Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3c-003670

cath — cath dan ffendar

Cath dan ffendar

Cathod a fegir yn y gaeaf a'u cludo gan eu mam at gynhesrwydd tân; o ganlyniad byddant yn gathod diog — yn wahan ol i gathod yr haf sydd wedi eu geni a'u magu yng ngwres yr haul ac sydd o ganlyniad yn helwyr da, wedi dynwared yr oedolion wrth hela.

Cathod ha' sy'n gathod da

Nadu'r llygod fod yn bla;

Cathod gaea'n da i'm byd

I ddal y llygod yn yr ŷd;

Mewod diog, mwythlyd, tendar

Byw a bod wrth wres y ffendar. W.J. Bryn Du

Gelwir llanc neu eneth ddiog, dendar, ddi-daro yn gath dan ffendar hefyd.

Nodiadau
! Cododd problem arall (gweler y sylwadau isod)

Sylwadau

dim ffynhonnell wedi'i nodi