Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3c-002251

cantiaf1?: cantio

Cantio a mowntio: Defnyddir y ddau air hwn ym Môn am y weithred fwriadol neu ddamweiniol o dipio'r trwmbal a gwagio'r llwyth. Digwydd hyn pan dynnir neu pan lithra bys y frân – y bolwten ddur sy'n mynd drwy dyllau'r frân. Plât o haearn ar flaen trol yw'r frân gyda thyllau mân ynddo ar ffrâm y drol y tu blaen i'r trwmbal i'w godi'n raddol neu yn gyfan gwbl fel bo'r angen wrth gantio [mewn print italig] neu fowntio [mewn print italig] llwyth o dail, cerrig, neu rwdins.

DGM (1999) 31

1999