2018

Cymraeg

19 Rhagfyr 2018

Ap GPC ar gael ar dabledi Amazon Fire

Mae Ap GPC bellach ar gael yn Appstore Amazon ar gyfer tabledi Amazon Fire. Mae’r ap yr un fath yn union â’r ap Android safonol ac mae’n cael ei ddefnyddio yn union yr un ffordd.

Am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho’r ap, ewch i Apiau Android, iOS, and Amazon Fire

10 Hydref 2018

Cyfarfod Blynyddol Cyfeillion GPC

Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol cyntaf y Cyfeillion ddydd Sadwrn, 23ain o Fehefin yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, a phleser oedd croesawu nifer o Gyfeillion i Aberystwyth ar brynhawn heulog braf.

Cychwynnwyd y cyfarfod gan ein Llywydd, Myrddin ap Dafydd yn tynnu ar ei brofiad fel
sefydlydd a pherchennog Gwas Carreg Gwalch gan gyfeirio at eiriau cysylltiedig ag argraffu. Bu’n sôn am eiriau megis ‘monoteip’, a ‘stereoteip’, ac fe ddysgasom paham nad yw’r un cwmni yswiriant yn fodlon yswirio bodiau argraffwr! Difyr iawn oedd clywed am y sawl a ‘Enillodd foron yr Eisteddfod Genedlaethol’ – na, nid anrhydeddwyd neb â charotsyn gan ein prifwyl, yn hytrach ‘Diawl y Wasg’ oedd yn gyfrifol am y camgymeriad argraffu hwn, ynghyd â sawl enghraifft ddifyr arall yr oedd Myrddin wedi eu cofnodi.

Bu’r Dr Elin Jones yn sôn am ei magwraeth yn ardal Ystrad Mynach ar aelwyd ble siaredid y Wenhwyseg, ac am yr olion o’r dafodiaith hon y mae hithau’n ei wilia (siarad) heddiw. Cyfeiriodd at rai o nodweddion y Wenhwyseg megis yr ‘a’ hir yn troi’n ‘e’, y caledu cytseiniaid rhwng
llafariaid, o golli’r ‘h’ o ddechrau geiriau megis ‘heol’ sy’n troi’n ‘ewl’, ac am y cyfnewid cytseiniaid sy’n troi ‘menthyg’ yn ‘mencyd’. I gloi, fe adroddodd ambell driban pwrpasol a difyr yn
nhafodiaith ei hardal.

‘Y dyn gwyllt ’na o’r De’, sef Iolo Morganwg, oedd testun sgwrs yr Athro Geraint H. Jenkins. Mae’r ddau wedi bod yn gymdeithion agos ers llawer dydd bellach, a chawsom ein cyflwyno i athrylith hunanaddysgedig a oedd yn radical diwyro, yn gymwynaswr da, ac a oedd o flaen ei oes yn galw am ryddfreinio merched. Edrychwn ymlaen at ddarllen cofiant Iolo Morganwg gan Yr Athro Jenkins, sy’n addo rhoi darlun llawn o’r cymeriad hynod ddiddorol hwn a gyfrannodd yn fawr i ddiwylliant Cymru.

I ddilyn, bu Andrew Hawke yn sôn am GPC+, prosiect i drawsgrifio slipiau’r Geiriadur a fydd yn arwain at greu adnodd defnyddiol iawn, ac yn dangos sut i gyfrannu ato. Os hoffech roi cynnig ar y trawsgrifio, ewch i www.geiriadur.ac.uk/slipiau

Wedi’r sgyrsiau, gwahoddwyd pawb i’r Ganolfan am baned a chacen, cyfle i sgwrsio, a chyfle i gael cyfarwyddyd ymarferol ar ddefnyddio GPC+. Diolch i bawb am eu cwmni – cafwyd
prynhawn difyr a chyfeillgar dros ben.

01 Awst 2018

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerdydd 2018

Cynhelir cyfarfod o Gyfeillion y Geiriadur (ond yn agored i bawb) yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Gwener, 10 Awst 2018, am 12:30pm, yn stondin Prifysgol Cymru (0221-0222, o flaen y Pierhead). Gyda chyfraniadau gan:

  • y Llywydd, Myrddin ap Dafydd
  • Angharad Fychan a fydd yn trafod rhai o’r geiriau diweddaraf i’w cynnwys yn y Geiriadur
  • Andrew Hawke a fydd yn cyflwyno GPC +, prosiect torfoli newydd i drawssgrifio slipiau’r Geiriadur – gweler: GPC+.
Poster cyfarfod Cyfeillion GPC yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018

05 Mehefin 2018

Cyfarfod Cyfeillion GPC

Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Cyfeillion GPC yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ddydd Sadwrn 23 Mehefih am 2 o’r gloch. Ein siaradwyr eleni yw Llywydd
y Cyfeillion, Myrddin ap Dafydd, yr Athro Geraint H. Jenkins, a Dr Elin Jones, ynghyd ag
Andrew Hawke, Golygydd Rheolaethol GPC.

Edrychwn ymlaen at groesawu Cyfeillion hen a newydd i gyfarfod difyr, gyda chyfle i
gymdeithasu dros ‘baned wedi hynny.

Cyfarfod blynyddol Cyfeillion GPC

14 May 2018

GPC+

Slip o'r flwyddyn 1923 yn dangos defnydd o'r gair geiriadur


Rydym newydd lansio gwasanaeth newydd o’r enw GPC+. Cynllun peilot yw hwn i greu adnodd gwerthfawr newydd fydd yn cynnwys dyfyniadau sydd heb eu cyhoeddi yn y Geiriadur eto.
Bydd hefyd yn cynnwys enghreifftiau pellach o eiriau sydd yn y Geiriadur. Dim ond tua 20% o’r holl enghreifftiau a gasglwyd sydd wedi eu cynnwys yn y Geiriadur, felly bydd modd dod o hyd i lawer mwy o wybodaeth.
Ond cyn gallu chwilio’r adnodd mae’n rhaid ei greu! Casglwyd y rhan fwyaf o’r enghreifftiau yn wreiddiol gan gannoedd o ddarllenwyr gwirfoddol, ac nawr rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i drawsgrifio’r slipiau fel eu bod ar gael i bawb.
Cewch ddarllen rhagor am y prosiect a dysgu sut y gallwch chi gymryd rhan yma.