Newyddion

English

15 Mai 2023

Penodiadau newydd i staff y Geiriadur yn 2022

Ym mis Tachwedd 2022 croesawodd y Geiriadur ddau aelod newydd o’r staff, Dr Talat Chaudhri a Morgan Owen, fel Golygyddion Cynorthwyol.

Llun o staff newydd y Geiriadur yn 2022

Staff newydd y Geiriadur 2022

Mae Talat Chaudhri yn ieithydd hanesyddol a thechnolegydd. Ei faes ymchwil yw datblygiad cynnar yr ieithoedd Brythonaidd, yn enwedig sut mae newid seinegol yn gyrru datblygiadau mewn morffoleg a chrystrawen. Mae wedi gweithio ym meysydd metadata a rheoli gwybodaeth, yn enwedig gwybodaeth ymchwil yn y sector addysg uwchradd, ac mae e’n brofiadol mewn technoleg gwybodaeth a chynnal gweinyddion a systemau. Mae’n ymddiddori’n arbennig yn y Gernyweg, sef pwnc ei PhD, ac yn y Llydaweg. Aelod Comisiwn Cymunedau Cymraeg Llywodraeth Cymru ydyw ers 2022 gydag arbenigedd mewn llywodraeth leol, cynwysoldeb, a chydraddoldeb, ac ieithoedd lleiafrifol.

Mae Morgan Owen yn fardd ac yn llenor. Mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol, ac fe wnaeth un ohonynt, moroedd/dŵr, ennill iddo Wobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd. Mae ganddo radd BA Cymraeg ac MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd o Brifysgol Caerdydd. Mae ganddo gefndir mewn cyfieithu, fel Aelod Cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, a hefyd mewn hawliau Cymraeg.

Caiff eitemau hŷn eu harchifo a gellir eu gweld dan y botwm Newyddion yn y panel ar y dde.
Yn ôl i’r brig