Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3c-001235

calchiad (cysylltiad gyda 'cachiad')

Teitl colofn Arthur Tomos yr wythnos arbennig hon yw 'Hunllef y mwynwyr ar fin dod i ben?'. Gwaelod colofn gyntaf yr ysgrif: 'Yn chwareli llechi Blaenau Ffestiniog ers talwm, byddai'r lefelydd yn mynd i lawr yn bell o dan ddaear ac ni fyddai'n ymarferol i chwarelwr ddod i'r wyneb bob tro yr oedd angen 'troi clos'. Felly, neilltuwyd hen lefel ddiarffordd i'r pwrpas a'i galw'n 'L.G'. Gan fod peryglon iechyd yn dilyn, rhoddwyd bwcedaid o galch wrth geg y lefel er mwyn i'r dyn ei daenu dros y carthion i ladd unrhyw facteria, a daeth yr ymadrodd 'calchiad' a 'mynd am galchiad' yn ffordd weddus o ddisgrifio'r weithred!'

Colofn Arthur Tomos: 'Hunllef y mwynwyr ar fin dod i ben?': Y Cymro (8 Hydref 2010) tud. 4

2010