Cymorth gyda’r Ap

English

Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth ac atebion i gwestiynau a ofynnir yn aml ar gyfer defnyddwyr yr apiau Android ac iOS.
Mae’r canllawiau yma hefyd ar gael o fewn yr ap.

Os bydd angen help ychwanegol arnoch, anfonwch eich ymholiad at gpcapps@geiriadur.ac.uk
Dewis arall yw mewngofnodi isod i bostio sylw.


Cymorth

Am y Geiriadur

Am yr ap

Beth yw GPC?

Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn eiriadur Cymraeg hanesyddol safonol sy’n debyg o ran cynllun a statws i’r Oxford English Dictionary. Mae’n cyflwyno geirfa’r iaith o’r testunau cynharaf yn yr 8fed a’r 9fed ganrif hyd at y presennol. Paratowyd y Geiriadur gan dîm o ymchwilwyr dros gyfnod o 90 o flynyddoedd. Ychwanegir ato’n gyson a diwygir y cofnodion hŷn. Mae dyddiad cyhoeddi’r cofnodion yn amrywio o 1950 hyd at eleni, a nodir y dyddiad cyhoeddi ar ôl y dangosair.
Diffinnir yr eirfa yn Gymraeg, gyda chyfystyron Saesneg. Rhoddir sylw manwl i ffurfiau amrywiol, cyfuniadau, a tharddiad geiriau. Gyda’r ap hwn, gellir chwilio’r dangoseiriau, yr amrywiadau, y cyfuniadau, a’r croesgyfeiriadau. Hefyd, drwy ddewis chwilio geiriau Saesneg, gellir chwilio’r cyfystyron Saesneg.
Mae modd chwilio am ran o air yn unig (e.e. bydd chwilio am ‘+gi’ yn darganfod pob cofnod sy’n gorffen yn ‘…gi’, fel bolgi a celwyddgi). Hefyd gellir chwilio am fwy nag un gair (e.e. bydd chwilio am ‘byth a’ yn darganfod byth a beunydd, byth a hefyd, a beunydd a byth).

Yn ôl i’r brig

Pa mor fawr yw GPC?

Mae GPC yn eiriadur mawr, sy’n cynnwys:

  • 87,472 o gofnodion
  • 124,461 o ddangoseiriau
  • 89,102 o adrannau etymolegol
  • 106,074 o brif ystyron
  • 7,152 o amrywiadau
  • 34,416 o gyfuniadau
  • 473,481 o ddyfyniadau enghreifftiol
  • 4,697 o ffynonellau llyfryddol gwahanol
  • dros 8 miliwn o eiriau yn gyfan gwbl.

Mae cronfa ddata lawn yr ap yn cymryd tua 185MB o le, ond gellir cael fersiwn llai, nad yw’n cynnwys y dyfyniadau enghreifftiol, sydd tua 132MB. Mae’r ap ei hun yn fach (tua 1MB) ac mae modd ei ddefnyddio heb lawrlwytho’r data, gw. Mae’r ap yn cymryd gormod o le. Beth alla i ei wneud?

Yn ôl i’r brig

Pryd ysgrifennwyd GPC?

Nodir dyddiad cyhoeddi gwreiddiol pob cofnod i’r dde o’r dangosair rhwng cromfachau.
Ymddangosodd argraffiad cyntaf GPC rhwng 1950 a 2002 ac mae’r ail argraffiad yn cael ei baratoi ar hyn o bryd. Mae’r rhan fwyaf o’r adran A–B wedi’i hailolygu’n drylwyr, a cheir cofnodion yr ail argraffiad hwn yma. O C ymlaen mae’r Golygyddion yn ychwanegu cofnodion newydd sbon ac yn ailolygu detholiad o’r hen gofnodion. Ychwanegir y gwaith diweddaraf yn rheolaidd at GPC Ar Lein a’r ap.

Yn ôl i’r brig

P’un yw’r sillafiad/cenedl/ffurf safonol?

Mae GPC yn ceisio dilyn orgraff safonol y Gymraeg wrth sillafu’r dangoseiriau a’r ffurfiau lluosog, yr amrywiadau, a’r cyfuniadau. Y gair sy’n dod gyntaf yw’r un mwyaf arferol heddiw. Mae hyn yn wir hefyd am y genedl a’r ffurfiau lluosog a restrir. Yn achos berfau, rhoddir y berfenw mwyaf safonol yn syth ar ôl y colon.
Yn achos enwau, y genedl a roddir gyntaf yw’r un fwyaf arferol yn yr iaith lenyddol, ond cofiwch fod cenedl geiriau yn gallu amrywio o ardal i ardal.
Mae sillafiad y dyfyniadau enghreifftiol yn dilyn y testun gwreiddiol. Dyfynnir testunau weithiau o olygiadau sydd wedi safoni’r orgraff: codir y rhain yn union fel y maent yn yr argraffiad.

Yn ôl i’r brig

Sut mae defnyddio’r ap a newid yr iaith?

Mae’r rhyngwyneb ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae modd newid iaith y rhyngwyneb wrth i’r ap gychwyn neu drwy ddewis ‘Cymraeg’ neu ‘Saesneg’ o fewn y Gosodiadau (pwyswch ar ◄GPC (sawl gwaith), yna Gosodiadau / Iaith rhyngwyneb). (Nid yw hyn yn newid yr iaith y byddwch yn ei chwilio yn y Geiriadur, dim ond y rhyngwyneb ei hun.)
Ar frig y sgrin ceir botymau rheoli:

  • Bydd pwyso ar ◄GPC yn mynd â chi yn ôl i’r adran flaenorol ac i’r prif arlwy (efallai bydd angen pwyso arno sawl gwaith).
  • Mae ‘CYM’ ar frig y sgrin yn dangos mai’r testun Cymraeg fydd yn cael ei chwilio. Gellir pwyso ar ‘CYM’ i’w newid i ‘SAES’ er mwyn chwilio am gyfystyron Saesneg.
  • Bydd pwyso ar y chwyddwydr yn agor blwch chwilio er mwyn i chi allu teipio gair ynddo.
  • Mae’r saethau yn mynd yn ôl ac ymlaen drwy’r sgriniau rydych wedi eu gweld eisoes.

Ar ôl chwilio bydd rhestr o’r canlyniadau chwilio yn ymddangos. Gellir dewis unrhyw un o’r canlyniadau er mwyn gweld y cofnod perthnasol. (Pan fydd y sgrin ar draws, dangosir y canlyniad cyntaf mewn ffenestr ar y dde.)
Pwyswch ar unrhyw fyrfodd i weld y gair llawn neu esboniad. Mae’r rhifau ar y chwith ar frig y cofnod a ddangosir yn dangos safle’r canlyniad yn y rhestr o ganlyniadau (e.e. dynoda 2/64 mai hwn yw’r ail o 64 o ganlyniadau). Gellir ‘sweipio’ o’r dde i’r chwith i ddangos y canlyniad nesaf, neu o’r chwith i’r dde i fynd yn ôl (meddyliwch am droi tudalennau gyda’ch bys).
Mae modd dangos y dyfyniadau enghreifftiol fesul adran drwy bwyso ar y botwm Botwm ychwanegu ar y dde, a’u cuddio drwy bwyso ar y botwm Botwm minws. Drwy bwyso ar y botwm Botwm ychwanegu ar frig y sgrin, gallwch ddangos yr holl ddyfyniadau yn y cofnod.
Yn y dyfyniadau, pwyswch ar unrhyw fyrfodd teitl i weld y manylion llawn.
Mae’r panel llwyd ar waelod pob cofnod yn eich galluogi i weld erthyglau cyfagos ac mae modd ei sgrolio i’r chwith neu i’r dde i weld rhagor o eiriau. Pwyswch ar air i ddangos y cofnod perthnasol.
Os yw’r testun yn rhy fach neu’n rhy fawr, gallwch ledaenu’ch bysedd ar y sgrin i’w gwneud yn fwy neu binsio’r sgrin i’w gwneud yn llai – yn y ffordd arferol.
Gallwch gopïo testun o’r ap i ap arall yn y ffordd arferol.

Yn ôl i’r brig

Sut mae chwilio am air neu ymadrodd Cymraeg?

Gallwch chwilio am air neu ymadrodd drwy ei deipio yn y blwch ar frig y sgrin. Mae acenion, collnodau, rhifau, a maint llythrennau yn cael eu hanwybyddu er mwyn hwyluso chwilio. Bydd yr ap hefyd yn chwilio am unrhyw ffurfiau treigledig yr un pryd. Pan fydd ‘CYM’ i’w weld ar frig y sgrin, gallwch chwilio am air neu ymadrodd Cymraeg. Os bydd ‘SAES’ i’w weld, pwyswch arno i’w newid i ‘CYM’.
Gallwch roi:
* i gyfateb i 0, 1, neu ragor o lythrennau (e.e. mae cam*waith yn dod o hyd i campuswaith, campwaith, a camwaith; mae *z* yn dod o hyd i eiriau sy’n cynnwys y llythyren z)
+ i gyfateb i 1 neu ragor o lythrennau (e.e. mae cam+waith yn dod o hyd i campuswaith a campwaith)
? i gyfateb i 1 llythyren (e.e. mae c?o?s??r yn dod o hyd i croesair, clocsiwr, croesbar, etc.)
Gall y canlyniadau gyfeirio at gofnodion, amrywiadau, croesgyfeiriadau, neu gyfuniadau.
Wrth chwilio am ymadroddion neu gyfuniadau nid yw trefn y geiriau yn cyfrif, felly bydd baw jac yn canfod jac y baw, jac codi baw a jac llwyd y baw.

Yn ôl i’r brig

Sut mae chwilio am air neu ymadrodd Saesneg?

Geiriadur Cymraeg hanesyddol yw GPC, yn trafod geiriau Cymraeg o bob cyfnod, gyda diffiniadau yn Gymraeg a chyfystyron yn Saesneg. Nid geiriadur Saesneg–Cymraeg mohono. Serch hynny, gall chwilio am air Saesneg eich atgoffa o’r gair Cymraeg cyfatebol. Gallwch, er enghraifft, chwilio am river, sy’n dod o hyd i’r cofnodion ar aber, afon, a nant a thros gant o ddiffiniadau eraill sy’n cynnwys y gair.
Nid yw trefn y geiriau o bwys wrth chwilio, felly bydd bible dictionary yn canfod dictionary of the Bible hefyd.
Pan fydd ‘SAES’ i’w weld ar frig y sgrin, gallwch chwilio am air neu ymadrodd Saesneg. Os bydd ‘CYM’ i’w weld, pwyswch arno i’w newid i ‘SAES’.
Gallwch roi:
* i gyfateb i 0, 1, neu ragor o lythrennau (e.e. mae zoolog* yn dod o hyd i zoology, zoologist, a zoological; mae nat* lib* yn dod o hyd i national library)
+ i gyfateb i 1 neu ragor o lythrennau (e.e. mae river+ yn dod o hyd i eiriau fel river-bank, river-bed, a riverside gan anwybyddu dros gant o enghreifftiau o river ei hun)
? i gyfateb i 1 llythyren (e.e. mae c?o?s??r yn dod o hyd i crossbar a cloister)
Gall y canlyniadau gyfeirio at gofnodion neu gyfuniadau.

Yn ôl i’r brig

Oes gwahaniaeth rhwng GPC Ar Lein a’r ap hwn?

Mae’r ap yn defnyddio yn union yr un data ag GPC Ar Lein ac mae modd chwilio yn union yr un ffordd yn y ddau. Manteision yr ap yw ei fod wedi ei greu i ddefnyddio sgriniau llai ac nad oes rhaid cael cysylltiad â’r Rhyngrwyd: mae’n bosibl lawrlwytho’r data i’ch dyfais, gw. Sut galla i lawrlwytho’r data?
Y prif wahaniaeth yw nad oes modd edrych ar ddelweddau o’r tudalennau print gwreiddiol yn yr ap: rhaid defnyddio GPC Ar Lein.
Ceir gemau geiriol yn yr ap nad ydynt ar gael yn GPC Ar Lein, gw. Sut mae chwarae’r gemau geiriol?

Yn ôl i’r brig

Oes rhaid bod ar lein i ddefnyddio’r ap?

Nac oes, os oes digon o le yn eich dyfais i storio’r data yn lleol. Os ydych am gadw copi lleol, pwyswch ar ◄GPC (sawl gwaith), yna Gosodiadau / Cronfa ddata. Dewiswch y gronfa sylfaenol (popeth ond y dyfyniadau enghreifftiol, sy’n cymryd tua 132MB) neu’r gronfa lawn (popeth, tua 185MB).

Yn ôl i’r brig

Sut galla i lawrlwytho’r data?

Mae’n bosibl lawrlwytho data’r Geiriadur fel cronfa ddata lawn sy’n cynnwys popeth neu fel cronfa ddata sylfaenol sy’n hepgor y dyfyniadau enghreifftiol i arbed lle ar eich dyfais. Gellir gwneud hyn o fewn y Gosodiadau (pwyswch ar ◄GPC (sawl gwaith), yna Gosodiadau / Cronfa ddata). Dewiswch y math o gronfa sydd ei hangen ac yna dilyn y cyfarwyddiadau. Cewch barhau i ddefnyddio’r ap tra bydd y gronfa yn cael ei lawrlwytho.
Os ydych yn defnyddio’r gronfa sylfaenol ac eisiau gweld y dyfyniadau, gallwch newid i’r gronfa bell dros dro o fewn y Gosodiadau a defnyddio WiFi neu ddata symudol, ac yna newid yn ôl i ddefnyddio’r gronfa sylfaenol eto. Ni fydd hyn yn dileu’r gronfa.
Mae cynnwys y Geiriadur yn cael ei ddiweddaru yn rheolaidd. Os ydych eisiau cael y fersiwn diweddaraf o’r data, dilëwch y gronfa o fewn y Gosodiadau (pwyswch ar ◄GPC (sawl gwaith), yna Gosodiadau / Cronfa ddata / Rheoli cronfeydd data lleol). Ar ôl dileu’r gronfa, os dewiswch gronfa leol eto, cewch gyfle i lawrlwytho’r gronfa ddiweddaraf.

Yn ôl i’r brig

Sut mae chwarae’r gemau geiriol?

Cynigir dwy gêm sy’n seiliedig ar gynnwys y Geiriadur: gêm Geiriau cudd a gêm Anagramau. Mae modd cyfyngu’r ddwy gêm i’r geiriau Cymraeg y chwiliwyd amdanynt ers agor yr ap a gall hyn fod yn ffordd dda i ddysgwyr ymarfer geirfa newydd: pwyswch ar ◄GPC (sawl gwaith), yna Gosodiadau / Geiriau ar gyfer y gemau. Mae pwyso ar Cliw yn dangos y diffiniad Cymraeg neu’r un Saesneg gan ddibynnu ar iaith y rhyngwyneb.
Anagramau: rhaid symud y teils drwy eu llusgo i’r drefn gywir.
Geiriau cudd: sylwer mai dim ond un gair sydd wedi’i guddio. Mae’n gallu rhedeg i unrhyw gyfeiriad. Rhaid pwyso ar y teils cywir i ddatgelu’r gair.
Cewch neges wrth lwyddo. Yn y ddwy gêm mae Gair newydd yn ailddechrau’r gêm gyda gair gwahanol. Os oes angen gweld cofnod y gair ar unrhyw adeg, gellir pwyso ar Yr ateb. Ar ôl gweld y cofnod, gallwch bwyso ar y saeth sy’n pwyntio i’r chwith i fynd yn ôl i’r gêm.

Yn ôl i’r brig

Sut galla i ddyfynnu o’r ap?

Os ydych eisiau dyfynnu un o gofnodion GPC mewn cyhoeddiad academaidd, argymhellir defnyddio’r ap gyda’r gronfa ddata bell (er mwyn sicrhau eich bod yn defnyddio’r data diweddaraf: pwyswch ar ◄GPC (sawl gwaith), yna Gosodiadau / Cronfa ddata / Cronfa ddata o bell). Gallwch addasu un o’r enghreifftiau hyn:
Dull MLA: “pen1” Geiriadur Prifysgol Cymru Ar Lein. Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, 2016. Y We. [dyddiad cyrchu yn y fformat 1 Rhagfyr 2016].
Dull Chicago: “pen1”. Geiriadur Prifysgol Cymru Ar Lein. 2016. Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, 2016. https://www.geiriadur.ac.uk (cyrchwyd [dyddiad cyrchu yn y fformat 1 Rhagfyr 2016]).
Dull Harvard: Geiriadur Prifysgol Cymru Ar Lein. 2016. “pen1” [Ar lein]. Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Ar gael yn: https://www.geiriadur.ac.uk [Cyrchwyd: [dyddiad cyrchu yn y fformat 1 Rhagfyr 2016]]

Yn ôl i’r brig

Mae’r ap yn cymryd gormod o le. Beth alla i ei wneud?

Nid yw’r ap ei hun yn cymryd llawer o le ar y ddyfais, ond oherwydd maint y Geiriadur, mae’r gronfa ddata lawn yn fawr (185MB). I arbed lle, gallwch ddileu’r gronfa ddata. Os ydych yn defnyddio’r gronfa lawn, gallwch ddileu honno o fewn y Gosodiadau (pwyswch ar ◄GPC (sawl gwaith), yna Gosodiadau / Cronfa ddata / Rheoli cronfeydd data lleol) a lawrlwytho’r gronfa sylfaenol sy’n cymryd llai o le (132MB) gan ei bod yn hepgor y dyfyniadau enghreifftiol. Os nad yw hynny’n rhyddhau digon o le, gallwch ei dileu – ond wedyn bydd rhaid bod â chysylltiad â’r Rhyngrwyd bob amser i ddefnyddio’r ap.

Yn ôl i’r brig

Sut mae cael rhagor o help?

Os ydych yn cael trafferth i ddefnyddio’r Geiriadur neu os hoffech ofyn cwestiwn am air arbennig, gallwch gysylltu â ni drwy:

Am ragor o wybodaeth am y Geiriadur, ewch i www.geiriadur.ac.uk

Yn ôl i’r brig

Gadael Ymateb