Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3c-010400

coron

Arferiad tlodion fforddiol y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd i gelcu, dimai wrth ddimai a cheiniog wrth geiniog trwy aberthu anghenion, nes bod ganddynt ddarn coron (pum swllt yn yr hen bres a 25 ceiniog heddiw). Roedd coron yn swm sylweddol i'w gelcu yn y 1870au – 1890au pan oedd cyflog gwas ffarm rhwng saith swllt a chwe cheiniog a chweugain (37c - 50c), a thorth bedair pwys yn costio chwe cheiniog (2½c). Er pa mor dlawd a newynog oedd y teulu efallai, ni chyffyrddent goron yr argyfwng onid oedd yn argyfwng difrifol iawn.

DGM (1999) 44