Pori’r Slipiau

ABCChDDdEFFfGNgHIJLLlMNOPPhRRhSTThUWY

Trawsgrifiad y Slip

< I'r Slip BlaenorolI'r Slip Nesaf >3c-000777

caer

Caer (nid Cae'r) Person (:) Tir amgaeedig a oedd yn rhan o'r tir comin. Dyma derm sy'n mynd yn ôl ganrifoedd lawer, pan oedd y mwyafrif helaeth o dir Môn heb ei amgáu. Amgylchynid pob pentref a threflan gan dir comin lle'r oedd gan bawb hawl i gyd-fuchesa – hynny yw, i gyd-bori. Yn y cyfnod hwn, nid oedd person y plwyf yn derbyn ond cyfran fechan o incwm degwm ei blwyf. Câi rhan o'r tir comin – rhyw ddeg neu ddeuddeg erw efallai – ei roi gan y plwyfolion a'i amgáu â chloddiau er mwyn i'r person gael amaethu rhyw ychydig a chodi cnydau i wella myryn ar ei fywoliaeth.

DGM (1999) 30

1999