Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3c-003174

carreg

[Llythyr:] [Pennawd: Carreg sidan?] Rai wythnosau yn ôl fe anfonais air i sôn fel y byddai fy mam, oedd yn cadw siop, yn rhoi menyn i gadw'n oer i lawr pydew sydd yma yn yr ardd gefn. Yr oedd yn ei roi mewn piser efo dail riwbob arno.

Yr oedd y dŵr yn od o oer, ac fe fyddai hi yn dweud mai dŵr oddi ar garreg sidan oedd o.

Meddwl oeddwn i, a oes rhywun wedi clywed sôn am garreg sidan o'r blaen?

Edrych ymlaen at y Daily Post Cymraeg bob dydd Mercher.

Bessie Owen, Niwbwrch [Daily Post, 7/10/2009]

[Nodyn lluniwr y slip:] Fe welir fod y toriad yn dod o rifyn 7/10/2009 o'r Daily Post. Nid oedd ateb yn rhifyn 14/10/2009. Nid oeddwn yn gallu siecio rhifyn 21/10/2009 etc.

Bessie Owen, Niwbwrch [Daily Post, 7/10/2009]

2009