Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3a-000402

afal

Mae nifer o enwau afalau Lland'och yn parhau ar dafodau brodorion hyd heddi: Afal Shimw, Afal BiamAfal Cot Ledr Afal Tân Coed, Afal Bysedd y Forwyn, Afal Melys, Afal Gwyn a'r Brenin Oll, Afal Pig y Glomen, Afal Lefi Michael, Afal Coch Bach - tyfai'r rhain yng ngardd Bell View, yn felys ac yn goch trwyddyn nhw. Hoff afal y plant oedd afal Pren Glas o berllan Parc y Ffrier ac roedd Afal Pig y Deryn yn un da i wneud seidr. Yr un sy'n aros yn y cof yn bennaf yw Afalau Ceilliau'r Esgob (Bishop's Codlings), pe bai dim ond am ei enw'n unig. Yn ôl un hen wag yn y pentre maen nhw'n 'Gwd Cwcyrs'.

Mair Garmon Jones (2013): Ody'r Teid yn Mynd Mas, 94

2013