Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3c-004228

ceffyl

cefyl gwedd: Y mwyaf a'r trymaf oll o deulu'r ceffyl, yn ddwy law ar bymtheg o daldra ac yn pwyso oddeutu tunnell. Mae iddo facsiau y tu ôl i'w egwydydd; h.y. tusw o flew uwchlaw'r carnau. Diwydrwydd, addfwynder a challineb yw rhai o'i brif nodweddion. Daw'r gair 'gwedd' [fe'i hitaleiddiwyd yn y gwreiddiol], a gofnodwyd yng Nghyfraith Hywel Dda mewn cysylltiad â chyfreithiau'n ymwneud ag ychen, o Hen Gymraeg a'i ystyr yw gyrr neu dîm o ychen ar gyfer aredig – bryd hynny yn wedd o wyth. Pedair ychen a arferid eu defnyddio mewn gwedd ym Môn, er bod chwedl werin yn adrodd hanes colli wyth o ychain a foddwyd wrth Llyn Wyth Eigion yng Nghors Erddeiniog, plwyf Tregaian oherwydd cenfigen y perchennog at y gyrrwr. O ganol y ddeunawfed ganrif daeth Deddf Amgáu Tir Comin i'r ynys ac o'r oherwydd tyfwyd mwy o ŷd i'w allforio fel cnydau pres, yn enwedig gwenith a haidd. Roedd haidd angen calch ac roedd y cyflenwad calch ymhell felly bu'n rhaid i'r ffermwyr gadw mwy o geffylau gwedd nag ychain i geisio gwedd gyflymach i'w gludo.

DGM (1999) 34

1999