Gwybodaeth i ddysgwyr a thiwtoriaid

English

Er bod Geiriadur Prifysgol Cymru yn eiriadur anferth academaidd ac i raddau helaeth yn eiriadur Cymraeg-Cymraeg, eto fe all fod yn ddefnyddiol i ddysgwyr (ac yn sicr i’w tiwtoriaid) yn ei ffurf electronig. Mae ar gael ar lein ac fel ap, ac mae’n cynnig cynorthwyon fel help gyda sillafu a’r treigladau.
Rydym wedi paratoi taflen ddwyieithog yn arbennig ar gyfer dysgwyr a’u tiwtoriaid. Gallwch ddarllen y daflen ar lein neu ei phrintio, ac mae’n iawn printio digon o gopïau i’r holl ddosbarth. (Mae’n hollol ddarllenadwy mewn du a gwyn os nad oes modd ei phrintio mewn lliw.)

 

Gallwch ei darllen a’i lawrlwytho yma: GPC-Taflen-dysgwyr.pdf

Deunyddiau dysgu
Rydym wedi paratoi dau gwis i helpu dysgwyr ymarfer defnyddio’r Geiriadur, un i ddechreuwyr ac un i ddysgwyr mwy profiadol.
Mae dau fersiwn o bob cwis, un gyda lle i sgrifennu’r atebion, ac un gyda’r atebion.
Mae croeso i diwtoriaid brintio digon o gopïau i’r holl ddosbarth.

Cwis dechreuwyr
Cwis dechreuwyr (+ atebion)

Cwis dysgwyr profiadol
Cwis dysgwyr profiadol (+ atebion)

Croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych broblemau neu gwestiynau – Cysylltu

Yn ôl i’r brig