llyfrgell1987llyfrgell
[llyfr1+cell1]
eb. ll. llyfrgelloedd, llyfrgellau.
Casgliad o lyfrau, &c., adeilad, ystafell, neu gist sy’n cynnwys casgliad o lyfrau, &c., sefydliad sy’n darparu casgliad o lyfrau, &c., at ddefnydd y cyhoedd neu ran ohono, stydi, ystafell ar gyfer darllen ac ysgrifennu, hefyd yn ffig. ac yn dros.; (geir.) siop lyfrau:
library, study, also fig. and transf.; (dict.) bookshop.
1604-7 TW (Pen 228) d.g. armarium, bibliotheca (hefyd D).
1675 R. Davies: PY 86, megis ac y maent [gwedïau] i’w gweled yn eu gweithredoedd, a lyfrgell y Tadau.
1713 RLl: LlCI d.d., Llyfr-gell y Cristion Ifaingc; neu Gasgliad o Lyfrau Da â Llesol yn Gyfaddas iw rhoi i Bobl Ifaingc gan eu Rhieni.
1716 T. Evans: DPO [vii], Cefais rydd-did i fyned … i’r Llyfr-gell fawr odidog sy’n perthyn i Ysgol-rydd Tref y Mwythig.
1722 Llst 189 llyfrdy, [lly]frgell, a study, library, book-seller’s shop.
1728 T. Baddy: DDG 68, lle’r oedd ganddynt [yr Israeliaid yn Alecsandria] eu Cyssegr … LLyfr-gellau a llawer o Ysgolion Dysg.
c. 1729 S. Rhydderch: LlCD 422, Juvenal ac Ovid dŵf rydid difreg, / A fynnwn i’m Llyfrgel ystafell lwys deg.
c. 1730 Thos. Lloyd D (LlGC) 164b, llyfrgell, scrinium.
1731 E. Samuel: PGB [24], Chwi ellwch hefyd gael Arian am Lyfrgell, neu ryw Nifer o Lyfrau yn y Fasnachgell ragddywededig.
1732 AABI 129, dNepotianus, yr hwn wrth fynych fyfyrio ar y Scrythur Lân, a wnaeth ei ddwy fron yn Llyfrgell Jesu Grist.
[1740] L. Anwyl: NG [149], Arian parod am hên lyfrau neu lyfr-gellau.
1760 ML ii. 278, Ni chaf fi lyfrgell tra bwyf byw, oddigerth y gelwch y ddau gwpwrdd yma yn llyfrgell, na shash [sic] windo chwaith.
1770 TG ii. 100, yn Llyfrgell y Gwr bonheddig o Lannerch.
1790 T. Jones: TOS 179, Na thybiwch fod eich holl waith yn eich llyfrgell a’r pulpid.
1803 P.
Cfn.:
llyfrgell a darllenfa: library and reading room.
llyfrgell fenthycol, llyfrgell fenthyg: lending library.
llyfrgell gangen: branch library.
llyfrgell ganol: central library.
llyfrgell genedlaethol: national library.
1860 BAC 29 Awst, [755], llyfrgell genedlaethol, i gynnwys copi o bob llyfr, mawr a bychan, a argraffwyd erioed yn y Gymraeg; pob llyfr mewn ieithoedd ereill sydd yn dal perthynas â Chymru, y Cymru, a’r Gymraeg; pob math o lawysgrifau hen a diweddar y gellid eu casglu fyddont yn dal unrhyw berthynas â’n gwlad a’n cenedl, yn nghyd â chasgliad o bob llyfrau ar wahanol ranau gwybodaeth y byddai yn ddichonadwy i feddiant o honynt.
llyfrgell gerdd: music library.
llyfrgell gyhoeddus: public library.
llyfrgell hawlfraint: copyright library.
llyfrgell leol: local library.
llyfrgell rydd: free library.
llyfrgell sir: county library.
llyfrgell deithiol: mobile library.
llyfrgell ymchwil: reference library.