Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3b-000207

bantingaf1: batingo   ?amr. petingo

Cae betin, cae bieting (Disgrifiad da o'r arfer yn Tarian y Gweithiwr 03 Rhagfyr 1903 t3 dan Llanilltyd Faerdref)

Yr oedd Dafydd [Morgan] yn ffermwr medrus, yn ddyn diwyd, ymdrechol, llafurus a gofalus. Yr oedd ... yn neillduol mewn tri neu bedwar o bethau. Yn un peth, fel petingwr. Feallai nad oes ond ychydig yn gwybod am y grefft, yr hon oedd mewn bri mawr yn mhlith ffermwyr llafurus y dyddiau gynt. Pan oedd ffermwyr yn ffermu, yr oedd petingo mawr, a phan ddaw ffermwyr i ffermu eto, bydd mewn bri yn ein gwlad. Byddai y ffermwyr yn arfer trin y tir garw a gwyllt, sef tir eithinog a choediog. Byddent yn diwreiddio'r eithyn a'r hen goed, ac yn ei lanhau yn lan. Yna cymerant offer wedi ei osod ar bren, wedi ei osod a'i drin i'r amcan, a phren croes ar y pen arall. Yna, gyrent hwnw, gan godi y tywarch mor deneu a chyson o droedfedd i haner llath o hyd yr un, a thua naw modfedd o led. Fel yma codent y tywarch teneu nes y byddai gwyneb y ddaear yn lan a choch. Offer oedd hwnw i dynu croen yr hen ddaear ffwrdd mor glir a glan, a chyda'r cysondeb mwyaf. Yr oedd rhaid bod yn dipyn o gampwr cyn y gallasoch fetingo, yn herwydd trwy nerth y morddwydydd yr oedd yn gyru yr offer, ac yr oedd yn waith caled iawn i ddynion cryfion. Byddai y tywarch teneuon hyn yn sychu, a byddent yn eu llosgi, a dyna y peth a alwyd yn 'llosgi difetyn'. Yr oedd bechgyn bach yn gallu troi y tywarch a'u trosi a'u llosgi. Yr oedd y tân yn un gwresog iawn. Nid oedd fflamiau oddiwrtho, ac nid oedd yn llosgi yn briodol os buasai fflamiau; tân mud cyson oedd oreu o lawer, o herwydd yr oedd yn llosgi yn fwy llwyr, a'r lludw yn well. Dyna le i ddigoni tatws neu wyau oedd yn y pit difetyn.

Dyna, yn fyr, air bach am betingo a llosgi y tywarch, a chael trwsiad ar gyfer tir tatws neu lafur. Dyna le i godi tatws oedd y tir wedi codi'r wyneb, fel yr wyf wedi nodi, a gwasgaru y lludw ar hyd y wyneb. Yr oedd tir wedi ei drin fel hyn yn taflu cropiau ardderchog o unrhyw beth. Fel hyn, yr oedd y tir gwyllt yn cael ei ddwyn trwy ei drin, a'i drin i daflu llafur, clover a gwair, etc. Dyna dipyn bach am ffermu.

Tarian y Gweithiwr (03 Rhagfyr 1903) t3 

1903