Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3c-008776

coflaid

Cowlad fechan a honno'n dynn: Amrywiad o Fôn ar y ddihareb gyfarwydd 'Coflaid fach a'i gwasgu'n dynn'. Trodd coflaid yn cowlad ar lafar gwlad, sef llond breichiau o wair neu wellt yn cael ei gario'n rhydd. Gwell yw cario cowlad fechan yn dynn rhwng dwy fraich a'i gwasgu at y fynwes heb golli'r un blewyn. Gwastraffus a cholledus yw cario cowlad sy'n rhy fawr a blêr i'w rheoli ac un sy'n chwalu ymaith i'r mwd a'r baw am na ellir ei gwasgu'n dynn.

Defnyddir y ddihareb fel cyfatebiaeth i ennill bywoliaeth. Gwell menter fechan neu gymhedrol lle gall y perchennog gadw trefn agos a thrylwyr efo llygad barcud ar bopeth na chymryd gormod o gowlad o fenter fawr na all gadw trefn ddigonol arni a pheri colledion iddo'i hun ac efallai fethdaliad.

DGM (1999) 45-6

1999