Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3c-001985

canlynaf: canlyn

[llythyren neu ddwy ar ddiwedd pob llinell ar goll:]

Roedd canlyn stalwyn yn swydd hynod o brofiadol a chyfrifol i was [:] dim ond y ceffylwyr gorau a ddewisid at y gwaith. Golygai ofal[u] am stalwyn a oedd bryd hynny'n werth tua 500-1000 gini (gwele[er] *stalwyn cwmni). Gwaith crwydrol oedd 'canlyn stalwyn' a bydda[i] 'canlynwr' yn crwydro pob rhan o'r ynys a gorfod bod oddi cartref a[m] gyfnodau hir yn y tymor rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf. Yn ôl T[wm?] Tyddyn a 'ganlynodd stalwyni' am flynyddoedd, archebwy[d] gwasanaeth a dyddiad y stalwyn trwy lythyr i'r perchennog. Ar [yr] unfed dydd ar ddeg ar ôl dod â chyw mae caseg yn marchio, h.y. y[n] dod i sesn a rhaid oedd trefnu rhaglen drylwyr.

DGM (1999) 31

1999