| > |
yn rhoi |
| < |
yn tarddu o |
| * |
yn dynodi ffurf dybiedig nad oes enghraifft ohoni, ond sy’n debygol yn ôl deddfau sain; hefyd ar ôl person cyntaf presennol mynegol berfau ddifygiol, e.e. adanaf*: adeni, i ddynodi mai ffurf dybiedig ydyw |
| = |
yn cyfateb i |
| ≡ |
i’w ynganu fel |
| ? |
i ddynodi ffurf, dyddiad, ystyr, neu darddiad amheus |
| † |
i ddynodi bod ffurf yn amlwg yn anarferedig, e.e. o flaen rhai o’r glosau, e.e. †amnawbod, neu fod orgraff y dangosair yn hynafol, e.e. †diguormechis |
| ( ) |
i ddynodi blwyddyn cyhoeddi’r argraffiad a ddarllenwyd oni ddarllenwyd yr argraffad cyntaf, e.e. 1659 (1751) GIA, sef Galwad Ir Annychweledig |
| [ ] |
i gynnwys elfennau gair neu ymdriniaeth â’i darddiad; i ddynodi bod tudalen heb ei rifnodi; bod blwyddyn cyhoeddi’r Ilyfr heb ei nodi; i egluro’r cyd-destun; i ddynodi mai treigledig yw’r gytsain yn y gair; i lenwi bwlch mewn llawysgrif neu lyfr, ac i rai dibenion amlwg eraill |