Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3c-000258

cadach

cadach gwddw a ffunan bocad: yr un peth yw'r ddau ond maent yn gwahaniaethu yn ôl y defnydd a wneir ohonynt, Os yw yn y boced, ffunen boced [y ddau air mewn print italig] ydyw; os am y gwddf (ac yn enwedig os yw o ddefnydd lliwgar), cadach gwddf [y ddau air mewn print italig] ydyw. [pargraff newydd:] Yn rhagair Bedwyr Lewis Jones i Iaith Môn [y ddau air mewn print italig], mae'r awdur yn datgan yn bendant mai gair a berthyn i Fôn ac i Fôn yn unig yw ffunen [gair mewn print italig]. Roedd yn gyffredin drwy Gymru ar un adeg am sgarff i roi am y pen neu'r gwddf, ond ym Môn cedwid y gair a'i neilltuo ar gyfer ffunen boced [y ddau air mewn print italig]. 'Hances' ddywed pobl Arfon; 'macin poced' yng Ngheredigion; 'nicloth' ym Mhenfro a 'hancsier', 'hancis', 'hanshed' yn ne Cymru. Gwisgai ceffylwyr gadach gwddf lliw; addurn bob amser gan eu bod yn ddandis go arw!

DGM (1999) 28-29

1999