bwa11953bwa1
[bnth. S. C. bowe, boge neu o’r H. S. boga ‘bow’]
eg. ll. bwâu.
1. a Arf o bren ystwyth wedi ei blygu’n hanner cylch a’i ddeuben wedi eu cysylltu â llinyn tyn i ergydio saethau ar hedfa, ffig. weithiau am allu:
bow, fig. sometimes for power.
13g. LlDW 10216, [gwerth] bua adeuddecsaet .1111.
13g. B x. 32, dodi saeth a oruc ene uwa.
14g. WM 22519-20, bwa o ascwrn eliffant.
c. 1400 RB ii. 32, aledander aanelwys y vwa.
15g. GGl 177, Prisio Morgan ap Rosier / Y bu ar glod bwa’r glêr.
15g. Pen 109 55, Mil o uwae mil o ueirch (Lewys glyn Cothi).
1588 Jer xlix. 35, wele fi yn torri bwa Elam eu cadernid pennaf hwynt.
b Gwialen a thant i ganu offeryn cerdd llinynnog, fel y crwth a’r ffidil:
bow to play stringed instrument.
1768 W. Williams: HTS 34, dyma’r nôt yr oedd ei fwayn chwarae arno fwyaf.
2. a Enfys:
rainbow.
13g. DB 61, E bwa en er awyr (arcus in aere), petwar lliwyauc o’r heul a’r wybyr … ena yd ymdengys e bua hwnnw.
16g. Pen 127 241, y bwa nevol pedwar lliwioc yr hwnn a elwir envys.
1588 Gen ix. 13, Fy mŵa a roddais yn y cwmmwl.
b Adeiladwaith ar lun bwa neu ran o gylch wedi ei gymhwyso i ddal pwysau neu i fod yn waith addurnol, mynedfa fwaog:
arch, bow, archway.
14g. BT 4, pan ddistrywyawdd ysaesson vwa dygannw.
15-16g. Dafydd Trefor: Gw 205, Bwâu uchel eu beichiau, / O’r coed ar y brigau’n cau.
c. 1700 E. Lhuyd: Par i. [1], Pont ar Gamlan ar Avon Kamlan (ŷn bwa).
c. 1762-79 W. Williams: P 134, pontydd ardderchog, o dri, pymp, ac weithiau saith o fwaau.
Cfn.:
bwa annel: bent bow.
15g. Pen 109 8.
16g. Llst 6 115.
bwa’r arch, bwa’r ach (ff. daf.): rainbow.
y Bwa Bach: nickname used by Dafydd ap Gwilym for Eiddig or the jealous husband (lit. the Little Bow).
bwa’r cefn: curvature of the back.
bwa croes, bwa crwys: cross-bow, arbalest.
15g. Pen 109 58.
15-16g. Llawdden, &c.: Gw 11.
1588 Job xli. 20.
1677 C. Edwards: FfDd 341.
bwa crwth: bow used to play a ‘crwth’ or a violin, fiddlestick.
15g. GGl 61.
1632 D d.g. Dædala, Plectrum.
1770 W d.g. bow for a violin.
bwa’r cyfamod: bow of the covenant, rainbow.
c. 1736 L. Morris: LW 141.
bwa cyfrwy: saddle-bow.
bwa enfys: rainbow.
c. 1400 DB 106, Bwa envys yn yr awyr, o’r heul a’r wybyr y ffuryfheir.
bwa glaw, bwa’r glaw: rainbow.
15g. (Diw. 16g.) Gwyn 3 174.
1567 TN 384a.
1672 R. Prichard: Gw 261.
Ar lafar yn sir Ddinb.
bwa’r wrach (?llgr. o bwa’r arch): rainbow (lit. hag’s bow).
Bwa’r Gwynt: the Milky Way.
1756 W. Williams: GDC 41.
bwa’r hin: rainbow.
bwa hir: long-bow.
bwa llygod: ?mouse trap.
bwa maen: stone arch.
15g. DN 74.
16g. Gr. Hiraethog: Gw 139.
1588 Esec x. 16.
bwa pont: arch of bridge.
bwa rhyfel: battle bow.
bwa (a) saeth(au): bow and arrow.
14g. YCM 15.
15g. Pen 109 94.
18-19g. MA ii. 373.
bwa’r Drindod: rainbow.
1606 E. James: Hom i. 136.
1672 R. Prichard: Gw 261.
bwa’r wybren: rainbow.
bwa yw: bow made of yew.
15g. Pen 109 40, 90.
17g. Pen 49 114.
Am anelu bwa, gwlw bwa, tynnu (mewn) bwa, gw. anelaf1: anelu, gwlf, tynnaf1: tynnu.