Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3c-002394

capel

capal gwyn: Yma y treulia un nad yw'n gapelwr nac yn eglwyswr ei foreau Sul yn gorffwys rhwng dwy gynfas gotwm wen ei wely. Ceir amrywiadau ar yr ymadrodd:

Ymadrodd wrth dynnu coes gŵr ifanc sydd newydd ddod yn dad i'w blentyn cyntafL 'Rhywun wedi cael ei ordeinio'n flaenor o'r capal gwyn.'

Gŵr sy'n ddad i nifer fawr o blant: 'Gweinidog y capal gwyn'.

Gŵr sydd wedi cenhedlu nifer o blant o wragedd eraill: 'Pregethwr cynorthwyol yn y capal gwyn.'

Clywodd fy nain, K.O. Tan-y-Foel, gan ei thad, H.J. Pencefn Bach, mai rhyw gymeriad doniol o'r enw Sion Peri o'r Llan – a oedd yn fyw cyn ei chyfnod hi – a luniodd yr ymadroddion hyn a llawer o rai eraill. Mae hyn yn ddigon posib o ystyried bod Llannerch-y-medd yn llawn cymeriadau ac yn hawlio'r traddodiad o fod y pentref mwyaf ffraeth a doniol ym Môn. Ond roedd yr ymadrodd 'capal gwyn' yn weddol gyffredin ledled yr ynys. Clywodd M.P. Tal-y-llyn yr ymadrodd gan ei nain, C.W. Refail Bach, ac I.W.J. Pencraig gan ei thaid, O.J. Llawr Tyddyn. Clywais innau ef gan C.J. Cemaes, D.L. Garreg Wen, Jac W. Pyllau, D.P. Penrhyd, S.W. Ael-y-bryn ac amryw eraill yn ogystal á chan hen do yn y Llan.

DGM, 31-2