Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3c-005424

ci

ci sgrwff: ci amhrisiadwy i helwyr ac mae'r term yn un dilornus am gi bach o [?] frîd daeargi cymysg gan rai nad ydynt yn rhy hoff o gŵn yn gyffredinol. (Roedd J.W. yn un o'r rhain ond nid oedd cŵn, ac yn enwedig fy nghŵn i, yr or-hoff ohono yntau chwaith! Oedaf i nodi serch hynny fod ganddynt reddf at farddoniaeth am eu bod yn hoff iawn o Llew Llwydiarth a Machraeth!)

    Gwaith y ci sgrwff – sy'n gymysgfa o fridiau o ddaeargwn ac sy'n ddelfrydol â mymryn o waed sbangi ynddynt – yw herio cwningod o [?] sgrwff a drysni ar gyfer milgwn; marcio – h.y. darganfod gwâl ysgyfarnog a'i chodi i'r cŵn hir, a marcio ffeuau llwynogod a mynd lawr ar eu hôl.

    Rhaid cyfaddef nad ydynt yn debygol o ennill gwobrau harddwch ond maent yn werth eu pwysau mewn aur ar y maes neu i ddal llygod mawr o gwmpas fferm.

DGM (1999) 37

1999