Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3c-000069

cabl

Dan y gabal/dan gabal gwlad: Bod dan feirniadaeth yw bod dan y gabal [y tri gair mewn print italig] a bod dan feirniadaeth gyffredinol yw bod dan gabal gwlad [y tri gair mewn print italig],

Cofiaf yr hen Lew Llwydiarth yn ymweld â ni yn ôl ei a[rfer ?] achlysurol i drin a thrafod y Cyfarfod Misol gyda 'nhad. Trod[d ?] y sgwrs at elyniaeth afresymol bardd o'r Llan at yr hen arw[??] ... 'Diffyg dawn a fag genfigen,' meddai, gan fenthyca o'r [hen ?] ddywediad brodorol ''Poced wag a fag genfigen' ac aeth ymlae[n i ?] ddweud, 'Cholla' i ddim cwsg o fod dan 'i gabal [y tri gair mewn print italig] o yn hytrach nag o [dan ?] gabl gwlad y pedwar gair mewn print italig], neu rhyw ddydd dan gabal [y ddau air mewn print italig] Gorsedd Gras.' Gofynnais i[ddo] beth yn union oedd 'gabal' a nodi ei ateb (Ionawr 1962): 'Yn glasu [xxx ?] torf neu lu ydi cabal [heb fod mewn print italig], machgen i, meddai, 'ond yn y cyd-destun y[ma ?] morthwyl derw sydd gan farnwr llys, ac o dan ei rym ef y sa[if y ?] cyhuddiedig, ac o dan ei gnoc y seilir ei dynged. Ond mwy o forth[wyl ?] sinc na morthwyl derw sydd yn nwylo'r sawl a'm bernir i!'

DGM (1999) 55

1962 (1999)
Nodiadau

Sylwadau

Ymyl dde'r slip o'r golwg.