Eisiau helpu

English

Sut gallwch chi helpu a chyfrannu.

Mae gennym gynllun torfoli (‘crowdsourcing’) ar lein newydd, GPC+, i drawsgrifio slipiau’r Geiriadur (deunydd crai’r gwaith), er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch. Os hoffech helpu, cewch ragor o wybodaeth yma.

Rhowch wybod i ni –

  • os gwyddoch am eiriau neu ymadroddion nad ydynt wedi eu cofnodi yn y Geiriadur,
  • os gwyddoch am enghreifftiau cynharach na’r rhai a ddyfynnir,
  • os hoffech ddarllen cyhoeddiadau a chodi enghreifftiau o eiriau,
  • os sylwch ar gamgymeriad yn y Geiriadur,

drwy ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost gpc@geiriadur.ac.uk.

Byddwn yn croesawu fersiynau electronig o gyhoeddiadau, testunau, ac yn y blaen, i’w cynnwys yn ein casgliad o destunau chwiliadwy.

Gallwch hefyd ymuno â Chyfeillion y Geiriadur er mwyn cadw mewn cysylltiad â’r Geiriadur a derbyn y newyddion diweddaraf.


Os hoffech wneud cyfraniad ariannol i waith y Geiriadur, cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Yn ôl i’r brig