Cyfeillion y Geiriadur

English

Cefnogwch yr iaith drwy gefnogi’r Geiriadur

Rydym angen eich cefnogaeth i sicrhau parhad yr adnodd gwerthfawr hwn. Medrwch wneud hyn mewn amryw ffyrdd – yn bennaf drwy’i ddefnyddio a thrwy annog eraill i’w ddefnyddio, ond medrwch hefyd ein cefnogi drwy ymuno â Chyfeillion GPC, neu drwy gyfrannu’n ariannol fel yr esbonnir isod.

Cyfeillion GPC

Prif amcan y Cyfeillion yw cyflwyno Geiriadur Prifysgol Cymru i’r gynulleidfa ehangaf posibl yma yng Nghymru ac ar draws y byd. Drwy ymuno â Chyfeillion GPC byddwch yn helpu i sicrhau dyfodol y Geiriadur a’r Gymraeg ei hun.
Gall defnyddwyr gael mynediad i’r Geiriadur ar lein a thrwy ddefnyddio’r ap ar ffôn clyfar neu dabled ym mhle bynnag y bônt.

Ymunwch â ni i hyrwyddo’r adnodd amhrisiadwy hwn

GPC ble bynnag y bôch

GPC ble bynnag y boch

Fel Cyfaill byddwch yn derbyn:

  • cylchlythyr blynyddol dwyieithog
  • gwahoddiad i ddigwyddiad blynyddol
  • cyfle i ymweld â swyddfeydd y Geiriadur
  • gostyngiad ar gyhoeddiadau’r Geiriadur

ynghyd â chyfleoedd i gymdeithasu â chyd-aelodau a bod yn llysgennad i’r Geiriadur.

Tâl aelodaeth blynyddol:
£10 i oedolion; £5 i bensiynwyr, myfyrwyr a’r di-waith.

I ymuno â’r Cyfeillion cliciwch – Ymuno

Os hoffech wneud cyfraniad i’r Geiriadur cliciwch – Cyfrannwch i’r Geiriadur


Mae ‘na groeso i unrhyw un ymuno â’r Cyfeillion – yng ngeiriau Myrddin ap Dafydd ‘Mae angen cyfaill i gefnogi’r gwaith … ac i hyrwyddo’r Geiriadur. Ond yn fwy na dim, yn y dyddiau sydd ohoni, mae’n dda cael cyfaill i fod yn darian ac i warchod y Geiriadur’.

Yn ôl i’r brig