gwthiaf1975

gwthiaf, gythiaf: gwthio, gythio 

[bf. o’r e. gwth] 

ba.

a  Symud neu yrru (peth) ymlaen drwy roddi grym neu bwysau y tu ôl iddo, rhoddi hergwd (i), hwpo, cilgwthio, gyrru (cleddyf, cyllell, &c.) i’r cnawd, &c., gyrru allan, bwrw allan; gwasgu ar, dirio, argymell, gorfodi; cicio, taro; lansio:

to push, shove, jostle, hustle, thrust, drive out, cast out; urge, press, instil, force; kick, strike; launch.

14g. LlB 116, pan ythyer yn y gorwed (quando calce pulsatur).

14g. GDG 205, Gythier efo gwthr afanc, / Dros y bwrdd ar draws y banc.

14-15g. IGE² 200, I bob gwaith, i bob gwthiaw, / I bob aer drom bybyr draw.

c. 1400 RC xxxiii. 193, y gwthyawd un or meibion ef [Iesu] yny dyrr yr ysten.

id. 246.

c. 1400 (SG) HMSS i. 118, govyn idi pa amser oed hwnw idi y dyfot y wthyaw drysseu.

id. 426.

1547 WS, Gwthio Thrust.

1551 W. Salesbury: KLl lvb, Gwthia ir dyfndwr.

1567 LlGG (Sall) 67a, Gwthiest vi yn ddirvawr.

16g. (1763) W. Salesbury: LlM 105.

1588 Ecs x. 11, hwynt a wthiwyd o wydd Pharao.

1588 2 Sam xviii. 14, efe a gymmerth dair o biccelau … ac ai gwthiodd yng-halon Absalom.

1588 Job xviii. 18, Efe a wthîr allan o oleuni i dywyllwch.

1588 Ecclus xiii. 24, pan syrthîo y tlawd ei gyfeillion ai gwthiant ef.

1604-7 TW (Pen 228) d.g. adposco, violatus.

1632 D, gwthio, pellere, pulsare.

id. d.g. adigo, ago, compello, transigo.

1661 E. Lewis: Drex 154, Dau eraill … a’i brathasant trwy ei gefn, gan wthio eu cleddyfau â’i dwylaw.

1703 E. Wynne: BC 134, os câfinneu wrth bregethu … wthio un [cyngor] o’m heiddo fy hun.

1722 Llst 189, gwthio, to push, thrust, force, set forward, drive.

1725-6 Madd Ed 197, nis gall efe [y diafol] … wthio ein Hewyllysiau.

1775 W d.g. to justle, to launch a ship.

1795 R. Crusoe 17.

1798 WR d.g. launch, shove.

1800 P.

Ar lafar yng ngogledd Cered. gwffio; yn y Gogledd gwthio, gwrthio, WVBD 168.

b  Torri tywarchen yn denau oddi ar wyneb y tir â haearn gwthio, digroeni, didonni, betingo, plowo:

to pare (land), burn-beat.

1834.

Ar lafar yn gyff. yn y Gogledd, ‘gwthio a llosgi tir’, ‘gwthio ffridd, mynydd, &c.’.

Amr.:

hwthio [cf. hordd am gordd, B xxvi. 34].

1707 AB 287c, hwthio d.g. to thrust.

18g. Beirdd y Berwyn 30.

1789 Twm o’r Nant: TChB 15.

1798 Gw. Mechain: D 15.

Ar lafar yn gyff., WVBD 168.

Clywir hefyd y ff. pwthio, ?dan ddyl. y S. push.

Cfn.:

gwthio ar: to force upon (one), impose on (one).

1655 WL: DP 273.

1667 C. Edwards: FfDd 73.

1672 J. Langford: HDdD 323.

1778 W d.g. to obtrude [force, or thrust] on or upon.

gwthio i’r dwfn: to launch into the deep, study a matter profoundly.

1620 Luc v. 4.

gwthio’r cwch i’r dŵr, gw. cwch.

gwthio i lawr corn gwddf (un): to ram down one’s throat, impose or force upon (one) unwillingly.

Ar lafar yn gyff.

gwthio llong (i’r môr): to launch a ship.

1704 E. Samuel: BA 10.

1775 W d.g. to launch a ship.

gwthio ei big (fy mhig, &c.) i mewn i: to poke one’s nose into.

Ar lafar yn gyff.

Am aradr wthio, haearn gwthio, gw. aradr (At.), haearn.