Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3c-004255

ceffyl

Ceffyl rhwng dau waith: Ceffyl o groesiad ceffyl gwedd a cheffyl ysgafnach. Roedd y rhain yn mesur tua phedair llaw ar ddeg a hanner o uchder o'r llawr i'r ysgwydd. Cyflawnent ddibenion triphlyg, sef cael eu marchogaeth i dynnu llwythi heb fod yn rhy drwm ac i wneud tipyn o waith ar y tir. Nid oeddent yn ddigon cryf i aredig neu i dynnu rhowlen serch hynny. Prynodd a gwerthodd fy nhaid gannoedd yn ei amser a'u hanfon i ddinasoedd Lloegr i weithio fel ceffylau tynnu ceir llaeth neu drafnidiaeth ysgafn. 

DGM (1999) 34

1999