Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3a-000583

ail

bwrw'i gwisg: ar arfer yn Sir y Fflint am fuwch yn: bwrw'r brych. Clywais ddefnyddio bwrw'r ail yn yr un ystyr yn ardal Maentwrog. Trosiad o'r Saesneg secundine, sef brych, yw ail yma, ac fe geir ail yn digwydd yn yr ystyr hon yn llyfr John Edwards, Caerwys, a John Edwards, Abergele, Y Meddyg Anifeiliaid, argraffiad Hughes a'i Fab, t. 56, lle mae'n cynnig cyngor ynghylch 'tynu'r ail, neu lanhau'r fuwch.'

B. Lewis Jones yn y Faner, Mai 23, 1968

1968