2017

English

15 Awst 2017

Eisteddfod Genedlaethol 2017

Daeth nifer i babell Prifysgol Cymru brynhawn Mercher y Brifwyl i sesiwn Cyfeillion y Geiriadur.
Braf gweld cymaint wedi dod i wrando ar Lywydd y Cyfeillion, Y Prifardd Myrddin ap Dafydd, ac Angharad Fychan, Golygydd Hŷn y Geiriadur.

Myrddin ap Dafydd - Prifardd a Llywydd y 'Cyfeillion'

Myrddin ap Dafydd – Prifardd a Llywydd y ‘Cyfeillion’

I’r rhai ohonoch a fu yng nghyfarfod lansio’r Cyfeillion ym Mehefin fe gofiwch i Myrddin draethu’n ddifyr iawn ar eirfa gysylltiedig â bragu, ond termau barddoniaeth gaeth oedd ei destun y tro hwn a bu’n traethu am werth y Geiriadur i ganfod ystyron geiriau perthnasol i’r gelfyddyd.

Angharad Fychan - Golygydd Hŷn

Angharad Fychan – Golygydd Hŷn

Yr erthyglau diweddaraf i gyrraedd y Geiriadur aeth â bryd Angharad ac ymhlith y rhai y bu’n sôn amdanynt roedd yr erthygl ar y gair pilaff. Pwy feddyliai fod yr enghraifft gynharaf y gwyddom amdani i’w gweld yn Papur Pawb yn Ionawr 1896 mewn erthygl sy’n sôn am giniawa ym Mhalesteina?

Arwel Ellis Owen - Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd

Arwel Ellis Owen – Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd

Roedd ‘na anogaeth gan Arwel Ellis Owen, Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, i’r sawl nad yw eto yn ffrind i ymuno â’r Cyfeillion.


7 Gorffennaf 2017

Lansio’r Cyfeillion!

Logo'r Cyfeillion.Ddydd Sadwrn (Mehefin 17), cafwyd diwrnod llwyddiannus yn Aberystwyth wrth i Eiriadur Prifysgol Cymru lansio cynllun Cyfeillion y Geiriadur. Llywydd Cyfeillion Geiriadur Prifysgol Cymru yw’r Prifardd Myrddin ap Dafydd ac amlinellodd y gwerth a geir o fod yn ffrind i’r Geiriadur.

Myrddin ap Dafydd yn siarad o flaen cynulleidfa'r lansiad.

Llywydd y Cyfeillion, Myrddin ap Dafydd.

“Mae’n rhaid cael ffrind” meddai “i gyd-ddathlu ac mae gan y Geiriadur gymaint i’w ddathlu. Ers ei eni yn 1920 mae’r Geiriadur wedi cyrraedd sawl carreg filltir – cyhoeddi pedair cyfrol swmpus (o A i Zwinglïaidd), mynd ar lein a lansio fersiwn ap. Geiriadur Prifysgol Cymru yw’r unig eiriadur hanesyddol, safonol yn y byd sydd ar gael ar ffurf ap.”

“Mae angen cyfaill hefyd,” meddai Myrddin, “i gefnogi’r gwaith drwy, er enghraifft, gyflwyno geiriau, dogfennau digidol a all gynnwys enghreifftiau o eiriau, ac i hyrwyddo’r Geiriadur. Ydi pob ysgol yng Nghymru, er enghraifft, yn annog disgyblion i ddefnyddio’r Geiriadur Ar Lein ac i lawrlwytho’r ap?”

Ond yn fwy na dim, ategodd y llywydd, yn y dyddiau sydd ohoni, mae’n dda cael cyfaill i fod yn darian ac i warchod y Geiriadur.

Meddai Myrddin ap Dafydd: “Mae’r Geiriadur yn ymwneud ag isadeiledd sylfaenol y Gymraeg a dylai fod ganddo ei gorlan, ei siarter a’i gyllid annibynnol, sicr, ei hun. Mae gwaith mawr o’u blaenau i wneud y casgliad yn fwy hygyrch i ddysgwyr mewn sawl iaith”.

“Safwn gyda’r Cyfeillion felly – trowch at wefan y Geiriadur a chlicio’r botwm ‘ymuno’ yn yr Hafan.”

Yn ystod dydd Sadwrn hefyd cafwyd cipolwg ar waith Y Geiriadur gan y golygyddion Andrew Hawke ac Angharad Fychan a sgyrsiau ac atgofion hwyliog gan Myrddin ap Dafydd, Dafydd Johnston – pennaeth Y Ganolfan Geltaidd ¬– a Tegwyn Jones, cyn aelod o staff y Geiriadur.

Bydd pob cyfaill i’r Geiriadur yn cael cylchlythyr, gwahoddiad i ddarlith flynyddol a gostyngiad sylweddol ar gyfrolau a rhifynnau blaenorol.

I ddarllen bellach am y ddigwyddiad cliciwch yma.


17 Mai 2017

Chwilio am Gyfeillion!

Ar ddydd Sadwrn 17 Mehefin, bydd Geiriadur Prifysgol Cymru yn lansio cynllun Cyfeillion y Geiriadur, gyda’r bwriad o gefnogi’r Geiriadur a’i gyflwyno i’r gynulleidfa ehangaf bosibl.

Cynhelir y lansiad yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, am 2 o’r gloch, ac mi fydd yna groeso twymgalon i unrhyw un sydd eisiau ymuno â ni am brynhawn o sgyrsiau diddan, ’paned, a chyfle i ymweld â swyddfeydd y Geiriadur.

Llywydd y Cyfeillion yw’r Prifardd, awdur, Llywydd y Cyfeillion Myrddin ap Dafydddramodydd, a chyhoeddwr adnabyddus, Myrddin ap Dafydd, a fydd, ynghyd â siaradwyr eraill, yn ein diddori gan gyflwyno eitemau difyr ac ysgafn.

Bydd cyfle i gwrdd â’r staff, ac i ddarganfod ychydig am y Geiriadur a sut mae’n berthnasol ac yn eiddo i’r Cymry oll.

Am fwy o wybodaeth –
e-bostiwch ni ar cyfeillion@geiriadur.ac.uk,
neu cysylltwch â ni ar 01970 639094.

Mae’r achlysur yn agored i bawb ac am ddim, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu.


03 Chwefror 2017

Eira

Mae siarad am y tywydd yn ail natur i ni, ac yn fodd i gynnal sgwrs pan nad oes llawer arall i’w ddweud. A phetai’n bwrw eira, mae hynny’n destun siarad gan bawb!

Ond faint o eiriau sydd i ddisgrifio eira yn benodol? Mae yna ystôr ohonynt yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru, a rhai ohonynt yn hen iawn.
Er enghraifft sonnir am friwod, sef eira mân a yrrir gan y gwynt, a chynneiry, sef eira cyntaf, tua’r flwyddyn 1400 yn Llyfr Coch Hergest.
Mae’r bardd Iolo Goch yn cyfeirio at liw nyf, sef lliw eira, yn y 14eg. ganrif, a Dafydd ap Gwilym yn sôn am ôd (eira), gair sydd ar lafar o hyd mewn rhai ardaloedd yn y ferf odi (bwrw eira) .

Ar ddiwrnod eiriog (llawn o eira), efallai mai ffluwch (haen denau), ffrechen (cawod ysgafn), neu sgimpen (haen denau) a gwymp, neu daw eirwynt a lluwch neu luchfa o fanod (mân ôd, eira mân) i’n cadw i ffwrdd o’r lonydd ac o’r gwaith. Ac wrth gwrs mewn ychydig o ddiwrnodau, bydd y gwynneiry (eira gwyn) neu’r hiffiant (eira wedi ei yrru gan y gwynt) wedi troi yn isgell neu botes eira (eira tawdd) hyll a budr.

A wyddoch chi am unrhyw hen eiriau lleol neu anghyffredin i ddisgrifio’r eira (neu unrhyw dywydd arall)?
Chwiliwch amdanynt (ac am ddim) yn GPC ar lein. Ac os nad ydynt yno, byddwch mor garedig â chysylltu â ni ar gpc@geiriadur.ac.uk neu Geiriadur Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth SY23 3HH.
Rydym yn edrych ymlaen at glywed oddi wrthoch!


Caiff eitemau hŷn eu harchifo a gellir eu gweld dan y botwm Newyddion yn y panel ar y dde.
Yn ôl i’r brig