Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3c-001608

camlas, rhaban

[neges e-bost:] Helo eto!

Siarad ar Facebook â rhywun o Gwm Cych wedi'n atgoffa i o rywun yn sôn gynt am y canél yn Abercych, a hynny yn neud i fi chwethin/ysgyrnygu danedd am y ffurf 'gywir' pynfarch neu efallai camlas. A hynny'n 'yn hela i i gysylltu â ti...!

Roedd brawd mam-gu, ffarmwr mynydd o Landdeibrefi, yn arfer 'camlas' yn hollol naturiol yn yr ystyr 'a moss-filled water track draining a bog' (fel yn y llun sy ynghlwm).

Does dim term Saesneg yn cyfateb 'un am un' i 'camlas' yn ei ystyr e.. Mae hydrolegwyr yn arfer 'water track' am bethau sy'n edrych fel 'nentydd' o frwyn. Enw brawd mamgu am hynny oedd 'rhaban brwyn'.

A'i derm cyffredinol am unrhyw 'water course' ("cwrs dŵr" – druain ohonon ni!), a dim jyst rhai dyfnion, ac yn cynnwys rhai artiffisial fel y canél yn Abercych, oedd 'rhaban dŵr'.

Hwyl am y tro!

Gwyn

 

Gwyn Jones, 17.03.2016

2016