Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3c-007309

clwt

Cyfeiria'r gair at dir ond mae iddo wahanol ystyron:

1. Maint tir: 'Mae'r marian yn dipyn o glwt. Mi faswn i'n bwrw amcan ei bod hi'n hanner cant a deugain erw.'

2. Rhan neu ddarn o dir: 'Byddwn yn tyfu mymryn o datw; dim ond rhyw glwt bach wrth y tŷ at ein iws [ein] hunain.'

3. Y rhan agored a digysgod o gae: 'Yr hen fuwch wirion 'na'n dŵad â llo ar ganol y clwt a digon o gysgod ar y dalar.'

 

DGM (1991) 41

1991