Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3c-010235

corn

corn ffisig a chornio: Yn y dyddiau cyn i'r gwn dosio anifail a ffisig gael ei ddyfeisio, defnyddid y corn ffisig i'r un diben. Corn buwch gwag ydoedd efo rhigol wedi ei dorri yn y pen llydan agored i ffurfio twmffat hanner crwn. Llenwid y corn â'r ffisig ac fe godid pen yr anifail drwy gydio'n y ffroenau â bysedd a bawd. Rhoddid y twmffat hanner crwn ger ochr ceg yr anifail a thywallt y ffisig yn araf i lawr y gwddf. Gelwid y weithred o dywallt y ffisig gyda'r corn i lawr y gwddf yn 'cornio'. 

DGM (1999) 44

1999