Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3a-000011

ab, ap

yn werth ei draethu.
Yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif ar bymtheg, yr oedd yn byw yn Rhuthyn wr o bwys ac o barch, o'r enw Edward ab Thomas ab Edward ab Siencyn Goch, o Landyrnog; ond a fabwysiadodd y cyfenw Goodman, gan adael yr abau oll allan; ac felly i gael ei adnabod o hyny yn mlaen wrth yr enw Edward Goodman. Enillodd y gwr da hwnw fab a enwyd ganddo yn Gabriel. Ac yr oedd ganddo awydd a moddion, pan ddaeth yr amser, i roddi addysg i'r bachgen; a chan y bachgen awydd ac ymroddiad i dderbyn ei addysg, a gwneyd y goreu o honi. Dringodd Gabriel Goodman i fyny, ac i fyny, nes iddo,…

Y Geninen, xv., 56 (1897)