English
Covid-19:
Ar hyn o bryd mae staff y Geiriadur yn gweithio gartref yn bennaf, ond mae’r gwaith o ddrafftio a golygu erthyglau newydd yn mynd yn ei flaen o hyd ac mae GPC Ar Lein ar gael o hyd. Mae modd cysylltu â ni, ond mae’n bosibl na fydd neb yn y swyddfa i ateb y ffôn bob dydd.
Canmlwyddiant y Geiriadur:
Sefydlwyd GPC ym 1921, a dechreuodd y gwaith caled o gasglu tystiolaeth – gwaith a wnaed gan wirfoddolwyr gan mwyaf. Rydym yn dathlu’r canmlwyddiant gyda nifer o ddigwyddiadau rhithiol eleni.
Gallwch weld seminar ddarluniadol Mary Williams, un o Olygyddion Cynorthwyol GPC, ar sianel YouTube y Ganolfan yma.
Cynhelir sesiwn yn yr Eisteddfod AmGen ar ddydd Mercher, 4 Awst am 11:30 y bore. Gweler manylion pellach yma. Bydd modd gweld recordiad ar ôl y digwyddiad.
Bydd mwy o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal eleni, a’r flwyddyn nesaf bydd arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol a Chynhadledd a ohiriwyd oherwydd y pandemig.
Cyfeillion y Geiriadur:
Bu’n rhaid gohirio cyfarfodydd y Cyfeillion yn ddiweddar, ond mae croeso i bob Cyfaill fynychu’r sesiwn rithiol yn yr Eisteddfod AmGen (gw. uchod). Mae gennym gynnig arbennig i’n Cyfeillion i gyd – gan gynnwys rhai sy’n ymuno eleni: llyfr nodiadau hardd a phen belbwynt arbennig i nodi Canmlwyddiant GPC am y pris gostyngol o £5 yn unig (gan gynnwys cludiant yn y DU). Ceir mwy o fanylion yma.
Croeso i wefan Geiriadur Prifysgol Cymru
Geiriadur Prifysgol Cymru yw unig eiriadur Cymraeg hanesyddol safonol yr iaith Gymraeg.
Gellir ei gymharu’n fras o ran ei ddull a’i gwmpas â’r Oxford English Dictionary.
Mae’n cyflwyno geirfa’r iaith Gymraeg o’r testunau Hen Gymraeg cynharaf, drwy lenyddiaeth doreithiog y cyfnodau Canol a Modern, hyd at y cynnydd aruthrol yn yr eirfa sy’n deillio o’r defnydd ehangach o’r iaith ym mhob agwedd ar fywyd yr hanner canrif diwethaf.
Diffinnir yr eirfa hon yn Gymraeg, ond rhoddir cyfystyron Saesneg yn ogystal. Rhoddir sylw manwl i ffurfiau amrywiol, cyfuniadau, a tharddiad geiriau.
Seilir y gwaith ar gasgliad o dros ddwy filiwn o slipiau ac arnynt ddyfyniadau o amrywiol destunau – casgliad a grynhowyd dros amser ac yr ychwanegir ato yn barhaus.
Erbyn hyn mae’r staff yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i gasglu tystiolaeth ar ffurf ddigidol ac i olygu’r Geiriadur, gan ddiweddaru’r cynnwys yn rheolaidd.
Yn 2014 cyhoeddwyd fersiwn ar lein am ddim o’r Geiriadur: GPC Ar Lein, sy’n cynnwys holl ddeunydd yr argraffiad cyntaf a’r ail argraffiad, ynghyd â miloedd o eiriau newydd a ychwanegwyd ato ers hynny.
Lansiwyd apiau ffôn ar gyfer ffonau Apple ac Android gyda nawdd Llywodraeth Cymru, sydd ar gael am ddim ac sy’n rhoi mynediad i holl gyfoeth y Geiriadur. Erbyn hyn mae’r ap hefyd ar gael ar dabledi Amazon Fire.
Mae’r Geiriadur yn brosiect ymchwil o fewn Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru ar safle’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ac yn derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.