{"id":13,"date":"2018-05-11T10:05:22","date_gmt":"2018-05-11T09:05:22","guid":{"rendered":"http:\/\/localhost\/geiriadur\/slipiau\/?page_id=13"},"modified":"2025-06-12T12:49:03","modified_gmt":"2025-06-12T11:49:03","slug":"cyfarwyddiadau","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.geiriadur.ac.uk\/slipiau\/cyfarwyddiadau\/","title":{"rendered":"Cyfarwyddiadau"},"content":{"rendered":"<p>Diolch am eich parodrwydd i\u2019n helpu. Peidiwch \u00e2 phoeni gormod am wneud camgymeriadau! Bydd staff y Geiriadur yn gwirio pob dyfyniad yn erbyn y ffynhonnell wreiddiol cyn ei gyhoeddi yn y Geiriadur er mwyn sicrhau ei gywirdeb. Serch hynny, bydd dilyn y cyfarwyddiadau hyn yn fodd i\u2019ch helpu i greu adnodd o safon.<\/p>\n<h2>Creu cyfrif a mewngofnodi<\/h2>\n<p>Pan fyddwch chi\u2019n dechrau trawsgrifio am y tro cyntaf mewn sesiwn, bydd y system yn gofyn i chi fewngofnodi neu gofrestru. Gallwch <a href=\"https:\/\/www.geiriadur.ac.uk\/slipiau\/wp-login.php?action=register\">gofrestru yma<\/a> a dychwelyd wedyn i ddarllen gweddill y cyfarwyddiadau. Mae angen eich enw a\u2019ch cyfeiriad e-bost arnom er mwyn gallu cysylltu \u00e2 chi (e.e. i ateb cwestiynau neu i esbonio rhywbeth). Ni fydd neb o\u2019r tu allan i\u2019r Geiriadur yn gweld eich manylion (gw. ein <a href=\"https:\/\/www.geiriadur.ac.uk\/preifatrwydd\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">polisi preifatrwydd<\/a>).<\/p>\n<p>Bydd angen creu \u2018enw sgrin\u2019 hefyd. Dyma\u2019r enw fydd yn ymddangos ar dudalen yr ystadegau os cytunwch i hynny. Gall fod yr un fath \u00e2\u2019ch enw go iawn, neu unrhyw enw neu lysenw nad oes neb arall wedi\u2019i ddefnyddio.<\/p>\n<h2>Pori drwy\u2019r slipiau<\/h2>\n<p>Ffordd dda i ddechrau yw pori drwy\u2019r slipiau y mae pobl eraill wedi\u2019u trawsgrifio\u2019n barod. Gallwch wneud hyn cyn cofrestru i weld sut mae\u2019r slipiau\u2019n edrych a sut mae pobl eraill wedi eu trafod.<\/p>\n<p>Cliciwch ar PORI DRWY\u2019R SLIPIAU ar frig y tudalen. Cewch ddewis llythyren drwy glicio ar unrhyw deilsen er mwyn dechrau pori. (Ar hyn o bryd, dim ond A, B, a rhan o C sydd ar gael. Bydd mwy o ddeunydd yn cael ei ychwanegu o bryd i\u2019w gilydd.)<\/p>\n<p>Bydd rhestr o slipiau yn ymddangos. Os bydd slip wedi\u2019i drawsgrifio\u2019n barod, bydd y dangosair yn cael ei restru ar y dde. Cliciwch ar y linc i weld y slip gyda\u2019r trawsgrifiad oddi tano. Gallwch glicio ar y llun o\u2019r slip i\u2019w chwyddo. Cliciwch ar yr \u2018X\u2019 o dan y llun i gau\u2019r llun mawr a pharhau i bori.<\/p>\n<p>Gallwch fynd drwy\u2019r slipiau drwy glicio ar <u>&lt; I\u2019r slip Blaenorol<\/u> neu <u>I\u2019r slip Nesaf &gt;<\/u> neu gallwch ddychwelyd i\u2019r rhestr a dewis slip gwahanol.<\/p>\n<p>Gan fod miloedd o slipiau o dan bob llythyren, mae\u2019r rhestr wedi\u2019i rhannu\u2019n dudalennau o 20 slip yr un. I neidio i dudalen arall, cliciwch ar y sgwaryn cyfatebol ar waelod y tudalen, neu ar y sgwaryn \u2018&gt;\u2019 i fynd i\u2019r tudalen nesaf.<\/p>\n<p>Os sylwch ar wall yn y trawsgrifiadau, mae croeso i chi e-bostio\u2019r manylion at gpc@geiriadur.ac.uk, fel y gallwn ni gywiro\u2019r cofnod perthnasol.<\/p>\n<h2>Trawsgrifio slipiau<\/h2>\n<p>Cliciwch ar TRAWSGRIFIO ar frig y tudalen. Cewch ddewis llythyren drwy glicio ar unrhyw deilsen er mwyn dechrau pori. (Ar hyn o bryd, dim ond A, B, a rhan o C sydd ar gael. Bydd mwy o ddeunydd yn cael ei ychwanegu o bryd i\u2019w gilydd.)<\/p>\n<p>Bydd slip yn cael ei ddewis ar hap o\u2019r rheini sydd heb eu trawsgrifio fel man cychwyn i chi.<br \/>\nGallwch glicio ar y llun o\u2019r slip i\u2019w chwyddo. Gall fod yn haws i\u2019w weld fel hyn. Ewch yn \u00f4l i\u2019r tudalen drwy glicio ar yr \u2018X\u2019 ar waelod y llun (PEIDIWCH \u00e2 defnyddio botwm \u2018mynd yn \u00f4l\u2019 eich porwr \u2013 byddwch yn neidio allan o\u2019r tudalen trawsgrifio!).<\/p>\n<p>Fel rheol, mae angen teipio popeth sydd ar y slip, ond mae dau eithriad: (1) Os oes mwy nag un dyfyniad ar yr un slip, trawsgrifiwch y prif ddyfyniad (neu\u2019r un cyntaf) yn unig a thiciwch yr opsiwn \u2018Mwy nag un dyfyniad\u2019; (2) Os oes llungopi o dudalen cyfan, bydd cop\u00efo\u2019r gair dan sylw a digon o gyd-destun i\u2019w ddeall yn gwneud y tro.<\/p>\n<p>Bydd nifer o flychau o dan y llun o\u2019r slip ar gyfer teipio gwybodaeth ynddynt:<\/p>\n<ul>\n<li>\n<h3 id=\"Dangosair\"><em>Dangosair<\/em><\/h3>\n<\/li>\n<\/ul>\n<p>Dangosair (headword yn Saesneg) yw\u2019r gair sy\u2019n ymddangos ar gornel chwith uchaf slip. Dyma\u2019r gair (neu ffurf arno) fydd yn digwydd yn y dyfyniad islaw. Gall dangosair fod yn air neu\u2019n gyfuniad o eiriau (e.e. <i>pen<sup>1<\/sup> &#8211; pen bore<\/i>), ac yn achos berfau, defnyddir y patrwm <i>codaf: codi<\/i> neu <i>af: mynd<\/i>. Dilynwch beth sydd ar y slip. Os bydd y dangosair wedi ei groesi allan neu ei gywiro, rhowch y dangosair diweddaraf, os oes modd dweud.<\/p>\n<p>Defnyddiwch lythrennau bach ac eithrio ar gyfer enwau priod (e.e. <i>Cymro<\/i>, <i>Ffrancwr<\/i>, <i>Yr Aifft<\/i>). Weithiau ceir uwchrif (rhif superscript) ar \u00f4l y dangosair: nodwch y rhain gyda\u2019r botwm \u2018x<sup>2<\/sup>\u2019. Teipiwch lythrennau acennog yn eich ffordd arferol neu cliciwch ar \u2018\u03a9\u2019 er mwyn dewis y llythyren briodol.<\/p>\n<p>Os cewch anhawster, nodwch hynny yn y blwch <b>Sylwadau<\/b> (gw. isod).<\/p>\n<ul>\n<li>\n<h3 id=\"Opsiynau\"><em>Opsiynau<\/em><\/h3>\n<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae tri gr\u0175p o opsiynau yn dilyn y dangosair ond ni fydd y rhain yn berthnasol gan amlaf.<br \/>\nWeithiau ceir nodyn ar y slip yn lle dyfyniad. Nodwch hyn ym mlwch y diffiniad, ond ticiwch yr opsiwn priodol.<\/p>\n<p>Os oes mwy nag un dyfyniad ar yr un slip, nodwch y prif ddyfyniad (neu\u2019r un cyntaf) yn unig yn y blwch <b>Dyfyniad<\/b> a thiciwch yr opsiwn \u2018Mwy nag un dyfyniad\u2019.<\/p>\n<p>Weithiau mae slip yn parhau ar ail slip, ac fel arfer nodir hyn \u00e2 saeth. Gallwch gael cipolwg ar y slip nesaf drwy glicio\u2019r linc <u>Cipolwg o\u2019r Slip Nesaf &gt;<\/u> uwchben y llun o\u2019r slip.<\/p>\n<p>Os yw\u2019r wybodaeth yn parhau, ticiwch yr opsiwn.<\/p>\n<p>Os oes mwy nag un dyfyniad ar yr un slip, nodwch y prif ddyfyniad (neu\u2019r un cyntaf) yn unig yn y blwch Dyfyniad a thiciwch yr opsiwn \u2018Mwy nag un dyfyniad\u2019.<\/p>\n<ul>\n<li>\n<h3 id=\"Dyfyniad\"><em>Dyfyniad<\/em><\/h3>\n<\/li>\n<\/ul>\n<p>Dyma\u2019r frawddeg, &amp;c., sydd wedi\u2019i dyfynnu ar y slip er mwyn dangos defnydd o\u2019r dangosair.<br \/>\nOs bydd y dyfyniad wedi mynd o\u2019r golwg, cliciwch ar \u2018\u2212 Cuddio\u2019r meysydd hyd at y dyfyniad\u2019 o dan y llun o\u2019r slip, a chewch fwy o le i weithio drwy guddio\u2019r dangosair a\u2019r opsiynau. (Os ydych am eu gweld eto, cliciwch ar \u2018+ Dangos y meysydd hyd at y dyfyniad\u2019 i\u2019w hailddangos.)<\/p>\n<p>Teipiwch y dyfyniad yn union fel y mae gan italeiddio\u2019r enghraifft o\u2019r dangosair (sydd wedi\u2019i thanlinellu fel arfer ar y slip). Fel rheol, ni fydd angen defnyddio\u2019r botymau teip trwm \u2018<b>B<\/b>\u2019 na thanlinellu \u2018<u>U<\/u>\u2019.<\/p>\n<p>Teipiwch lythrennau acennog neu symbolau yn eich ffordd arferol neu cliciwch ar \u2018\u03a9\u2019 er mwyn dewis y llythyren briodol.<\/p>\n<p>Weithiau bydd symbol tebyg i \u2018\u03b4\u2019 ar y slipiau i gynrychioli \u2018dd\u2019, felly teipiwch \u2018dd\u2019 yn ei le. (Mewn testunau Cymraeg Canol, mae\u2019n well ei gadw fel \u2018\u03b4\u2019 drwy glicio ar \u2018\u03a9\u2019 a dewis \u2018\u03b4\u2019, ond peidiwch \u00e2 phoeni\u2019n ormodol am hyn). Efallai y dewch ar draws llythyren debyg i \u20186\u2019 agored sy\u2019n sefyll am \u2018u\u2019 neu \u2018w\u2019 mewn testunau Cymraeg Canol. Gellir cael y symbol cywir drwy glicio ar \u2018\u03a9\u2019 a dewis \u2018\u1efd\u2019 (yr ail symbol o\u2019r diwedd). Os cewch drafferth, defnyddiwch y rhif \u20186\u2019.<\/p>\n<p>Os dewch ar draws symbolau nad oes modd eu cynrychioli (e.e. llythrennau IPA (yr wyddor seinegol), Groeg, Hebraeg, &amp;c.), neu lythyren gyda dot oddi tani, nodwch fod problem yn y blwch Sylwadau (gw. isod).<\/p>\n<p>Weithiau bydd nodiadau ychwanegol ar y slip. Teipiwch y rhain yn yr un blwch. Os ceir nodyn mewn cylch, rhowch ef rhwng cromfachau.<\/p>\n<p>Os oes gormod o destun i\u2019w drawsgrifio (e.e. llungopi o dudalen cyfan), bydd cop\u00efo\u2019r gair dan sylw a digon o gyd-destun i\u2019w ddeall yn gwneud y tro, gan roi nodyn yn y blwch <b>Sylwadau<\/b> (gw. isod).<\/p>\n<ul>\n<li>\n<h3 id=\"Ffynhonnell\"><em>Ffynhonnell<\/em><\/h3>\n<\/li>\n<\/ul>\n<p>Dyma ffynhonnell y dyfyniad, sef y testun mae\u2019n dod ohono. Gan amlaf, mae\u2019n ymddangos ar waelod y slip. Gall gynnwys enw\u2019r awdur, enw\u2019r testun, rhif cyfrol, dyddiad, rhif tudalen, &amp;c. Nodwch hyn yn union fel y mae, gan siecio\u2019r rhifau\u2019n ofalus i osgoi camgymeriadau. Weithiau bydd blwyddyn gyhoeddi yn rhan o\u2019r ffynhonnell: codwch hyn gyda\u2019r ffynhonnell.<\/p>\n<ul>\n<li>\n<h3 id=\"Dyddiad\"><em>Dyddiad<\/em><\/h3>\n<\/li>\n<\/ul>\n<p>Os oes dyddiad, bydd yn ymddangos yng nghornel dde uchaf y slip neu fel rhan o\u2019r ffynhonnell. Nodwch hwnnw yma yn union fel y mae (gall fod yn flwyddyn, e.e. \u20182018\u2019, ar ffurf canrif, e.e. \u201816-17g.\u2019, neu ystod o ddyddiadau fel \u20182017-18\u2019).<\/p>\n<p>Yn achos papurau newydd, cylchgronau, &amp;c., nodwch y flwyddyn yma (heb y mis, &amp;c.). Nid oes dyddiad o gwbl ar lawer o slipiau, felly peidiwch \u00e2 nodi dim byd yn y blwch.<\/p>\n<ul>\n<li>\n<h3 id=\"Bodlonrwydd\"><em>Bodlonrwydd<\/em><\/h3>\n<\/li>\n<\/ul>\n<p>Os nad ydych yn gwbl fodlon ar eich trawsgrifiad, dewiswch un o\u2019r opsiynau yma. Gallwch ychwanegu nodyn yn <b>Sylwadau<\/b>, os oes angen ymhelaethu.<\/p>\n<ul>\n<li>\n<h3 id=\"Sylwadau\"><em>Sylwadau<\/em><\/h3>\n<\/li>\n<\/ul>\n<p>Os cewch anhawster, gallwch ymhelaethu arno yma, os oes angen. Hefyd, os oes gennych ryw wybodaeth bersonol ychwanegol, nodwch hynny yma yn hytrach nag yn y blwch <b>Dyfyniad<\/b>.<\/p>\n<p>Os hoffech ofyn cwestiwn i un o\u2019r Golygyddion, e-bostiwch y manylion at gpc@geiriadur.ac.uk, fel y gallwn ni ymateb yn gynt. Os ydych am gyfeirio at slip arbennig, nodwch gyfeirnod y slip (sydd i\u2019w weld ar y chwith o dan y llun), e.e. \u20183a-000488\u2019.<\/p>\n<ul>\n<li>\n<h3 id=\"Rhagolwg\"><em>Rhagolwg<\/em><\/h3>\n<\/li>\n<\/ul>\n<p>Rhaid clicio ar \u2018Rhagolwg a safio\u2019 er mwyn cymharu eich trawsgrifiad \u00e2\u2019r slip, cyn arbed eich gwaith a symud ymlaen at y slip nesaf. Os sylwch ar unrhyw wall, cliciwch ar \u2018Cau\u2019r Rhagolwg\u2019 i fynd yn \u00f4l i\u2019w gywiro. Rhaid clicio\u2019r botwm \u2018Rhagolwg a safio\u2019 i gadw\u2019ch trawsgrifiad \u2013 os dewiswch \u2018Canslo a neidio i\u2019r Slip Nesaf\u2019, byddwch yn mynd yn syth at y slip nesaf <u>gan golli\u2019ch gwaith<\/u>.<\/p>\n<p>Os ydych yn fodlon ar y trawsgrifiad, cliciwch \u2018Safio\u2019 i arbed eich trawsgrifiad a chael symud ymlaen at y slip nesaf. Os bydd popeth wedi mynd yn iawn, dylech weld \u2018<span style=\"color: #993366;\">Llwyddiant! Diolch yn fawr am eich cyfraniad<\/span>\u2019 uwchben y slip nesaf.<\/p>\n<h2>Ystadegau<\/h2>\n<p>Os hoffech weld faint o slipiau rydych wedi\u2019u trawsgrifio, cliciwch ar YSTADEGAU ar frig y tudalen, a chewch weld amrywiaeth o ystadegau, gan gynnwys faint o waith y mae pobl eraill wedi\u2019i wneud a faint o slipiau sydd wedi\u2019u trawsgrifio\u2019n gyfan gwbl. Os ydych wedi caniat\u00e1u i bawb weld eich enw sgrin (yn eich proffil wrth gofrestru), dylai\u2019ch enw ymddangos mewn teip gwyrdd yn yr ystadegau, fel arall bydd yn ymddangos fel \u2018Dienw\u2019. (Gallwch newid yr opsiwn hwn yn <a href=\"https:\/\/www.geiriadur.ac.uk\/slipiau\/wp-admin\/profile.php\">Golygu fy mhroffil<\/a> \u2013 ar frig y golofn ar y dde.)<\/p>\n<h1>Diolch yn fawr am eich cyfraniad i\u2019r prosiect.<\/h1>\n<p><a href=\"https:\/\/www.geiriadur.ac.uk\/slipiau\/wp-login.php?action=register\">Cofrestru<\/a> (os heb wneud eto)<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.geiriadur.ac.uk\/slipiau\/trawsgrifio\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Dechrau trawsgrifio<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Diolch am eich parodrwydd i\u2019n helpu. Peidiwch \u00e2 phoeni gormod am wneud camgymeriadau! Bydd staff y Geiriadur yn gwirio pob dyfyniad yn erbyn y ffynhonnell wreiddiol cyn ei gyhoeddi yn y Geiriadur er mwyn sicrhau ei gywirdeb. Serch hynny, bydd dilyn y cyfarwyddiadau hyn yn fodd i\u2019ch helpu i greu adnodd o safon. Creu cyfrif [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-13","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.geiriadur.ac.uk\/slipiau\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/13","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.geiriadur.ac.uk\/slipiau\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.geiriadur.ac.uk\/slipiau\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.geiriadur.ac.uk\/slipiau\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.geiriadur.ac.uk\/slipiau\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=13"}],"version-history":[{"count":33,"href":"https:\/\/www.geiriadur.ac.uk\/slipiau\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/13\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":118,"href":"https:\/\/www.geiriadur.ac.uk\/slipiau\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/13\/revisions\/118"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.geiriadur.ac.uk\/slipiau\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}