Gwybodaeth i athrawon a myfyrwyr

English

Beth am bori yn GPC Ar Lein neu Ap GPC a hynny am ddim?
Cewch fynediad i eiriadur sy’n cyfateb i’r Oxford English Dictionary.

Mae GPC yn waith enfawr o dros 4,000 o dudalennau, dros naw miliwn o eiriau i gyd, a bron i hanner miliwn o ddyfyniadau enghreifftiol.

  • Sgrinlun ap Geiriadur Prifysgol CymruYstyr gair? Hanes gair? Ceir diffiniadau yn Gymraeg yn ogystal â chyfystyron Saesneg, dyfyniadau yn dangos defnydd y gair dros y canrifoedd, a’i darddiad.
  • Cyfuniadau fel ‘ar gefn ei geffyl’. Rhestrir cyfuniadau neu ymadroddion cyffredin sy’n cynnwys y gair.
  • Ergydiant? Isobar? Ceir nifer o dermau technegol ac y mae’r nifer yn cynyddu wrth i’r tîm ychwanegu at y stôr o eiriau yn gyson.
  • Methu meddwl am y gair Cymraeg? Mantais fawr y fersiwn electronig yw bod modd teipio gair Saesneg ac yna cael dewis o eiriau Cymraeg cyfatebol.
  • Methu sillafu gair? Ceir cymorth gyda sillafiad geiriau: oni ddeuir o hyd i air, cynigir rhestr o eiriau tebyg.
  • Treigladau’n broblem? Dangosir holl ffurfiau treigledig gair yn y canlyniadau chwilio, felly bydd chwilio am ‘blaen’ hefyd yn dod o hyd i ‘ar flaen ei dafod’ a ‘pysgota ym mlaen y rhwyd’.

Ystyrir GPC yn safon ar gyfer sillafu geiriau, ffurfiau lluosog, cenedl enwau, ac yn y blaen. Mae’r holl wybodaeth yn y Geiriadur yn seiliedig ar gorpws o enghreifftiau go iawn.
Sawl gwaith y flwyddyn bydd cannoedd o gofnodion newydd a diweddariadau o hen gofnodion yn cael eu cyhoeddi.
Cwestiynau? Anfonwch at gpc@geiriadur.ac.uk
Facebook: www.facebook.com/geiriadurGPC
Twitter: @geiriadur (yn Gymraeg) neu @GPCdictionary (yn Saesneg) lle ceir ‘Gair y Dydd’, a lle mae modd gwneud sylwadau neu ofyn cwestiynau.

Adnoddau dysgu:

Mae croeso i chi brintio digon o gopïau i’r holl ddosbarth.

Gallwch lawrlwytho gwybodaeth am y Geiriadur:

Taflen ddwyieithog i Athrawon a Disgyblion [PDF]

Rydym wedi paratoi taflen sy’n awgrymu sut y gallwch ddefnyddio’r Geiriadur wrth ddysgu cwricwlwm Safon A Cymraeg, gydag enghreifftiau o’r testunau gosod.

GPC a Safon A Cymraeg  [PDF]

Hefyd rydym wedi paratoi dau gwis i helpu pobl ymarfer defnyddio’r Geiriadur, un dwyieithog syml ac un uniaith ar gyfer siaradwyr mwy profiadol. Maent yn addas i’w defnyddio yn y dosbarth neu fel gwaith cartref.

Mae dau fersiwn o bob cwis, un i ddisgyblion gyda lle i sgrifennu’r atebion, ac un i athrawon gyda’r atebion:

  • Cwis 1 (dwyieithog, yn addas i fyfyrwyr ail iaith hefyd) [PDF]
  • Cwis 1 (gydag atebion) [PDF]
  • Cwis 2 (uniaith Gymraeg, yn addas i siaradwyr mwy profiadol [PDF]
  • Cwis 2 (gydag atebion) [PDF]

Croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych broblemau neu gwestiynau – gpc@geiriadur.ac.uk

Yn ôl i’r brig