Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3c-008187

codaf: codi

Cwyd di'r blewyn ac fe gwyd y blewyn dithau: hen ddywediad a glywais gan hen deulu Hafodllin Fawr yn cyfeirio at yr hen arferiad o wiweru pob blewyn o borthiant â phosib erbyn y gaeaf – a'u harferiad hwy pob gafael .

Yr Hen Aeaf oedd eu gaeaf hwy pryd y dygid i mewn dan do pob anifail corniog, heblaw am y defaid yn ystod wythnos Ffair Borth ganol mis Hydref ac ni ollyngid hwy allan tan wythnos olaf mis Ebrill, Calan Mai bron. Cyfnod o borthi o chwe mis a hanner oedd hwn er bod y buchod godro yn cael eu troi allan i bori ar flaenion y borfa yn ystod y dydd o ddiwedd mis Mawrth, a chwe mis a hanner yn yr haf i fedi gwair cynnar Mehefin, gwair gwndwn neu brif wair Gorffennaf, crybinion o wair bras a dorrwyd gyda'r ysgall ym mis Awst a chodi pob blewyn o'r teisi. Ar wahân i hyn roedd teisi o ysgubau ŷd yn gymysg â'r hadyd yn eu bonion, rwdins, maip a haidd i'w falu'n ebran.

DGM (1999) 50

1999