Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3b-000441

blagard

Ar lafar yn gyff. yng ngogledd Cered. hefyd. Roedd stori gan fy mam am wraig yn byw yn yr un pentref â'i mam hithau (sef fy mam-gu i, Susannah Jones wrth ei henw) yn ystod y Rhyfel Mawr. Gwraig, druan, a fyddai'n geni plentyn bron bob blwyddyn, ac yn cael ei cham-drin yn gyffredinol gan ei gŵr. Ond bu'n rhaid iddo ef ymrestru yn y fyddin, ac ymhen tipyn daeth neges i ddweud ei fod ar goll ac o bosib wedi ei ladd – 'missing presumed dead'. Bu i'w wraig, yn ôl yr hanes, alaru'n dawel ond yn orfoleddus. Sut bynnag, a'r Rhyfel yn dirwyn i ben, daeth telegram i ddweud nad oedd y cyfaill wedi ei ladd wedi'r cyfan, a'i fod yn fyw ac yn iach ac ar ei ffordd adref. Digwyddodd fy mam-gu (yn ôl mam) fynd heibio i gartref y wraig anffodus yn fuan wedi i'r telegram gyrraedd, a'i chael yn ei dagrau ar stepen y drws. 'Siw fach!' oedd ei geiriau, 'ma'r hen flagard yn fyw!'

Nid wyf yn disgwyl i chi gynnwys y stori hon yn y Geiriadur, ond y mae'n brawf fod y gair blagard (fel y blagard ei hun) yn fyw ac yn iach yng ngogledd Cered. c. 1918

c. 1918 [?]