2014

English

Rhagfyr 2014

Fersiwn newydd o GPC Ar Lein

Android:

Cyhoeddwyd fersiwn newydd o’r Geiriadur ar 9 Rhagfyr. Am y tro cyntaf, mae’r fersiwn hwn yn rhedeg yn iawn ar ffonau a thabledi Android. Mewn rhai porwyr (e.e. Chrome a Firefox) nid oes modd gweld esboniadau ar y byrfoddau gramadegol a llyfryddol wrth dapio arnynt (fel sy’n bosibl ar gyfrifiadur arferol neu ar declynnau iOS) ond mae’r rhain yn gweithio gyda phorwr Android ei hun (y ‘minibrowser’ neu’r ‘open-source browser’).
Gobeithio bydd y fersiwn hwn yn llawer haws i’w ddefnyddio ar declynnau Android.
Rhowch wybod os bydd unrhyw broblemau.

Fersiwn newydd GPC Ar Lein yn rhedeg ar Android.

Fersiwn newydd GPC Ar Lein yn rhedeg ar Android.

Gwelliannau eraill:

Mae’r fersiwn hwn hefyd yn gwella’r proses o chwilio drwy gymryd y treigladau i ystyriaeth. O hyn ymlaen, os chwiliwch am air, bydd y canlyniadau a ddangosir ar y chwith yn cynnwys cyfuniadau sy’n cynnwys ffurfiau treigledig o’r gair. Er enghraifft, os chwiliwch am ‘brig’, cewch gyfuniadau fel ‘awr frig’, ‘codi ym mrig’, a ‘mân frig’ yn ogystal â ‘brig yr hwyr’ ac ‘o’r brig i’r bôn’.

Canlyniadau chwilio am 'brig' gan ddangos ffurfiau treigledig.

Canlyniadau chwilio am ‘brig’ gan ddangos ffurfiau treigledig.

Mae GPC yn ceisio dilyn canllawiau orgraff (neu sillafu) Orgraff yr Iaith Gymraeg (3ydd arg., Caerdydd, 1987). Newidiwyd sillafiad rhai geiriau yn y fersiwn hwn i gydymffurfio â’r dehongliad diweddaraf o’r canllawiau hyn (er enghraifft, newidiwyd ‘caeëdig’ i ‘caeedig’). Os byddwch yn chwilio am air sydd wedi’i sillafu’n ansafonol mae GPC Ar Lein bellach yn ceisio’ch cyfeirio at y sillafiad safonol. Er enghraifft, os chwiliwch am ‘adborth’ bydd ‘atborth’ yn cael ei gynnig. Cliciwch ar hwnnw i weld y cofnod llawn.

Cywiro gwallau a safoni:

Mae’r data sydd ar gael nawr wedi’i gywiro a’i safoni. Mae degau o filoedd o fân newidiadau yn y data mewn ymgais i hwyluso chwilio’r data, cywirwyd rhai gwallau teipio, a chysonwyd y gwaith. Nid oes geiriau newydd, ystyron newydd, na chyfuniadau newydd yn y data y tro hwn. Bwriedir cyhoeddi’r swp nesaf o gofnodion newydd sbon ymhen rhyw dri mis. Bydd y rhan fwyaf o’r rhain yn eiriau cymharol newydd a ddaeth yn gyffredin ar ôl cyhoeddi’r rhannau perthnasol o GPC.

Diolch i bawb sydd wedi cynnig sylwadau, wedi cywiro gwallau, neu wedi anfon tystiolaeth newydd atom. Gellwch gysylltu â ni mewn sawl ffordd, cliciwch yma neu ar dudalen ‘Cysylltu‘.


15 Awst 2014

GPC yn y Steddfod

Seremoni’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol 2014

Seremoni’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol 2014

Cafwyd wythnos hwyliog iawn yn Eisteddfod Llanelli 2014. Bu nifer o staff y geiriadur yn gweithio ar stondin Prifysgol Cymru ar faes y brifwyl.

Ymwelwyr yn stondin Prifysgol Cymru ac GPC

Ymwelwyr yn stondin Prifysgol Cymru ac GPC

Galwodd nifer o gyfeillion draw i weld sut oedd defnyddio’r Geiriadur ar lein.

Simon Thomas, A.C., yn dangos ei gefnogaeth i GPC Ar Lein

Simon Thomas, A.C., yn dangos ei gefnogaeth i GPC Ar Lein

Bnawn Gwener yr Eisteddfod daeth Arwel Elis Owen a Simon Thomas, A.C., i’r stondin i roi sgwrs fer ar bwysigrwydd cyhoeddi’r Geiriadur ar lein a sicrhau nawdd cyhoeddus iddo.

Angharad Fychan yn arddangos GPC Ar Lein

Angharad Fychan yn arddangos GPC Ar Lein

Fe gafodd y gynulleidfa gyfle i glywed Angharad Fychan, un o Olygyddion Hŷn y prosiect, yn esbonio sut i ddefnyddio gwefan newydd y Geiriadur.


05 Awst 2014

GPC Ar Lein yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Taflen yn nodi manylion cyflwyniad ar GPC Ar Lein ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli

Bydd cyflwyniad ar GPC Ar Lein ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli

Am gyfle i ddysgu mwy am y Geiriadur Ar Lein a sut mae ei ddefnyddio, dewch draw i babell Prifysgol Cymru ar faes y Brifwyl yn Llanelli (rhif LL04, gyferbyn â’r pafiliwn) ddydd Gwener 8 Awst am 3 y pnawn.


24 Gorffennaf 2014

Cyflwyno’r wefan newydd a’r Geiriadur Ar Lein

Angharad Fychan yn dangos y wefan newydd

Angharad Fychan (ar y chwith) yn dangos y wefan newydd

Yn dilyn y lansiad llwyddiannus a gafwyd i’n gwefan newydd a’r Geiriadur Ar Lein ar Fehefin 26ain, dyma ein dwy olygydd hŷn, Manon Roberts ac Angharad Fychan, yn eu harddangos yn fyw.

Angharad Fychan yn dangos sut i chwilio’r Geiriadur Ar Lein

Angharad Fychan yn dangos sut i chwilio’r Geiriadur Ar Lein

Buont yn cyflwyno’r ‘app’ newydd yng nghyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ar y 4ydd o Orffennaf lle y rhoesant gyflwyniad a chanllaw gam wrth gam i nodweddion niferus a hyblyg y Geiriadur Ar Lein sydd ar gael am ddim.

Canlyniad chwilio ar y Geiriadur Ar Lein

Canlyniad chwilio ar y Geiriadur Ar Lein

Cafodd y sesiwn anffurfiol dderbyniad gwresog gan aelodau’r pwyllgor a oedd yn cydnabod yr ymdrech a’r gwaith caled a wnaethpwyd gan GPC a’r cwmni sy’n cydweithio â ni, iLEX Digital Publishing, er mwyn creu ein presenoldeb newydd ar lein.


03 Gorffennaf 2014

Diwrnod hanesyddol – Lansio GPC Ar Lein

Ar ôl tair blynedd o waith, cafodd GPC Ar Lein ei lansio gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, AC, yn y Senedd, ar 26ain o Fehefin 2014.

Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, AC

Carwyn Jones, AC yn lansiad GPC Ar Lein.

Yn ystod ei araith pwysleisiodd y Prif Weinidog:

“Mae’r fersiwn ar lein yma yn gam mawr ymlaen yn hanes y Geiriadur. Bydd yn galluogi pobl i ddod o hyd i wybodaeth yn hawdd ac yn gyflym, trwy ddefnyddio technoleg fodern.”
“Hoffwn longyfarch staff Geiriadur Prifysgol Cymru ar y gwaith ardderchog maen nhw wedi ei wneud i gyflwyno’r fersiwn ar lein. Mae’n wasanaeth gwych, a fydd yn cefnogi twf yr iaith dros y blynyddoedd i ddod.”

Roedd y cyfnod cyn y lansiad yn gyfnod o brysurdeb mawr yma yn GPC a’r diwrnod cyn y digwyddiad mawr aeth y staff i Gaerdydd i sicrhau bod popeth yn ei le ac yn gweithio’n iawn ar gyfer y seremoni.

Ar ôl yr holl baratoi, a gwneud yn siŵr bod popeth fel y dylai fod, fe fanteision ni ar y cyfle, gyda chydweithwyr, i ymlacio a dadweindio mewn swper cyn y lansiad ym mistro Cote ym Mae Caerdydd.

Staff GPC yn cael swper cyn y lansiad.

Staff GPC a ffrindiau yn ymlacio cyn y diwrnod mawr.

Gwelir rhai o’r swyddogion oedd yn bresennol ar y diwrnod yn y llun isod:

Officials at the launch of GPC Online

Y lansiad yn y Senedd.

Yr Athro Dafydd Johnston, Jens Erlandsen, Andrew Hawke, Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Yr Athro Medwin Hughes, Meri Huws ac Alun Thomas

Aeth y seremoni lansio ei hun yn dda iawn a chafodd y wefan newydd a’r Geiriadur Ar Lein dderbyniad a chroeso brwd.

Carwyn Jones, AC, yn siarad yn y lansiad.

Carwyn Jones, AC, yn siarad yn y lansiad.

Yr Athro Dafydd Johnston ac Andrew Hawke yn siarad yn ystod y lansiad.

Yr Athro Dafydd Johnston ac Andrew Hawke yn lansiad GPC Ar Lein.

Aeth y gair ar led yn gyflym a denodd GPC Ar Lein 10,251 o ymwelwyr i’r dudalen chwilio ar y diwrnod cyntaf hwnnw.

Ar ôl i ran ffurfiol y gweithgareddau ddod i ben, roedd staff y Geiriadur wrth law i roi cyflwyniad personol i GPC Ar Lein i’r gwahoddedigion ac i annog y rhai oedd yn dymuno hynny i ‘roi cynnig arni’.

Dangos sut i ddefnyddio GPC Ar Lein.

Manon Roberts, un o’r golygyddion hŷn, yn dangos sut i ddefnyddio GPC Ar Lein ar iPad.

Aelod o staff GPC yn trafod nodweddion GPC Ar Lein gydag un o'r gwesteion.

Angharad Fychan, un o’r golygyddion hŷn, yn egluro sut i ddefnyddio GPC Ar Lein.

Brenda Wiliams, un o'r golygyddion cynorthwyol, yn annog gwesteion i `roi cynnig arni'.

Brenda Wiliams, un o’r golygyddion cynorthwyol, yn annog gwesteion i `roi cynnig arni’.

Mae prosiect GPC Ar Lein yn ben draw gwaith nifer o flynyddoedd sy’n rhoi’r geiriadur hanesyddol hwn, sydd wedi ennill cydnabyddiaeth eang, ar gael am ddim am y tro cyntaf i bawb.

Yn ogystal â bod yn adnodd ar gyfer ymchwil i ysgolheigion ac academyddion, ac yn ffynhonnell gyfeiriol i ysgolion ac adrannau llywodraeth, bydd GPC Ar Lein yn amhrisiadwy i unrhyw un sy’n dymuno dysgu mwy am yr iaith Gymraeg a’i hanes cyfoethog.

Mwy o luniau swper:

Staff a chyfeillion GPC yn mwynhau gwledd.

Staff a chyfeillion GPC yn mwynhau gwledd.

Staff a chyfeillion GPC yn mwynhau gwledd.

Staff a chyfeillion GPC yn mwynhau gwledd.

Diolch i Huw Dylan Owen @Gurfal am yr englyn i ddathlu lansiad GPC Ar Lein

Yn rhad dyma’r @geiriadur – pora ef
Heb bres am wir ystyr
A daw elw heb dalu’r
Bunt boeth, yn gyfoeth heb gur.


26 Mehefin 2014

Newid gyda’r amserau

Mae hwn yn amser cyffrous, ac mae’r Geiriadur yn esblygu i gwrdd ag anghenion defnyddwyr cyfoes.

Mae’r ffyrdd y mae pobl yn dod o hyd i wybodaeth ac yn ei defnyddio wedi newid yn
ddramatig yn y blynyddoedd diwethaf ac yma, yn GPC, rydym wedi gweithio’n galed i wella mynediad ac argaeledd ar gyfer cenhedlaeth newydd o ddefnyddwyr.

GPC Ar Lein

Yn 2011, dechreuwyd cydweithio gyda chwmni EMP (Erlandsen Media Publishing) o
Ddenmarc i drosi data’r Geiriadur i XML ar gyfer system olygu eiriadurol iLEX, ac i gynhyrchu geiriadur ar lein.

Yn y fersiwn ar lein rhad ac am ddim hwn bydd modd chwilio yn hwylus am eiriau ac ymadroddion Cymraeg, a geiriau Saesneg. Bydd yn adnodd amhrisiadwy i bawb sy’n ymddiddori yn y Gymraeg.


Yn ôl i’r brig