Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3c-005283

ceubal

ceubal: 1. Bol, stumog. 'Mi fytodd lond 'i geubal nes oedd o'n llawn dop!'

2. Tynnodd Bedwyr Lewis Jones ein sylw at y ffaith mai hen gwch mawr ydoedd ceubal [italeiddiwyd yn y gwreiddiol]. Croesai un ohonynt afon Taf yng Ngeubalfa, sef Gabalfa. Ychwanegodd W.E.J. ddisgifiad mawl o geubal:

Llong fechan yw geubal [italeiddiwyd yn y gwreiddiol], hyd at ddeugain troedfedd o hyd ac o siâp crwn o ddrafft bas, yn ddelfrydol at gael ei rhedeg i'r tywod ar drai llanw i ddadlwytho. Nid yw'n ddelfrydol i'w defnyddio dim ond fordeithiau arfordirol gan ei bod, o achos ei chynllun, yn rhowlio'n ddrwg. Maent yn boblogaiddd, a mwy na heb yn gyfyngedig i arfordir dwyreiniol Lloegr. Cobble [italeiddiwyd yn y gwreiddiol] neu Coble [italeiddiwyd yn y gwreiddiol] y'u gelwir yn y parthau hynny. Gair benthyg ohono yw ceubal [italeiddiwyd yn y gwreiddiol].

DGM (1999) 35-36

1999