stafell honno yw Duw ei hunan o’r tu fewn.
1771 W d.g. Chamber, A privy, or withdrawing chamber.
Mae Y Stafell Ddirgel yn nofel (1969) gan Marion Eames.
(y)stafell ddosbarth: classroom.
(y)stafell wely: bedroom.
1604-7 TW (Pen 228) d.g. Thalamus.
1620 2 Br vi. 12, y geiriau a leferi di ynghanol dy stafell wely.
Ar lafar, ‘Ma isie roi sgeileit fowr mywn i gâl newid yr atic yn stafell wely’ (sir Gaerf.).
(y)stafell wisgo: dressing-room, vestry.
ystafell (y g)wragedd: harem.
1798 WR, ystafell y gwragedd yn y Dwyrain d.g. Haram.
ystafell werdd: green room (in theatre, &c.).
(y)stafell wydr: conservatory.
ystafell fagu: nursery.
(y)stafell dywyll: darkroom; camera obscura.
1725 D. Lewis: GB 99, Y mae’r Llygad yn gyffelyb i Stafell dywyll, a fo wrth un Tŵll bach, a megis Gwydr Spectal arno, i ollwng y Goleuni i mywn.
ystafell ymddiddan: parlour.
(y)stafell ysgyfala(f), &c.: private room, parlour, chamber.
c. 1400 YCM² 191, Hu Gadarn a ganhebryghwys Chyarlymaen a’e deudec gogyfurd y ystauell ysgyfalaf.
1604-7 TW (Pen 228), stauel [sic] ysgyuala d.g. Cœnaculum.
1661 E. Lewis: Drex 66, Mewn man or tu fewn i ryw ystafell ysgafala yn Nazareth.
1803 P, Ysgyvala … Ystafell ysgavala.