Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3b-000268

berd

Sylwch ar y brigau mân ar hyd pen y wal yn yr hen lun o Lanfair uchaf ger Harlech (saeth felen). Gwaith "berdio" yw hwn i rwystro defaid rhag dringo'r wal. "Gartre yn hel ferd" meddai Edward Thomas o Gwm Main, Y Bala yn ei ddyddiadur ar gyfer Mai 1774*. Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, o'r Saesneg 'beard' y daw. Ym Môn tocio gwrych yw ystyr y gair, a sbarion trin gwrych felly fuasai brigau yn y fan honno. Yn Arfon, gosod brigau ar ben wal yw "berdio" ac mae'r gair "berd" o'r Bala yn awgrymu defnydd tebyg yno hefyd.  [* Traf. Hyn. Sir Feir. 1969]

Bwletin Llên Natur viii, (2008) 4

1774/2008