Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3c-010746

côt

Hengoed, Alltyclogwyn, Iau, 25-10-90

Annwyl Gyfeillion, Gair (gwerinol a daearol, fel y cewch weld yn y foment) cyn ymadael am Gynhadledd y Blaid.

GPC, cot-a-chynffon: ychwaneger (1) cot-a-chwt, (2) cot-cachu-drwyddi. Ni chofiaf yn y byd b'le y clywais (2) yn ystod fy oes dymhestlog hir, fel na ddoder wrth ddrws gogledd sir Benfro! Daeth yr ymadrodd yn ôl imi nos Sul wrth wylio'r rhaglen ar Gwynfor, a gweld y cip o Elystan yn yr arwisgo. A meddylier yn wir am T.H.Parry-Williams yno ('Beth yw'r ots gennyf i am Gymru?' - a allai ddiawl ei hun ...)

Rhwng popeth, nid oes dianc rhag y Gynhadledd.

Cofion cynnes, Dafydd.

Dafydd [Bowen, Aberystwyth]

1990