pythefnos1997

pythefnos, pythewnos, &c. 

[pymtheg+nos; cf. wythnos, a Gwydd. C. cóicthiges] 

eg.b.

Cyfnod o ddwy wythnos:

fortnight.

13g. LlI 45, petheunos o’r dyd hunnu e byd er oet.

13g. LTWL 250, pen y pytheonos.

14g. BT (RB) 88, cadw y castell o Ywein ap Cradawc pethawnos.

14g. WM 4468-9, affethefnos a mis y buant yno.

14g. GDG³ 190, Ei threfn fydd bob pythefnos / (Ei thref dan nef ydyw nos) / I ddwyn ei chwrs odd yna [i’r lleuad].

15g. GGl² 123, Mae i’m cefn es pythefnos / Henwayw ni ad hun y nos.

1545 CM 1 58, yr hyn a bery y mewn hryw van or ddaiar wythnos gyua ac m/ewn man arall pytheuynos.

1588 Lef xii. 2-5, os gwraig a feichioga ac a escor ar wryw, yna bydded aflan saith niwrnod … Ond os ar fenyw yr escor hi, yna y bydd hi aflan bythefnos.

1632 D, pythefnos, & passim Pythewnos … quindena, spacium quindecim dierum.

1687 (1715) J. Owen: TB 165, ac yno porthwyd ef bythewnos cyfan gan jâr yr hon … a ddodwodd wy bob dydd yn ei ymmyl ef.

1755 ML i. 365, ac na che’s na’m côf na’m synwyr gan ryw weilch segurllyd er’s pythewnos.

1795 J. Thomas: AIC 77, yn diweddu, Bythefnos i’r Mercher nesaf ar ei ôl.

1803 P d.g. pythevnos.

Ar lafar yn y Gogledd a Chered. yn y ff. p(y)thefnos, WVBD 447, B xiv. 281, ac yn y De a Chered. yn y ff. pythewnos, pythownos, &c., B xiv. 281; ‘Fe gæs ’i lædd cyn bod pythownos dan ddaear’.

Amr.:

bysewnoth.

Gw. pysewnoth.

bythefnos, bythewnos, &c.

1792 H. Harris: H 161, Efe a fu yn garcharor yngharchardŷ [sic] Aberhonddu o gylch bythefnos.

Ar lafar yn sir Benf., ‘Ond ffeindo Dafydd un o’r hwrddod in gorwe’n eitha marw in parc Jim John fithawnos nôl’, Wês wês 12.

pumthefnos.

1798 WR d.g. fortnight.

pymthefnos.

1918.

pymthegnos, pumpthegnos, pymthengnos, &c. [adff. dysg.].

1547 WS, pumpthecnos, a fourtenyght.

1604-7 TW (Pen 228), pymthecnos d.g. quindena.

1632 D, pythefnos, & passim Pythewnos, corruptè pro Pymthengnos.

1740 T. Evans: DPO 307, Pymthengnos.

1752 ML i. 204, pymthegnos.

1803 P d.g. pymthegnos.

pysewnoth, pysownoth, bysewnoth [drwy drsd.].

Ar lafar yng Nghered., sir Gaerf., a sir Benf., TGG (1906) 20.