Croeso i GPC+

Helpwch ni i greu adnodd newydd

Bwriad GPC+ yw cynnig mynediad i rai o adnoddau Geiriadur Prifysgol Cymru nad ydynt ar gael fel rhan o’r Geiriadur ei hun, sef y slipiau papur yn cynnwys enghreifftiau o eiriau yn eu cyd-destun a gasglwyd dros ganrif bron er mwyn paratoi’r Geiriadur. Ond cyn y gellir defnyddio’r adnodd, bydd angen ei greu!

Ystafell Slipiau

Ystafell y slipiau

Bydd modd i chi gyfrannu at hyn drwy drawsgrifio slipiau. Os bydd digon o bobl yn fodlon helpu fel hyn, dros amser bydd adnodd defnyddiol iawn ar gael. Mae gan y Geiriadur ryw 2.5 miliwn o slipiau papur a baratowyd o 1921 ymlaen, casgliad sy’n dal i dyfu (er bod llawer iawn o ddeunydd cyfoes yn cael ei gasglu’n ddigidol erbyn hyn). Llai nag 20% o’r slipiau sy’n ymddangos yn y Geiriadur fel dyfyniadau – ac mae llawer o’r rheini’n gyfeiriadau moel yn unig heb destun enghreifftiol.

Mae hanes hir gan y Geiriadur o elwa ar waith gwirfoddolwyr. O’r dyddiau cynharaf yn y 1920au, darllenodd cannoedd o bobl wahanol destunau gan nodi enghreifftiau ar slipiau o bapur a’u hanfon at swyddfa’r Geiriadur yn Aberystwyth. Parhaodd y gwaith hwn drwy flynyddoedd cythryblus yr Ail Ryfel Byd, ac mae’r staff yn dal i dderbyn cyfraniadau heddiw – ond fel arfer ar ffurf ddigidol.

Slipiau Papur wedi'u Trefnu

Bocsaid o slipiau

Cyhoeddwyd y Geiriadur mewn 61 o rannau rhwng 1950 a 2002, ac yna cyhoeddwyd dechrau’r ail argraffiad (A a rhan o B) rhwng 2003 a 2013. Yn 2014 lansiwyd GPC Ar Lein a’i ddilyn yn 2016 gydag apiau Android ac iPhone. O 1950 ymlaen mae slipiau ychwanegol wedi bod yn cyrraedd – rhai yn cywiro’r Geiriadur, rhai’n ychwanegu ato, a rhai yn dyblygu enghreifftiau yn y Geiriadur. Casglwyd rhyw 390,000 ohonynt i gyd, a’r bwriad yw dechrau drwy roi’r rhain ar lein.

Mae rhai miloedd o slipiau newydd eu digido. Os oes diddordeb gennych, y cwbl sydd ei angen yw cofrestru ar lein fel gwirfoddolwr, ac yna ddewis delwedd o slip a dechrau copïo’r manylion i ffurflen ar lein. Peidiwch â phoeni na fyddwch yn gallu darllen popeth ar y slip – bydd modd nodi problemau fel y gallwn ni edrych arnynt eto.

Slipiau Papur

Slipiau Papur

Drwy wneud hyn byddwch yn dod ar draws geiriau newydd a dyfyniadau diddorol (a digri, weithiau!) gan gyfrannu at brosiect o bwysigrwydd cenedlaethol sy’n ceisio cofnodi hanes geirfa’r Gymraeg o’i chychwyn cyntaf hyd heddiw.

Mae pob slip yn wahanol – a phob un yn ddiddorol. Cewch drawsgrifio faint fynnoch o slipiau. Does dim rhaid gwneud pob slip un ar ôl y llall – gallwch neidio slipiau sy’n edrych yn rhy anodd neu’n anniddorol.

Mae adran ‘Cyfarwyddiadau’ ar gael i bobl sy’n awyddus i ddarllen mwy cyn dechrau, neu fe allwch gychwyn yn syth – gan gyfeirio at y sylwadau byr a geir yn y golofn ar y dde.

Gallwch gofrestru i wneud y gwaith yma (os heb wneud eto)

Dechrau trawsgrifio

Diolch yn fawr am eich help!


Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru Cymeradwywyd gan Dictionary Portal Linc Rhodd Cymorth