16g. GRCG 12, Mi euthum oddi yno i’m brecfas i le digon atgas / At wraig felen, ddyras yn llawn o gynddaredd.
c. 1590 RC xlvi. 75, mi a’u gwahodda ef y’w vrekffast y’m ystavell i.
16-17g. GST i. 550, Ys da eden, os doedwn, / Ystôr yn frecffast i hwn.
1672 R. Prichard: Gw 8, Rho ith enaid nôs a boreu, / Frecffast fechan o’r scrythyreu.
1753 J. Prys: Alm [6], Darparu Tea yw [sic] Brecwest.
1759 J. Evans: PF 64, awr cyn Brecwest.
1760 ML ii. 242, brecwast o fara a chaws a llaeth a maidd.
1771 PDPh 24, yn fore iawn, a chyn brecffast.
1808 Twm o’r Nant: BB 10, Ond gwedi pob gloddest, ’r oedd galw i frecwest.
1863 Ceiriog: CG 132, Caed swper, a gwely, a brecwest cytun.
1894 D. Owen: GT 95, gofala am fwyta brecwest da chwech o’r gloch y bore.
1995 GA, brecwast(-au) d.g. breakfast1.
Ar lafar, ‘Fe fu mwy o gollad cyn brecwast lawar gwaith’ ‘an unfeeling way of referring to the death of someone disliked by the speaker, or to some other loss’, GTN 93.