Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3c-008373

codog

codog: gair gwawdlyd a sarhaus i ddisgrifio rhywun neu rywbeth diwerth, di-lun, aneffeithiol ac o'r safon isaf posib. Er hynny, daw ag elfen ddoniol i'r condemniad pan fo'r pwyslais arno'n drwm, e.e. 'Wel am gynghorydd codog.' 'Cinio codog ar y diawl ge's i heddiw.' Cofiaf fy nhad yn holi Llew Llwydiarth am darddiad y gair. Yn ôl Llew, hen air o gyfnod ei daid ydoedd, o oes pan dyfid ffa i'w cynnwys yn fwyd ebran. Pe bai tir lle tyfid ffa arno wedi cael tail yn ddiweddar, byddai'r planhigion yn wantan, yn drwm o ddail a'r coesau'n hir a chyrliog heb nemor yr un ffeuen oddi mewn. O ganlyniad, disgrifid y cnwd fel un codog.

DGM (1999) 43

1999